Ardal derbynwyr grantiau

Cais i Newid Prosiect

Llwybr 2 - 2024

Gallwch wneud newidiadau i’ch prosiect tra’i fod yn mynd yn ei flaen, os oes angen. Mae’r rhain wedi’u gwahanu i geisiadau i Newid Prosiect a cheisiadau i Newid Gweithgaredd.  

Mae Ceisiadau i Newid Prosiect ar gyfer diweddariadau i sut mae’ch prosiect yn cael ei reoli — megis newid y prif gyswllt neu’r cynrychiolydd cyfreithiol. Rhaid i chi ddweud wrth Taith cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amy newid drwy anfon llythyr PDF wedi’i lofnodi ar bapur pennawd at cefnogaeth@taith.cymru. 

Rhaid i Taith gymeradwyo ceisiadau i newid consortiwm a dylid eu hanfon drwy e-bost at cefnogaeth@taith.cymru 

Rhaid nodi ceisiadau i Newid Gweithgaredd yn y profforma cais am newid yn eich ffolder adrodd cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano ac o leiaf 30 diwrnod cyn i’r gweithgaredd ddigwyddBydd Taith yn adolygu’r profforma yn rheolaidd a naill ai’n cymeradwyo neu’n gwrthod y newidBydd Taith yn cysylltu â chi os oes angen unrhyw wybodaeth bellachNid yw hyn yn berthnasol i brosiectau Addysg Uwch.

Ar gyfer newidiadau gweithgareddaumae canllawiau pellach ar sut a phryd i gofnodi’r newidiadau hyn yn eich ffolder offeryn adrodd ar gael ar yn ardal Derbynyddion Grantiau gwefan Taith 

Camau nesaf 

Mae Taith yn anelu at adolygu pob cais am newid o fewn 10 diwrnod gwaith. Os bydd angen rhagor o fanylion arnom ni, byddwn yn cysylltu â chi. Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo a bod angen newid eich contract, byddwn yn ei anfon o fewn 15 diwrnod gwaith. Bydd gennych wedyn 10 diwrnod calendr i’w lofnodi a’i ddychwelyd.
Ceisiwch nawr