Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2025

Addysg Oedolion Fersiwn 1.0, Nov 2025

5. Cyfraddau Grant Llwybr 1 a beth all cyllid Llwybr 1 ei gynnwys

Grŵp o bobl ifanc ac oedolion o America a Chymru yn sefyll a gwenu at y camera. Mae rhai yn dal baner Americanaidd ac mae rhai yn dal baner Cymru.

5.1. Teithio, Cynhaliaeth a Chymorth Sefydliadol

Mae grantiau teithio, cynhaliaeth a chymorth sefydliadol yn symiau sefydlog a elwir yn gostau uned ac yn cael eu cyfrifo ar sail pellter y daith, hyd y symudedd a nifer y cyfranogwyr.

5.1.1 Teithio

Mae’r grant teithio yn gyfraniad at gost uniongyrchol teithio ar gyfer symudedd.  Bydd cyfranogwyr yn cael swm penodol yn dibynnu ar y pellter rhwng Cymru a’r wlad bartner ryngwladol.

Pellter

Grant teithio fesul cyfranogwr (£)

10 – 99km

20

100 – 499km

150

500 – 1,999km

230

2,000 – 2,999km

300

3,000 – 3,999km

450

4,000 – 7,999km

700

8,000 – 12,000km

1200

12,000km+

1400

5.1.2 Cynhaliaeth

Mae hwn yn grant ar gyfer llety, bwyd a thrafnidiaeth leol yn ystod symudedd corfforol. Cyfrifir cyllid fel cyfradd ddyddiol fesul cyfranogwr. Mae gwledydd cyrchfan yn cael eu dosbarthu i dri grŵp gwlad yn seiliedig ar eu costau byw.  Mae rhestr o wledydd a’r gwahanol grwpiau i’w gweld yn Atodiad 1 y Canllaw Rhaglen.

Am gyfnod y symudedd, bydd cyfranogwyr yn derbyn y swm cynhaliaeth perthnasol (a gyfrifir fel cyfradd dydd), yn dibynnu ar gyfanswm hyd y symudedd a’r wlad gyrchfan.

Gall cyfranogwyr dderbyn hyd at 2 ddiwrnod ychwanegol o gynhaliaeth ar gyfer teithio. Mae diwrnod teithio yn uchafswm o 1 diwrnod yn union cyn a/neu ar ôl i’r symudedd ddigwydd, ar gyfer teithio i’r gyrchfan symudedd os oes angen. Ni all diwrnodau teithio gyfrannu at isafswm hyd symudedd. Rhaid gofyn am ddiwrnodau teithio pan rydych chi’n ymgeisio

Mae cyfraddau gwahanol yn berthnasol am y pythefnos cyntaf, 2 – 8 wythnos a thros 8 wythnos. Ni fydd cyfranogwyr yn derbyn cyllid cynhaliaeth ar gyfer symudedd rhithwir.

Dysgwyr / Pobl Ifanc

Cyfradd ddyddiol (£) fesul cyfranogwr  grwp gwlad 1 / 2 / 3

Pythefnos cyntaf

75 / 65 / 55

2 – 8 wythnos

50 / 40 / 35

8 wythnos – 48 wythnos

35 / 30 / 25

Staff a phobl sy’n gwmni

Cyfradd ddyddiol (£) fesul cyfranogwr  grwp gwlad 1 / 2 / 3

Pythefnos cyntaf

85 / 75 / 65

2 – 8 wythnos

60 / 50 / 40

8 wythnos – 48 wythnos

35 / 30 / 25

5.1.3 Cymorth Sefydliadol

Bydd eich sefydliad yn derbyn cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr yn eich prosiect.  Mae cymorth sefydliadol yn gyfraniad at unrhyw gost a dynnir mewn perthynas â rheoli a rhedeg eich prosiect.  Cyfrifir cymorth sefydliadol ar sail nifer y cyfranogwyr allanol a mewnol fesul prosiect.  Mae’r cyfraddau’n dechrau ar £500 y cyfranogwr ar gyfer y 10 cyfranogwr cyntaf ac yn gostwng wrth i nifer y cyfranogwyr gynyddu.  Mae cymorth sefydliadol ar gyfer symudeddau rhithwir wedi’i gyfyngu ar 20 o gyfranogwyr.

Gellir rhoi cyllid cymorth sefydliadol yn uniongyrchol i’r cyfranogwr (neu ei ddefnyddio ar ei ran) i gyfrannu at ei gyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, ar gyfer fisas/pasbort (lle nad yw’r rhain wedi’u cynnwys drwy gostau cynhwysiant) ac ati. Gall eich sefydliad hefyd ddefnyddio’r cyllid hwn ar gyfer gweinyddu’r prosiect, gan gynnwys costau staff, gorbenion ac ati

Bydd sefydliadau yn cael £25 o gyllid cymorth sefydliadol ychwanegol fesul cyfranogwr o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Gallwch chi hawlio hyn yn y cam adrodd terfynol ar gyfer pob cyfranogwr o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol yr adroddir arno.

