Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

Ysgolion Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

4. Cymhwysedd

Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Ysgolion. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.

4.1. Hyd prosiectau

Mae prosiectau Llwybr 1 2026 yn para 12 mis. Dyma flwyddyn olaf cyllid Taith ac felly rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Awst 2027. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cwblhau eich gweithgareddau arfaethedig o fewn yr amserlen hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall gofynion fisa’r wlad (gwledydd) ble rydych chi’n bwriadu anfon eich cyfranogwyr a chaniatewch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (os yn berthnasol).

Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisâu na darparu cefnogaeth gyda cheisiadau am fisâu.

4.2. Sefydliadau cymwys

Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.

Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.

Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.

4.2.1 Sefydliadau cymwys i ymgeisio (sector Ysgolion):
  • unrhyw ysgol sy’n cael ei hariannu neu ei chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 19 oed ac a arolygir gan ESTYN
  • unrhyw ysgol annibynnol nid-er-elw lle mae pob disgybl yn cael ei dderbyn drwy atgyfeiriad gan awdurdod lleol, gweithiwr cymdeithasol, neu elusen berthnasol, ac sy’n gweithredu yng Nghymru, gan ddarparu addysg i blant a phobl ifanc 4 – 19 oed
  • unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru
  • Consortiwm Addysg Rhanbarthol
  • consortiwm sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o sefydliadau ym maes addysg ysgolion. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol a enwir sy’n cael ei hariannu a’i chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff cydgysylltu ysgolion neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill nid-er-elw sydd â rôl yn y maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu hariannu neu eu cynnal gan awdurdod lleol a’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu ohoni. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm

Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar, amlwg o ddarparu gweithgaredd o fewn y sector y maent yn gwneud cais iddo.

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwysedd nad yw’n gweithredu er elw.

Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu i roi gwybod a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid. Os nad ydych chi’n sicr ac eisiau gwirio eich cymhwyster sector, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru

4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneru â nhw:
Darlun yn dangos dwy law yn ysgwyd o flaen symbol y byd

Yn gyffredinol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i’r sefydliadau rhyngwladol canlynol y tu allan i’r DU a’r tiriogaethau dibynnol ar y Goron (pan fydd symudeddau grŵp rhagarweiniol yn angenrheidiol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DU):

  • ysgol(ion) sy’n darparu addysg gyffredinol ar lefel cyn-gynradd, cynradd neu uwchradd, wedi’i chydnabod a’i rheoleiddio gan awdurdodau cymwys y wlad lle mae’r ysgol wedi’i chofrestru.
  • unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n weithredol yn y farchnad lafur neu ym meysydd addysg, hyfforddiant ac ieuenctid.

Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau partner rhyngwladol cymwys.

4.3. Symudeddau a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael

Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys.  Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael.  Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru.  Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.

Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae cyfraddau grant a chostau cymwys i’w gweld yn adran 5.

Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.

4.3.1 Gweithgareddau dysgwyr

Symudedd Grwp

Symudedd grŵp: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 4 wythnos.
Symudedd rhagarweiniol yn y DU: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 5 diwrnod.

Mae symudedd grŵp yn gyfle i grwpiau o leiaf 3 dysgwr brofi cyfnewid dysgu rhyngwladol, yng nghwmni staff a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i athrawon neu staff cymwys eraill o’r ysgol fynd gyda’r dysgwyr am hyd cyfan y gweithgaredd. Rhaid i weithgareddau a gynlluniwyd gynnwys canlyniadau dysgu wedi’u diffinio’n glir. Gall y dysgu fod yn ffurfiol, yn anffurfiol neu’n ddi-ffurfiol, ond rhaid iddo gynnwys cyfnewid a chydweithio â chyfoedion o sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.

Nid yw symudedd nad yw’n cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd arall yn gymwys i gael cyllid.

Symudedd grŵp rhagarweiniol:  mae’r rhain yn weithgareddau symudedd rhagarweiniol byr yn y DU ac sy’n gorfod arwain at weithgaredd symudedd rhyngwladol, lle mae sefydliadau sy’n gwneud cais yn teimlo na fyddai’n bosibl gwneud gweithgaredd symudedd rhyngwladol fel arall. Rhaid i geisiadau am symudedd grŵp rhagarweiniol hefyd gynnwys symudedd grŵp rhyngwladol ar gyfer yr un cyfranogwyr arfaethedig. Rhaid esbonio yn y cais pam mae gweithgareddau symudedd rhagarweiniol yn y DU yn hanfodol i alluogi eich dysgwyr i wneud gweithgareddau symudedd rhyngwladol.

Dim ond ar gyfer symudedd grŵp dysgwyr y mae symudedd rhagarweiniol yn gymwys.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Dysgwyr a phobl sy’n gwmni):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio.
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Dysgwyr:

Pob disgybl 4 –19 oed, wedi cofrestru mewn ysgol yng Nghymru fel y’i diffinnir yn yr adran sefydliadau cymwys i ymgeisio uchod. Dylai symudedd grŵp gynnwys o leiaf 3 dysgwr.

