4. Cymhwysedd
Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Ieuenctid. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.
4.1. Hyd prosiectau
Mae hyd prosiectau cymwys fel a ganlyn:
- 12 mis
- 18 mis
- 24 mis
Gwnewch yn sicr eich bod chi’n deall gofynion fisa y wlad/gwledydd rydych chi’n bwriadu ymweld â hi/nhw a chaniatáu digon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (lle bo’n berthnasol).
Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisas na darparu cymorth gyda cheisiadau fisa.
4.2. Sefydliadau cymwys
Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.
Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.
Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.
4.2.1 Sefydliadau cymwys i ymgeisio (sector Ieuenctid):
Sefydliadau a grwpiau sy’n cael eu rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n gweithio ym maes ieuenctid gan gynnwys:
- cyrff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol
- sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau dielw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant
- consortiwm o sefydliadau/darparwyr sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran nifer o sefydliadau sy’n gweithio ym maes ieuenctid. Rhaid i bob aelod o gonsortiwm o’r fath gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes ieuenctid, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Cyflwynir tystiolaeth foddhaol i ddangos:
1) sut y bydd gweithgarwch arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
2) bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, cyfranogwyr sy’n ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer.
Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwysedd nad yw’n gweithredu er elw.
Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu i roi gwybod a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid. Os nad ydych chi’n sicr ac eisiau gwirio eich cymhwyster sector, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru
4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneri â nhw:
Yn gyffredinol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i’r sefydliadau rhyngwladol canlynol y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain (pan fydd symudeddau grŵp rhagarweiniol yn angenrheidiol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DU):
- Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n darparu addysg i oedolion a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r darparwr yn gweithredu ynddi ac wedi’i ymgorffori a/neu sefydlu ynddi
- unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n gweithredu ym meysydd addysg, hyfforddiant a dysgu oedolion
Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau partner rhyngwladol cymwys.
4.3. Symudedd a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael
Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys. Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael. Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru . Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.
Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae cyfraddau grant a chostau cymwys i’w gweld yn adran 5.
Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.
4.3.1 Gweithgareddau Pobl ifanc
Symudedd Grŵp
Symudedd grŵp: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 4 wythnosSymudedd rhagarweiniol yn y DU: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 5 diwrnod
Mae symudedd grŵp yn gyfle i grwpiau sy’n cynnwys o leiaf 3 person ifanc gael profiad o gyfnewid dysgu rhyngwladol, ynghyd â staff a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i staff o’r sefydliad fod gyda’r dysgwyr drwy gydol y gweithgaredd. Rhaid i weithgareddau a gynllunnir fod â chanlyniadau dysgu wedi’u diffinio’n glir. Gall dysgu fod yn ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol, ond rhaid iddo gynnwys cyfnewid a chydweithio â chyfoedion o sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.
Nid yw symudedd nad yw’n cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd arall yn gymwys i gael cyllid
Symudedd grŵp rhagarweiniol:
Mae’r rhain yn weithgareddau symudedd rhagarweiniol byr yn y DU ac sy’n bosibl yn rhan o ddilyniant i weithgaredd symudedd rhyngwladol, lle mae sefydliadau sy’n gwneud cais yn teimlo na fyddai gweithgaredd symudedd rhyngwladol yn gyraeddadwy fel arall. Rhaid i geisiadau am symudedd grŵp rhagarweiniol hefyd gynnwys symudedd grŵp rhyngwladol ar gyfer yr un cyfranogwyr arfaethedig. Rhaid esbonio yn y cais pam mae gweithgareddau symudedd rhagarweiniol yn y DU yn hanfodol i alluogi eich disgyblion i wneud gweithgareddau symudedd rhyngwladol.
Dim ond ar gyfer symudedd grŵp dysgwyr y mae symudedd rhagarweiniol yn gymwys.
Costau cymwys
Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Pobl ifanc a phobl sy’n gwmni):
Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.
- grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
- grant teithio.
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)
Cyfranogwyr cymwys
Pobl ifanc:
Pobl ifanc 11-25 oed sy’n ymgysylltu’n weithredol â sefydliad cymwys sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, fel y’i diffinnir yn yr adran sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais yng Nghanllaw Rhaglen Graidd Taith (dolen).
