Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

Ieuenctid Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

4. Cymhwysedd

Y tu mewn i ystafell fawr gyda chadeiriau coch o amgylch y tu allan i'r ystafell. Mae llawer o oedolion yn eistedd ar y llawr yn gwneud rhywbeth gyda defnydd tebyg i wlân. Mae eraill yn sefyll i fyny yn sgwrsio. / Inside a large room with red chairs around the outside of the room. Lots of adults are sat on the floor making something with a wool like material. Others are stood up chatting.

Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Ieuenctid. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.

4.1. Hyd prosiectau

Mae prosiectau Llwybr 1 2026 yn para 12 mis. Dyma flwyddyn olaf cyllid Taith ac felly rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Awst 2027. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cwblhau eich gweithgareddau arfaethedig o fewn yr amserlen hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall gofynion fisa’r wlad (gwledydd) ble rydych chi’n bwriadu anfon eich cyfranogwyr a chaniatewch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (os yn berthnasol).

Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisâu na darparu cefnogaeth gyda cheisiadau am fisâu.

4.2. Sefydliadau cymwys

Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.

Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.

Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.

4.2.1 Sefydliadau cymwys i ymgeisio  (sector Ieuenctid):

Sefydliadau nid-er-elw a grwpiau sy’n cael eu rheoleiddio neu sy wedi eu cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n gweithio ym maes ieuenctid gan gynnwys:

  • cyrff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol
  • sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw
  • consortiwm o sefydliadau/darparwyr sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o sefydliadau sy’n gweithio ym maes ieuenctid. Rhaid i bob aelod o gonsortiwm o’r fath gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi yn y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm

Gall sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio ym maes ieuenctid, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i sefydliadau gynnig tystiolaeth foddhaol i ddangos:

1) sut bydd gweithgaredd arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
2)  bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, yn gyfranogwyr sy’n ymgymryd â sefydliad cymwys yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw

Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu i roi gwybod a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid. Os nad ydych chi’n sicr ac eisiau gwirio eich cymhwyster sector, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru

4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneru â nhw:
Darlun yn dangos dwy law yn ysgwyd o flaen symbol y byd

Yn gyffredinol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i’r sefydliadau rhyngwladol canlynol y tu allan i’r DU a’r tiriogaethau dibynnol ar y Goron (pan fydd symudeddau grŵp rhagarweiniol yn angenrheidiol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DU):

  • unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n weithredol yn y farchnad lafur neu ym meysydd addysg, hyfforddiant ac ieuenctid, wedi’i gydnabod neu ei reoleiddio gan awdurdodau cymwys y wlad lle mae’r darparwr sefydliad yn gweithredu ac wedi’i ymgorffori a/neu wedi’i leoli.

Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau partner rhyngwladol cymwys.

4.3. Symudeddau a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael

Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys.  Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael.  Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru.  Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.

Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae cyfraddau grant a chostau cymwys i’w gweld yn adran 5.

Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.

4.3.1 Gweithgareddau Pobl Ifanc

Symudedd Grwp

Symudedd grŵp: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 4 wythnos.
Symudedd rhagarweiniol yn y DU: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 5 diwrnod.

Mae symudedd grŵp yn gyfle i grwpiau o leiaf 3 o bobl ifanc brofi cyfnewid dysgu rhyngwladol, yng nghwmni staff/gwirfoddolwyr a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i staff/gwirfoddolwyr o’r sefydliad fynd gyda’r dysgwyr am hyd cyfan y gweithgaredd. Rhaid i weithgareddau a gynlluniwyd gynnwys canlyniadau dysgu wedi’u diffinio’n glir. Gall y dysgu fod yn ffurfiol, yn anffurfiol neu’n ddi-ffurfiol, ond rhaid iddo gynnwys cyfnewid a chydweithio â chyfoedion o sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.

Nid yw symudeddau sydd ddim yn cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd eraill yn gymwys i gael cyllid.

Symudedd grŵp rhagarweiniol:  mae’r rhain yn weithgareddau symudedd rhagarweiniol byr yn y DU ac sy’n gorfod arwain at weithgaredd symudedd rhyngwladol, lle mae sefydliadau sy’n gwneud cais yn teimlo na fyddai’n bosibl gwneud gweithgaredd symudedd rhyngwladol fel arall. Rhaid i geisiadau am symudedd grŵp rhagarweiniol hefyd gynnwys symudedd grŵp rhyngwladol ar gyfer yr un cyfranogwyr arfaethedig. Rhaid esbonio yn y cais pam mae gweithgareddau symudedd rhagarweiniol yn y DU yn hanfodol i alluogi eich dysgwyr i wneud gweithgareddau symudedd rhyngwladol.

Dim ond ar gyfer symudedd grŵp dysgwyr y mae symudedd rhagarweiniol yn gymwys.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Dysgwyr a phobl sy’n gwmni):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio.
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Pobl ifanc:

  • Pobl ifanc 11-25 oed sy’n ymgysylltu’n weithredol â sefydliad cymwys sy’n gweithio yn y maes ieuenctid, fel y’i diffinnir yn yr adran sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais yng Nghanllaw Rhaglen Graidd Taith (dolen).

