Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

AB ac AHG Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

6. Beth sydd yn digwydd ar ôl cyflwyno cais?

6.1. Asesu ceisiadau

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, bydd yn mynd trwy wiriad cychwynnol i sicrhau bod eich sefydliad yn gymwys. Yna, caiff ei asesu gan ddau aseswr a fydd yn sgorio’r cais. Rhaid i geisiadau sgorio o leiaf 60% i fod yn gymwys am gyllid. Bydd ceisiadau sy’n sgorio llai na 60% yn aflwyddiannus. Byddwn ni’n rhoi adborth ar bob cais.

Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac rydyn ni’n anelu at ariannu cymaint ac ystod mor eang â phosibl o sefydliadau. Fodd bynnag, mae cyllid Taith yn gyfyngedig ac mae’n debygol y bydd galwadau ariannu lle mae gwerth ceisiadau llwyddiannus a ddylen ni ariannu’n fwy na’r gyllideb sydd ar gael.

Lle nad oes digon o gyllideb i ariannu pob cais yn llawn, efallai y bydd angen i Taith leihau cyllid ar draws sefydliadau llwyddiannus ar sail deg. Os bydd ceisiadau am gyllid yn sylweddol uwch na’r gyllideb sydd ar gael, yna gall Taith fabwysiadu model ariannu amgen megis rhestr safle neu debyg.

Nodyn atgoffa yn unig bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Os yw sefydliad wedi gwneud cais am gyllid Taith o’r blaen, neu wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol, ni fydd hyn yn cael ei ystyried. Yr hyn sy’n cyfrif yw’r wybodaeth a ddarparwch chi yn y cais am yr alwad ariannu hon, a dyna fydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a yw sefydliad yn derbyn cyllid.