4. Cymhwysedd
Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigeithol. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.
4.1. Hyd prosiectau
Mae prosiectau Llwybr 1 2026 yn para 12 mis. Dyma flwyddyn olaf cyllid Taith ac felly rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Awst 2027. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cwblhau eich gweithgareddau arfaethedig o fewn yr amserlen hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall gofynion fisa’r wlad (gwledydd) ble rydych chi’n bwriadu anfon eich cyfranogwyr a chaniatewch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (os yn berthnasol).
Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisâu na darparu cefnogaeth gyda cheisiadau am fisâu.
4.2. Sefydliadau cymwys
Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.
Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.
Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.
4.2.1 Sefydliadau cymwys i ymgeisio (sector AB ac AHG):
AB
- unrhyw sefydliad cyhoeddus sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg bellach, ac sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar wahanol lefelau o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, gan arwain at gymwysterau achrededig
- cyrff cydgysylltu cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio darpariaeth addysg bellach
- consortiwm o sefydliadau/darparwyr nid-er-elw, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o ddarparwyr addysg bellach, ym maes addysg bellach. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.
AHG
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu nid-er-elw sy’n cael ei reoleiddio neu sy wedi ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan arwain at gymwysterau achrededig, gan gynnwys:
- cyrff cydgysylltu cenedlaethol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio’r ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol
- sefydliadau anllywodraethol nid-er-elw, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw sydd yn cynnal, hyfforddi neu weithio gyda dysgwyr a phrentisiaid ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol
- consortiwm o sefydliadau a darparwyr nid-er-elw, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi yn y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi edrych ar ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.
Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu i roi gwybod a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid. Os nad ydych chi’n sicr ac eisiau gwirio eich cymhwyster sector, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru
4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneru â nhw:
Yn gyffredinol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i’r sefydliadau rhyngwladol canlynol y tu allan i’r DU a’r tiriogaethau dibynnol ar y Goron (pan fydd symudeddau grŵp rhagarweiniol yn angenrheidiol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DU):
- unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n darparu addysg i oedolion a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r darparwr yn gweithredu ynddi ac wedi’i ymgorffori a/neu sefydlu ynddi
- unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n gweithredu ym meysydd addysg, hyfforddiant a dysgu oedolion
Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau partner rhyngwladol cymwys.
4.3. Symudeddau a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael
Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys. Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael. Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru. Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.
Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae cyfraddau grant a chostau cymwys i’w gweld yn adran 5.
Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.
4.3.1 Gweithgareddau dysgwyr
Symudedd Grwp
Symudedd grŵp: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 4 wythnos.Symudedd rhagarweiniol yn y DU: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 5 diwrnod
Mae symudedd grŵp yn gyfle i grwpiau o ddysgwyr AB/AHG gael profiad o gyfnewid dysgu rhyngwladol, ynghyd â staff a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i staff o’r sefydliad fod gyda’r dysgwyr drwy gydol y gweithgaredd. Os ei bod angen, gall oedolion eraill fod yn berson sy’n gwmni fel cymorth i’r staff. Rhaid i weithgareddau a gynllunnir fod â chanlyniadau dysgu wedi’u diffinio’n glir. Gall dysgu fod yn ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol, ond rhaid iddo gynnwys cyfnewid a chydweithio â chyfoedion o sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.
Nid yw symudedd nad yw’n cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd arall yn gymwys i gael cyllid.
Symudedd grŵp rhagarweiniol: Mae’r rhain yn weithgareddau symudedd rhagarweiniol byr yn y DU ac sy’n bosibl yn rhan o ddilyniant i weithgaredd symudedd rhyngwladol, lle mae sefydliadau sy’n gwneud cais yn teimlo na fyddai gweithgaredd symudedd rhyngwladol yn gyraeddadwy fel arall. Rhaid i geisiadau am symudedd grŵp rhagarweiniol hefyd gynnwys symudedd grŵp rhyngwladol ar gyfer yr un cyfranogwyr arfaethedig. Rhaid esbonio yn y cais pam mae gweithgareddau symudedd rhagarweiniol yn y DU yn hanfodol i alluogi eich disgyblion i wneud gweithgareddau symudedd rhyngwladol.
Dim ond ar gyfer symudedd grŵp dysgwyr y mae symudedd rhagarweiniol yn gymwys.
Costau cymwys
Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Dysgwyr a phobl sy’n gwmni):
Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.
- grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
- grant teithio.
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)
Cyfranogwyr cymwys
Dysgwyr:
- dysgwyr AB sy’n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau dysgu ac sydd wedi cofrestru ar raglen achrededig mewn coleg AB sy’n gymwys
- dysgwyr AU sy’n ymgymryd â darpariaeth AU o fewn sefydliad AB
- dysgwyr AHG sy’n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau dysgu neu hyfforddiant ac sydd wedi cofrestru gyda darparwr AHG
Mae symudedd grwp yn cynnwys o leiaf 3 dysgwr.
