Mae NYAS Cymru yn gweithio i hyrwyddo hawliau a lleisiau pobl ifanc a phlant yn y system ofal.
I lawer o’r bobl ifanc hyn, mae addysg aflonydd, ansicrwydd, a chyfleoedd cyfyngedig wedi llunio eu bywydau cynnar. Trwy gyllid Taith, mae NYAS Cymru, ynghyd â’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi, wedi cyd-gynllunio profiadau dysgu rhyngwladol pwerus i archwilio sut mae eiriolaeth ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn ofal yn cael ei chyflwyno ledled y byd.
Mae’r cyfnewidiadau hyn wedi dod â syniadau newydd yn ôl i gryfhau cefnogaeth i bobl ifanc yng Nghymru ac maent hefyd wedi arddangos y gwaith anhygoel sydd eisoes yn digwydd yma. Cydnabuwyd eu cyfraniad yn fyd-eang, gan arwain at wahoddiad gan y Cenhedloedd Unedig i NYAS Cymru ymuno â’u Pwyllgor Hawliau Dynol.
Ond mae’r effaith yn mynd ymhell y tu hwnt i ddysgu a chydnabyddiaeth.
Mae’r profiadau hyn wedi meithrin hyder, wedi datblygu sgiliau bywyd hanfodol, ac wedi helpu i ffurfio perthnasoedd ystyrlon a pharhaol. Yn bwysicaf oll, maent wedi dangos i’r bobl ifanc fod eu lleisiau’n bwysig—yn lleol, yn genedlaethol, ac ar y llwyfan byd-eang.
Mwy o wybodaeth yma: