3. Ymgeisio am Lwybr 1
3.1. Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i alwad ariannu Llwybr 1 2026 yw 18 Mawrth 2026 am 12.00yp. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hasesu.
3.2. Cyn i chi ymgeisio
Cyn dechrau gwneud cais, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n:
- gwneud yn siŵr bod eich sefydliad yn gymwys i wneud cais, a bod eich cyfranogwyr a’ch gweithgareddau arfaethedig yn gymwys ar gyfer eich sector. Gallwch chi ddod o hyd i fanylion am gymhwysedd yn adran 4
- darllen drwy’r canllaw hwn yn drylwyr, a gwnewch yn siŵr bod Llwybr 1 yn addas ar gyfer eich sefydliad a’ch prosiect arfaethedig
- gwirio bod gan eich sefydliad ddigon o gapasiti yn ariannol a gweithredol
- darllen drwy ddogfen gymorth cais Llwybr 1 – mae hon yn cynnwys yr holl gwestiynau ansoddol bydd angen i chi eu hateb fel rhan o’r cais, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ategol ychwanegol
- ymuno â’n gweminarau cymorth a/neu wylio’r recordiadau cyn-amser drwy ein gwefan
- cysylltu â ni ar ymholiadau@taith.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiwn
3.3. Llenwi cais
Mae dwy ffurflen gais wahanol ar gyfer Llwybr 1 – mae’r gyntaf ar gyfer sefydliadau sydd eisiau gwneud cais am hyd at £60,000, yr ail ar gyfer sefydliadau sydd eisiau gwneud cais am fwy na £60,000. Mae’r ffurflen gais gyntaf yn fyrrach ac yn gofyn am lai o wybodaeth na’r ail. Gwnewch yn sicr eich bod chi’n llenwi’r ffurflen gais gywir ar gyfer y swm rydych chi’n gofyn amdano.
Cyn dechrau eich cais, rhaid i chi lenwi ein cyfrifydd grant. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mewnbynnu faint o gyfranogwyr rydych chi am gymryd rhan ym mhob math o symudedd, i ba wlad ac am ba hyd, a byddwch chi’n gweld y swm y gallwch chi ofyn amdano yn awtomatig. Gallwch chi wylio fideo wedi’i recordio ymlaen llaw ar yr cyfrifydd grant yma.
Unwaith byddwch chi wedi llenwi’r cyfrifydd grant ac yn gwybod faint o gyllid rydych chi’n gofyn amdano, gallwch chi ddechrau’r ffurflen gais. Bydd angen i chi fewnbynnu swm y gyllideb a ddangosir yn eich cyfrifydd grant i’r ffurflen gais. Os yw’r swm yn £60,000 neu lai byddwch chi’n cael eich arwain at gwestiynau’r cais am Grantiau Bach ac os yw’n fwy na £60,000 byddwch chi’n cael eich arwain at gwestiynau’r cais am Grantiau Mawr. Mae’r ffurflen gais yn gofyn am ymatebion ysgrifenedig ar ystod o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect, manylion am weithgareddau prosiect arfaethedig, rheolaeth ariannol a phrosiectau, a pherthnasedd i bwrpas ac amcanion Taith. Gallwch chi ddod o hyd i gwestiynau’r cais, a rhywfaint o wybodaeth ategol yma.