Pobl sy’n gwmni:
Rhaid bod dysgwyr yn mynd gyda staff sydd wedi eu cyflogi gan y coleg AB/darparwr AHG – staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu. Os oes angen, gall oedolion eraill fod yn berson sy’n gwmni fel cymorth i’r staff AB/AHG
4.3.2 Gweithgareddau staff:
Dylai pob symudedd staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.
Cysgodi Swydd a Lleoliadau
Cysgodi swydd: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.Lleoliadau: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 48 wythnos.
Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff sy’n gweithio ym maes AB/AHG i ymgymryd â symudedd cysgodi swydd, yn ymwneud â gweld arferion gorau, cyfnewid gwybodaeth, a chefnogi datblygu gyrfa.
Mae symudedd lleoliad yn gyfle i staff â phrofiad priodol wario cyfnod o amser yn hyfforddi neu hwyluso gweithgareddau ar gyfer cyfranogwyr mewn sefydliad partner rhyngwladol dramor. Gall lleoliad ddarparu hyfforddiant i ddatblygiad sefydliad partner.
Gallwch chi gyfuno Lleoliadau a Chysgodi swyddi yn ystod un cyfnod dramor.
Costau cymwys
Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):
Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.
- grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
- grant teithio
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)
Cyfranogwyr cymwys
Lleoliad dysgu: Staff neu arweinwyr gyda’r cymhwyster â’r profiad priodol sydd gyda chontract cyflogaeth gyda coleg sy’n gymwys.
Cysgodi swydd:
- staff sy’n ymwneud â chyflwyno addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol ac a gyflogir gan y sefydliad addysg cymwys sy’n cymryd rhan
- aelodau eraill o staff sydd yn cael eu cyflogi gan ddarparwr addysg bellach neu addysg a hyfforddiant galwedigaethol sy’n gymwys
Prosiectau consortiwm: gall staff o holl sefydliadau partner y consortiwm gymryd rhan mewn symudedd staff cyn belled â’u bod yn ymwneud â chyflwyno neu reoli AB/AHG yn uniongyrchol. Nid yw staff o’r sefydliad ymgeisio sydd ond yn gyfrifol am drefnu symudeddau ar ran partneriaid consortiwm eraill yn gymwys i gymryd rhan.
4.3.3 Ymweliadau paratoadol a symudeddau mewnol
Wrth gyflwyno cais am brosiect, gallwch gynnwys ymweliadau paratoadol a symudeddau mewnol fel rhan o’ch cynllun.
Mae ymweliadau paratoadol yn rhoi’r cyfle i chi ymweld â phartneriaid rhyngwladol newydd neu rai presennol. Mae’r ymweliadau hyn yn eich helpu i gefnogi symudeddau Taith wedi’u cynllunio neu sydd yn digwydd ac a restrir yn y cais hwn.
Mae symudeddau mewnol yn caniatáu i chi groesawu eich partneriaid rhyngwladol yng Nghymru, gan roi cyfle iddyn nhw brofi eich amgylchedd dysgu a chryfhau cydweithio ymhellach.
Ymweliadau paratoadol
Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 7 diwrnod.Ymweliadau â phartneriaid rhyngwladol newydd neu bresennol i gefnogi teithiau arfaethedig neu barhaus o fewn yr un cais. Rhaid i bob ymweliad paratoadol fod â sail resymegol glir a rhaid iddo wella cynhwysiant, cwmpas ac ansawdd gweithgareddau symudedd. Er enghraifft, gellir trefnu ymweliadau paratoadol i helpu i baratoi ar gyfer symudedd cyfranogwyr ag anghenion ychwanegol, i ddechrau gweithio gyda sefydliad partner newydd neu i baratoi symudedd am gyfnod hwy. Gellir eu trefnu hefyd i ddarparu cymorth i ddysgwyr ar symudedd unigol tymor hwy. Gellir trefnu ymweliadau paratoadol i baratoi ar gyfer unrhyw fath o symudedd dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff lle mae sail resymegol glir. Rhaid cwblhau’r ymweliad paratoadol cyn i’r dysgwr neu’r staff symud i fod yn berthnasol iddo. Yr unig eithriad fyddai ymweliadau cymorth bugeiliol â symudedd dysgwyr unigol hirdymor.
Bydd Taith yn ariannu hyd at uchafswm o dri ymweliad paratoadol fesul cais a hyd at uchafswm o ddau gyfranogwr fesul ymweliad. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn am fwy na dau gyfranogwr ar gyfer pob ymweliad lle darperir rhesymeg a chyfiawnhad clir.
Rhaid i’r gweithgaredd y bwriedir i’r ymweliad(au) paratoadol ei gefnogi hefyd gael ei gynnwys yn y cais.
Costau cymwys
Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):
Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.
- grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
- grant teithio
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
Ni fydd y gweithgaredd hwn yn cynhyrchu taliadau cymorth sefydliadol.
Cyfranogwyr cymwys
- staff sy’n ymwneud â chyflwyno addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol ac a gyflogir gan y sefydliad addysg cymwys sy’n cymryd rhan.
- aelodau eraill o staff sydd yn cael eu cyflogi gan ddarparwr addysg bellach neu addysg a hyfforddiant galwedigaethol sy’n gymwys.