Pobl sy’n gwmni:
• Staff sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, sydd â chontract cyflogaeth gyda sefydliad cymwys.
• Gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, a chanddynt gytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda sefydliad cymwys.
4.3.2 Gweithgareddau staff:
Dylai pob symudedd staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.
Cysgodi Swydd a Lleoliadau
Cysgodi swydd: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.Lleoliadau: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 48 wythnos.
Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff sy’n gweithio ym maes ieuenctid i ymgymryd â symudedd cysgodi swydd, yn ymwneud â gweld arferion gorau, cyfnewid gwybodaeth, a chefnogi datblygu gyrfa.
Mae symudedd lleoliad yn gyfle i staff â phrofiad priodol hyfforddi neu hwyluso gweithgareddau ar gyfer cyfranogwyr mewn sefydliad partner rhyngwladol dramor.
Gallwch chi gyfuno Lleoliadau a Chysgodi swyddi yn ystod un cyfnod dramor.
Costau cymwys
Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):
Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.
- grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
- grant teithio
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)
Cyfranogwyr cymwys
- staff sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, sydd â chontract cyflogaeth gyda sefydliad cymwys
- gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, a chanddynt gytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda sefydliad cymwys
- arbenigwyr sy’n gweithio yn y maes ieuenctid.
Prosiectau consortiwm: gall staff o holl sefydliadau partner y consortiwm gymryd rhan mewn symudedd staff cyn belled â’u bod yn ymwneud â chyflwyno neu reoli Ieuenctid yn uniongyrchol. Nid yw staff o bartneriaid consortiwm sy’n gyfrifol am drefnu symudeddau ar ran partneriaid consortiwm eraill yn gymwys i gymryd rhan.
4.4. Symudedd mewnol
Gallwch chi wneud cais am 30% ychwanegol o’r cyllid y gofynnwch chi amdano ar gyfer gweithgareddau symudedd allanol i ddod â phobl i Gymru. Mae gwybodaeth am sefydliadau partner rhyngwladol yn adran 4.2.2.
Cyfranogwyr cymwys:
Pobl ifanc:
Pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n ymwneud yn weithredol â sefydliad cymwys sy’n gweithio yn y maes ieuenctid.
Staff ym maes ieuenctid:
- staff sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, sydd â chontract cyflogaeth gyda sefydliad anfon cymwys
- gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, a chanddynt gytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda sefydliad cymwys
- rhaid i staff a gwirfoddolwyr fod yn 18 oed o leiaf.
Symudeddau cymwys:
Mae pob symudedd a ddiffinnir fel symudedd allanol cymwys hefyd yn gymwys ar gyfer symudedd mewnol. Mae’r holl gyfyngiadau a gofynion yr un fath ar gyfer symudedd mewnol ag ar gyfer symudedd allanol.
Costau a thaliadau cymwys:
Mae cyfranogwyr symudedd mewnol yn gymwys i dderbyn cyllid grant ar gyfer teithio a cynhaliaeth ar gyfer eu symudedd i Gymru. Bydd y sefydliad sy’n gwneud cais yng Nghymru, fel Derbynnydd Grant Taith, yn derbyn grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr mewnol i Gymru. Telir cyllid ar gyfer gweithgareddau symudedd mewnol i’r sefydliad ymgeisio o Gymru i’w ddosbarthu i’r sefydliad partner rhyngwladol.
Bydd disgwyl i’r sefydliad sy’n gwneud cais yng Nghymru, fel Derbynnydd Grant Taith a gwesteiwr y cyfranogwyr mewnol, gyfleu telerau unrhyw gyfraniadau i’w gwneud yn glir a nodi faint o gymorth ariannol a ddyrennir i’r cyfranogwr/wyr mewnol.
Bydd cyfranogwyr symudedd mewnol yn derbyn cyfraddau cynhaliaeth Grŵp 1, a grant teithio ar yr un lefel â’r cyfraddau ar gyfer y symudedd allanol cyfatebol. Ni chaiff taliadau i gyfranogwr mewnol fod yn fwy na chyfradd grant cyfatebol cyfranogwr allanol o Gymru i wlad Grŵp 1 am yr un hyd a math o weithgaredd symudedd.