Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

AB ac AHG Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

2. Amserlen a Chyllideb

Grŵp o fyfyrwyr ac athrawon, mae rhai myfyrwyr yn gwisgo crysau-t glas a gwyn a rhai eraill yn gwisgo gwisgoedd cogydd glas a gwyn. Group of students and teachers, some students are wearing blue and white t-shirts and others wearing blue and white chef uniforms.

2.1. Amserlen

Amserlen Llwybr 1 2026 yw:

Mae Llwybr 1 yn agor

Dyddiad cau ceisiadau Llwybr 1

Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hasesu.

Bydd hysbysiadau canlyniad yn cael eu hanfon at bob sefydliad sy'n gwneud cais

Gall prosiectau ddechrau

Llwybr 1 (2026) yw’r alwad ariannu olaf ar gyfer rhaglen Taith, gyda phob prosiect Taith yn cau erbyn 31 Awst 2027. Felly gall prosiectau bara uchafswm o 12 mis, gyda gweithgareddau’n digwydd rhwng Medi 2026 ac Awst 2027. Oherwydd bod y rhaglen yn gorffen, yn anffodus ni fydd yn bosibl i Taith roi unrhyw estyniadau i brosiectau.

2.2. Cyllideb ar gael

Cyfanswm y swm a ddyrannwyd i’r sector Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yng Nghymru yng ngalwad ariannu Llwybr 1 2026 yw £650,000.

Mae cynhwysedd a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu cymaint ag y bo modd ac ystod mor eang o sefydliadau. O’r herwydd, ni fydd unrhyw sefydliad yn gallu gwneud cais am fwy na 40% o gyllideb y sector dangosol cyhoeddedig.  

Gallwch chi ofyn hyd at £260,000 yn eich cais.