Cwestiynau Cyffredin Llwybr 2 2024
Gall Derbynwyr Grant wneud newidiadau i’w prosiect trwy gydol ei gyflwyniad os oes angen. Mae manylion llawn y rheolau gwneud cais am newid i’w gweld yn Atodlen 8 eich Llythyr Cytundeb Grant, ac yn y canllawiau ar y ffurflen Cais am Newid. Os mae’r newidiad yn syrthio tu allan i’r trothwy yn Atodlen 8, bydd rhaid i’r newidiad cael ei gymeradwyo gan Taith. Mae ragor o wybodaeth hefyd o dan yr adran Cais am Newid Prosiect.
Fel tystiolaeth am yr holl wariant ar gynhaliaeth a theithio, ar gyfer yr holl gyfranogwyr (allanol a mewnol), dylai datganiad, neu dystysgrif presenoldeb gael ei lofnodi a’i ddyddio ar ddiwrnod olaf y symudedd gan y sefydliad anfon neu dderbyn, gan gadarnhau’r enw y cyfranogwr, pwrpas y gweithgaredd a’r dyddiad dechrau a gorffen a gadarnhawyd. Mae templed ar gael yma. Bydd angen i wariant ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Eithriadol (2022 yn unig) a Chymorth Cynhwysiant gael ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan Taith drwy’r broses gwneud cais am Gyllid Ychwanegol. Mae’r rhain yn gostau gwirioneddol, y mae’n rhaid eu cefnogi gyda derbynneb ddilys (neu gyfwerth). Heb hyn, ni fydd taliad gan Taith.
Rydym ni’n deall y gall fod yn anodd casglu mathau penodol o dystiolaeth ar gyfer cyllid ychwanegol am sawl rheswm. Mewn amgylchiadau lle na ellir darparu neu gael y dystiolaeth angenrheidiol, byddem ni’n gofyn i sefydliadau ddarparu manylion prosesau mewnol a ddefnyddir i nodi cyfranogwyr o gefndiroedd dan anfantais. Gallai hyn naill ai fod drwy adran les neu dîm gofal bugeiliol sy’n darparu’r cadarnhad angenrheidiol, ond i sefydliadau nad oes ganddynt adrannau arbenigol tebyg, bydd angen tystysgrif arnom gan arweinydd y prosiect Taith, y cyfranogwr a’r rhiant/gofalwr lle bo’n berthnasol.Gellir gwneud ceisiadau am gyllid ychwanegol i Taith ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Eithriadol a Chymorth Cynhwysiant, dim mwy na 30 diwrnod ar ôl i’r symudedd ddigwydd. Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau i wneud cais am gyllid ychwanegol i’w gweld yn yr adran ‘Cyllid ychwanegol’ yr ardal Derbynnydd Grant.
Ceir rhestr o’r costau a ystyrir yn gymwys o dan bob categori cost yn adran 4.0 o’r Llawlyfr Gweithredol. Dangosir diffiniad Taith o gostau cymwys o dan bob categori isod:
Rheoli a Gweithredu Prosiect – Cyfraniad at gostau i alluogi’r gweithgaredd i ddigwydd. Gallai hyn gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, logi ystafell gwrdd, lluniaeth, costau hwyluso, cyfieithu ar y pryd i gyfarfodydd, costau gweinyddol, teithio yn y DU a llety, ac ati.
Lledaenu – Cyfraniad at gostau rhannu a dosbarthu allbwn y prosiect ar draws y sector(au) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae costau cymwys yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, ddigwyddiadau, marchnata, llunio adroddiadau, datblygu adnoddau ar-lein, datblygu llwyfan cyflwyno cais digidol neu ar-lein. Rhaid bod unrhyw weithgareddau/adnoddau a grëir drwy Lwybr 2 Taith fod am ddim i’r holl gyfranogwyr gan aros felly am gyhyd y cânt eu defnyddio/rhannu. Ni ellir datblygu na defnyddio’r adnoddau hyn at ddibenion masnachol.
Cyfieithu – Cyfraniad at gostau cyfieithu sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a lledaenu allbwn y prosiect. Mae costau cymwys yn cynnwys cyfieithu deunyddiau sy’n gysylltiedig ag allbwn y prosiect, cyfieithu ar y pryd i ddigwyddiadau, sesiynau hyfforddi a seminarau, ac ati.
Nid yw’r un o’r rhestrau uchod yn hollgynhwysfawr, ond nid yw costau staff yn gymwys o dan unrhyw un o’r categorïau uchod.
Costau staff – Mae hyn yn gyfraniad at y costau staffio sy’n ofynnol i’w gwneud hi’n bosib cynnal y prosiect. Caiff costau staff eu cyfrifo ar gyfradd ddyddiol. Mae manylion y cyfraddau dyddiol fesul categori staff ar gael yn adran 3.6 y Canllaw Rhaglen Llwybr 2.
Ar gyfer Llwybr 2 2024 ymlaen, ni fydd terfyn ar faint o gyllid y gellir ei ddyrannu i bob categori cost, ac felly, gellir symud costau rhwng categorïau yn ôl yr angen i hwyluso rhedeg eich prosiect.