Nifer cyfranogwyr

Cyfradd fesul cyfranogwr (£)

0 – 10

500

11 – 30

400

31 – 60

330

61 – 100

250

101 – 150

125

151 – 200

100

201+

80

5.2. Costau Cyrsiau/Hyfforddiant

Mae Taith yn cynnig cyllid ar gyfer ffïoedd cyrsiau o dan datblygiad proffesiynol. Mae hwn ar gael i staff yn unig.

Gall eich sefydliad wneud cais am hyd at uchafswm o £40 fesul cyfranogwr, fesul diwrnod, ond dim mwy na chyfanswm o £400 ar gyfer pob cyfranogwr fesul prosiect.

5.3. Cyfnewidiadau Rhithwir Grwpiau: Costau Datblygu

Mae hwn yn gyfraniad tuag at gost datblygu a/neu gyflwyno cyfnewidiadau rhithwir o ansawdd uchel i ddysgwyr.

Gall eich sefydliad wneud cais am hyd at £1,200 fesul prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.

5.4. Cyllid ychwanegol ar ôl i'ch prosiect ddechrau

Unwaith bydd eich prosiect wedi dechrau, gallwch chi wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer y canlynol:

5.4.1 Cymorth Cynhwysiant

Mae cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cyfranogwyr sy’n wynebu rhwystrau ariannol i gymryd rhan. Mae dau fath o gymorth cynhwysiant ar gael:

o Darlun yn ddangos tri chorff a phen, mae gan bob corff symbol gwahanol y tu mewn i ddangos eu bod nhw’n wahanol. Mae gan un gylch, mae gan un sgwâr ac mae gan y llall driongl.
  • ar gyfer Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol
  • ar gyfer pobl o gefndiroedd difreintiedig

Mae’r cyllid hwn yn seiliedig ar gostau gwirioneddol, gyda’r bwriad o dalu’r gost lawn o ddileu’r rhwystr i gyfranogiad. Felly, pan fyddwch chi’n rhedeg eich prosiect bydd disgwyl bydd eich sefydliad yn chwilio am opsiynau sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.

Gallwch chi wneud cais am gyllid ychwanegol unwaith bydd eich prosiect wedi dechrau a’ch cyfranogwyr wedi’u dewis. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais yn manylu ar y costau, a pham eu bod nhw’n angenrheidiol i alluogi’r unigolyn i gymryd rhan.

Cyfranogwyr dan anfantais

Bydd cyfranogwyr sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig a byddan nhw’n gymwys i gael cyllid ychwanegol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â theithio i gefnogi eu hymwneud â symudedd corfforol

  • cyfanswm incwm y cartref o dan £26,225
  • cyfranogwr sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ei enw ei hun
  • cyfranogwyr sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi bod, neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd, neu o gefndir derbyn gofal ar unrhyw adeg o’u bywyd, ni waeth pa mor fyr, gan gynnwys plant mabwysiedig a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol, neu’r rhai sy’n defnyddio’r Bwrsariaeth Profiadol o Ofal mewn rhannau eraill o’r DU
  • cyfranogwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blentyn anabl, neu oedolyn nad yw, oherwydd y salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu ddibyniaeth, yn gallu ymdopi heb eu cefnogaeth
  • ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â theithio yn cynnwys costau fisas, pasbortau, brechiadau, yswiriant iechyd, dillad a bagiau priodol, yn ôl yr angen.

Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae cyllid ychwanegol ar gael i gyfranogwyr Anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol o hyd at 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer cymorth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u hanghenion ychwanegol.

Gall hyn gynnwys: ymweliadau paratoadol i gynnal asesiadau risg a sicrhau bod gan y sefydliad partner rhyngwladol y mynediad a’r cymorth angenrheidiol; ariannu aelodau staff ychwanegol i gefnogi cyfranogwyr; a/neu i dalu am offer/addasiadau/adnoddau angenrheidiol ar gyfer cyfranogiad.

5.4.2 Teithio i ganolbwynt trafnidiaeth yn y DU

Mae hyn yn gyfraniad at gostau teithio i ganolbwynt trafnidiaeth yn y DU fel rhan o symudedd rhyngwladol. Diffinnir canolbwynt trafnidiaeth yn y DU fel y man y mae’r cyfranogwyr yn gadael ohono i gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft, maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau.

Mae’r cyllid hwn ar gael ar gyfer pob symudedd grŵp ac i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig ar symudedd unigol.

Symudedd Grŵp: £500 fesul symudedd, hyd at uchafswm o £1500 y prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol

Symudedd Unigol: Mae cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig yn gymwys i gael hyd at £100 y pen fesul symudedd, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.

5.4.3 Costau Teithio Gwyrdd

Gall cyfranogwyr/grwpiau sy’n defnyddio teithio gwyrdd ar gyfer y daith gyfan (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais am gostau gwirioneddol eu teithio (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd deithio a ddyrannwyd). Bydd angen tystiolaeth o werth gorau am arian fel rhan o’r cais am arian ychwanegol hwn.

Mae costau teithio gwyrdd ar gael ar gyfer pellteroedd rhwng 100km a 3999km.