Pobl sy’n gwmni:

  • Staff sy’n ymwneud â chyflenwi ymgysylltu a dysgu ieuenctid ac sy’n cael eu cyflogi gan y sefydliad ieuenctid cymwys sy’n cymryd rhan.
  • Aelodau eraill o staff sy’n cael eu cyflogi gan y sefydliad ieuenctid cymwys sy’n cymryd rhan.
  • Gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes ieuenctid, gyda chytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda sefydliad cymwys.
  • Arbenigwyr sy’n gweithio ym maes ieuenctid.
4.3.2 Gweithgareddau staff:

Dylai pob symudedd staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.

Cysgodi Swydd a Lleoliadau

Cysgodi swydd: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.
Lleoliadau: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 48 wythnos.

Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff sy’n gweithio ym maes AB/AHG i ymgymryd â symudedd cysgodi swydd, yn ymwneud â gweld arferion gorau, cyfnewid gwybodaeth, a chefnogi datblygu gyrfa.

Mae symudedd lleoliad yn gyfle i staff â phrofiad priodol wario cyfnod o amser yn hyfforddi neu hwyluso gweithgareddau ar gyfer cyfranogwyr mewn sefydliad partner rhyngwladol dramor.  Gall lleoliad ddarparu hyfforddiant i ddatblygiad sefydliad partner.

Gallwch chi gyfuno Lleoliadau a Chysgodi swyddi yn ystod un cyfnod dramor.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Staff neu wirfoddolwyr sydd â phrofiad priodol sy’n gweithio i sefydliad cymwys ym maes ieuenctid, ac sy’n meddu ar gymhwyster perthnasol, lle bo’n briodol. Nid yw staff neu wirfoddolwyr sy’n cael eu recriwtio at ddiben cymryd rhan mewn symudedd Taith yn unig yn gymwys.

Prosiectau consortiwm: Gall staff o bob sefydliad partner consortiwm gymryd rhan mewn symudeddau staff cyn belled â’u bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno neu reoli gwaith ieuenctid. Nid yw staff o sefydliad sy’n gwneud cais sy’n gyfrifol yn unig am drefnu symudeddau ar ran eu partneriaid consortiwm yn gyfranogwyr cymwys.

4.3.3 Ymweliadau paratoadol a symudedd mewnol

Wrth gyflwyno cais am brosiect, gallwch gynnwys ymweliadau paratoadol a symudeddau mewnol fel rhan o’ch cynllun.

Mae ymweliadau paratoadol yn rhoi’r cyfle i chi ymweld â phartneriaid rhyngwladol newydd neu rai presennol. Mae’r ymweliadau hyn yn eich helpu i gefnogi symudeddau Taith wedi’u cynllunio neu sydd yn digwydd ac a restrir yn y cais hwn.

Mae symudeddau mewnol yn caniatáu i chi groesawu eich partneriaid rhyngwladol yng Nghymru, gan roi cyfle iddyn nhw brofi eich amgylchedd dysgu a chryfhau cydweithio ymhellach.

Ymweliadau paratoadol

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 7 diwrnod.

Ymweliadau â phartneriaid rhyngwladol newydd neu bresennol i gefnogi teithiau arfaethedig neu barhaus o fewn yr un cais. Rhaid i bob ymweliad paratoadol fod â sail resymegol glir a rhaid iddo wella cynhwysiant, cwmpas ac ansawdd gweithgareddau symudedd. Er enghraifft, gellir trefnu ymweliadau paratoadol i helpu i baratoi ar gyfer symudedd cyfranogwyr ag anghenion ychwanegol, i ddechrau gweithio gyda sefydliad partner newydd neu i baratoi symudedd am gyfnod hwy. Gellir eu trefnu hefyd i ddarparu cymorth i ddysgwyr ar symudedd unigol tymor hwy.

Gellir trefnu ymweliadau paratoadol i baratoi ar gyfer unrhyw fath o symudedd dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff lle mae sail resymegol glir.  Rhaid cwblhau’r ymweliad paratoadol cyn i’r dysgwr neu’r staff symud i fod yn berthnasol iddo.  Yr unig eithriad fyddai ymweliadau cymorth bugeiliol â symudedd dysgwyr unigol hirdymor.

Bydd Taith yn ariannu hyd at uchafswm o dri ymweliad paratoadol fesul cais a hyd at uchafswm o ddau gyfranogwr fesul ymweliad. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn am fwy na dau gyfranogwr ar gyfer pob ymweliad lle darperir rhesymeg a chyfiawnhad clir.

Rhaid i’r gweithgaredd y bwriedir i’r ymweliad(au) paratoadol ei gefnogi hefyd gael ei gynnwys yn y cais.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)

Ni fydd y gweithgaredd hwn yn cynhyrchu taliadau cymorth sefydliadol.

Cyfranogwyr cymwys

  • staff sy’n gweithio ym maes ieuenctid a gyflogir gan y sefydliad addysg cymwys sy’n cymryd rhan. Nid yw staff sy’n cael eu recriwtio at ddiben cymryd rhan mewn symudedd Taith yn unig yn gymwys.
  • aelodau eraill o staff a gyflogir gan ddarparwr ieuenctid cymwys sy’n cymryd rhan
  • gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes ieuenctid, gyda chytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda sefydliad cymwys. Nid yw gwirfoddolwyr sy’n cael eu recriwtio at ddiben cymryd rhan mewn symudedd Taith yn gymwys.