Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

Ieuenctid Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

2. Amserlen a Chyllideb

Grŵp o tuag at 20 oedolion ifanc o flaen addoldy. Mae'r bobl yn y rhes flaen yn eistedd ar stepiau yr addoldy ac y mae'r gweddill yn sefyll y tu ôl iddyn nhw. / A group of around 20 young adults in front a a cathedral. The front row of people are sat on the steps in front of the cathedral, and the rest are stood behind them.

2.1. Amserlen

Amserlen Llwybr 1 2026 yw:

Mae Llwybr 1 yn agor

Dyddiad cau ceisiadau Llwybr 1

Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hasesu.

Bydd hysbysiadau canlyniad yn cael eu hanfon at bob sefydliad sy'n gwneud cais

Gall prosiectau ddechrau

Llwybr 1 (2026) yw’r alwad ariannu olaf ar gyfer rhaglen Taith, gyda phob prosiect Taith yn cau erbyn 31 Awst 2027. Felly gall prosiectau bara uchafswm o 12 mis, gyda gweithgareddau’n digwydd rhwng Medi 2026 ac Awst 2027. Oherwydd bod y rhaglen yn gorffen, yn anffodus ni fydd yn bosibl i Taith roi unrhyw estyniadau i brosiectau.

2.2. Cyllideb ar gael

Mae cynhwysiant a hygyrchedd yn ffocws strategol i Taith ac mae’r rhaglen yn edrych i ariannu cymaint o sefydliadau â phosibl ac ystod mor eang â phosibl. O’r herwydd, gall pob ysgol neu sefydliad sy’n gwneud cais o dan y sector ysgolion ofyn am hyd at uchafswm o £60,000.