Pobl sy’n gwmni:

Rhaid i ddysgwyr fynd gyda staff a gyflogir gan yr ysgol – staff addysgu neu staff sydd ddim yn addysgu. Os oes angen, gall oedolion eraill  a gymeradwyir gan yr ysgol hefyd weithredu fel personau hebrwng i gefnogi’r staff ysgol sy’n dod gyda nhw.

4.3.2 Gweithgareddau staff:

Dylai pob symudedd staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.

Cysgodi Swydd a Lleoliadau

Cysgodi swydd: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.
Lleoliadau: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 48 wythnos.

Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgolion ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgol i ymgymryd â symudedd cysgodi swydd, yn ymwneud â hwyluso arferion gorau, cyfnewid gwybodaeth, datblygu gyrfa a datblygiad proffesiynol, a fydd yn rhoi hwb i ymarferwyr i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru yn eu hysgolion.

Mae Lleoliadau addysgu yn gyfle i athrawon cymwysedig dreulio cyfnod yn addysgu disgyblion mewn ysgol bartner dramor. Gall Lleoliadau addysgu gynnwys darparu hyfforddiant ar gyfer datblygu’r sefydliad partner.

Gallwch chi gyfuno Lleoliadau a Chysgodi swyddi yn ystod un cyfnod dramor.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Ar gyfer lleoliadau addysgu: Staff addysgu cymwysedig neu arweinwyr ysgol sydd â chontract cyflogaeth gydag ysgol gymwys.

Ar gyfer cysgodi swyddi: Staff addysgu a staff sydd ddim yn addysgu, arweinwyr ysgolion ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).

Prosiectau consortiwm: gall staff o holl sefydliadau partner y consortiwm gymryd rhan mewn symudedd staff cyn belled â’u bod yn ymwneud â chyflwyno neu reoli Addysg Ysgolion yn uniongyrchol. Nid yw staff o’r sefydliad ymgeisio sydd ond yn gyfrifol am drefnu symudeddau ar ran partneriaid consortiwm eraill yn gymwys i gymryd rhan.

4.3.3 Ymweliadau paratoadol a symudedd mewnol

Wrth gyflwyno cais am brosiect, gallwch gynnwys ymweliadau paratoadol a symudeddau mewnol fel rhan o’ch cynllun.

Mae ymweliadau paratoadol yn rhoi’r cyfle i chi ymweld â phartneriaid rhyngwladol newydd neu rai presennol. Mae’r ymweliadau hyn yn eich helpu i gefnogi symudeddau Taith wedi’u cynllunio neu sydd yn digwydd ac a restrir yn y cais hwn.

Mae symudeddau mewnol yn caniatáu i chi groesawu eich partneriaid rhyngwladol yng Nghymru, gan roi cyfle iddyn nhw brofi eich amgylchedd dysgu a chryfhau cydweithio ymhellach.

Ymweliadau Paratoadol

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 7 diwrnod.

Ymweliadau â phartneriaid rhyngwladol newydd neu bresennol i gefnogi teithiau arfaethedig neu barhaus o fewn yr un cais. Rhaid i bob ymweliad paratoadol fod â sail resymegol glir a rhaid iddo wella cynhwysiant, cwmpas ac ansawdd gweithgareddau symudedd. Er enghraifft, gellir trefnu ymweliadau paratoadol i helpu i baratoi ar gyfer symudedd cyfranogwyr ag anghenion ychwanegol, i ddechrau gweithio gyda sefydliad partner newydd neu i baratoi symudedd am gyfnod hwy. Gellir eu trefnu hefyd i ddarparu cymorth i ddysgwyr ar symudedd unigol tymor hwy.

Gellir trefnu ymweliadau paratoadol i baratoi ar gyfer unrhyw fath o symudedd dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff lle mae sail resymegol glir.  Rhaid cwblhau’r ymweliad paratoadol cyn i’r dysgwr neu’r staff symud i fod yn berthnasol iddo.  Yr unig eithriad fyddai ymweliadau cymorth bugeiliol â symudedd dysgwyr unigol hirdymor.

Bydd Taith yn ariannu hyd at uchafswm o dri ymweliad paratoadol fesul cais a hyd at uchafswm o ddau gyfranogwr fesul ymweliad. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn am fwy na dau gyfranogwr ar gyfer pob ymweliad lle darperir rhesymeg a chyfiawnhad clir.

Rhaid i’r gweithgaredd y bwriedir i’r ymweliad(au) paratoadol ei gefnogi hefyd gael ei gynnwys yn y cais.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)

Ni fydd y gweithgaredd hwn yn cynhyrchu taliadau cymorth sefydliadol.

Cyfranogwyr cymwys

Staff addysgu a staff sydd ddim yn addysgu, arweinwyr ysgol ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).