Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2025

Ysgolion Fersiwn 1.0, Nov 2025

4. Cymhwysedd

Grŵp o ddisgyblion ysgol gyfun o Lesotho a Chymru gyda'u breichiau o gwmpas ei gilydd yn gwenu at y camera.

Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Ysgolion. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.

4.1. Hyd prosiectau

Mae hyd prosiectau cymwys fel a ganlyn:

  • 12 mis
  • 18 mis
  • 24 mis

Gwnewch yn sicr eich bod chi’n deall gofynion fisa y wlad/gwledydd rydych chi’n bwriadu ymweld â hi/nhw a chaniatáu digon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (lle bo’n berthnasol).

Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisas na darparu cymorth gyda cheisiadau fisa.

4.2. Sefydliadau cymwys

Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.

Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.

Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.

4.2.1 Sefydliadau cymwys i ymgeisio (sector Ysgolion):
  • unrhyw ysgol sy’n cael ei hariannu neu ei chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 19 oed ac a arolygir gan ESTYN
  • unrhyw ysgol annibynnol nid-er-elw lle mae pob disgybl yn cael ei dderbyn drwy atgyfeiriad gan awdurdod lleol, gweithiwr cymdeithasol, neu elusen berthnasol, ac sy’n gweithredu yng Nghymru, gan ddarparu addysg i blant a phobl ifanc 4 – 19 oed
  • unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru
  • unrhyw un o’r 4 Consortiwm Addysg Rhanbarthol
  • consortiwm sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o sefydliadau ym maes addysg ysgolion. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol a enwir sy’n cael ei hariannu a’i chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff cydgysylltu ysgolion neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill nid-er-elw sydd â rôl yn y maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu hariannu neu eu cynnal gan awdurdod lleol a’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu ohoni. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm

Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar, amlwg o ddarparu gweithgaredd o fewn y sector y maent yn gwneud cais iddo.

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwysedd nad yw’n gweithredu er elw.

Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu i roi gwybod a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid. Os nad ydych chi’n sicr ac eisiau gwirio eich cymhwyster sector, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru

4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneri â nhw:
Darlun yn dangos dwy law yn ysgwyd o flaen symbol y byd

Gall y sefydliadau sy’n gwneud cais yng Nghymru, fel y’u diffinnir uchod, anfon eu cyfranogwyr i’r sefydliadau derbyn canlynol y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain, neu (ar gyfer profiadau teithio cyflwyniadol yn unig) i sefydliadau derbyn yng Nghymru a gweddill y DU:

  • ysgol(ion) sy’n darparu addysg gyffredinol ar lefel cyn-gynradd, cynradd neu uwchradd, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r ysgol wedi’i chofrestru ynddi
  • unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n weithgar yn y farchnad lafur neu ym meysydd addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid

Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau derbyn cymwys.

4.3. Symudedd a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael

Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys.  Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael.  Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru .  Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.

Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae cyfraddau grant a chostau cymwys i’w gweld yn adran 5.

Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.

4.3.1 Gweithgareddau dysgwyr

Symudedd Grŵp

Symudedd grŵp: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 4 wythnos.
Symudedd rhagarweiniol yn y DU: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 5 diwrnod

Mae symudedd grŵp yn gyfle i grwpiau sy’n cynnwys o leiaf 3 o ddysgwyr gael profiad o gyfnewid dysgu rhyngwladol, ynghyd â staff a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i athrawon neu staff cymwysedig eraill o’r ysgol fod yn bresennol gyda’r dysgwyr drwy gydol y gweithgaredd. Os oes angen, gall oedolion eraill hefyd fod yn bresenol i gefnogi’r athrawon cysylltiedig. Dylai gweithgareddau gael eu seilio ar bedwar diben Cwricwlwm i Gymru, a rhaid bod ganddynt ddeilliannau dysgu wedi’u diffinio’n glir. Gall dysgu fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol, ond rhaid cynnwys cyfnewid a chydweithrediad gyda chymheiriaid o ysgol neu sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.

Nid yw symudedd nad yw’n cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd arall yn gymwys i gael cyllid.

Symudedd grŵp rhagarweiniol: 

Mae’r rhain yn weithgareddau symudedd rhagarweiniol byr yn y DU ac sy’n bosibl yn rhan o ddilyniant i weithgaredd symudedd rhyngwladol, lle mae sefydliadau sy’n gwneud cais yn teimlo na fyddai gweithgaredd symudedd rhyngwladol yn gyraeddadwy fel arall. Rhaid i geisiadau am symudedd grŵp rhagarweiniol hefyd gynnwys symudedd grŵp rhyngwladol ar gyfer yr un cyfranogwyr arfaethedig. Rhaid esbonio yn y cais pam mae gweithgareddau symudedd rhagarweiniol yn y DU yn hanfodol i alluogi eich dysgwyr i wneud gweithgareddau symudedd rhyngwladol.

Dim ond ar gyfer symudedd grŵp dysgwyr y mae symudedd rhagarweiniol yn gymwys.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Dysgwyr a phobl sy’n gwmni):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio.
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Dysgwyr:

Pob disgybl 4 – 19 oed, wedi cofrestru mewn ysgol yng Nghymru fel y’i diffinnir yn yr adran sefydliadau cymwys i ymgeisio uchod. Dylai symudedd grŵp gynnwys o leiaf 3 dysgwr.

Pobl sy’n gwmni:

Rhaid i ddysgwyr fynd gyda staff a gyflogir gan yr ysgol – staff addysgu neu staff nad ydynt yn addysgu. Os oes angen, gall oedolion eraill a gymeradwyir gan yr ysgol hefyd weithredu fel personau hebrwng i gefnogi’r staff ysgol sy’n dod gyda nhw.

Symudedd Unigol

12 diwrnod – uchafswm 48 wythnos

Mae gweithgaredd symudedd unigol yn gyfle i gyfranogwr unigol gael profiad dysgu annibynnol wedi’i deilwra’n bersonol drwy weithgaredd cyfnewid dysgu rhyngwladol. Dylai’r pedwar diben fod yn sail i’r gweithgareddau symudedd hyn a dylent ganolbwyntio ar brofiadau, gwybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i’r Cwricwlwm i Gymru. Gall dysgu fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol, ond rhaid cynnwys cyfnewid a chydweithrediad, gyda dysgwyr yn gweithio ar y cyd â chymheiriaid o ysgol neu sefydliad partner rhyngwladol i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol. Gan na fydd unrhyw un yn mynd gyda’r dysgwyr ar y gweithgaredd symudedd, rhaid datblygu rhaglen ddysgu wedi’i theilwra ar gyfer pob dysgwr, rhaid darparu hyfforddiant cyn gadael, a rhaid gwneud trefniadau cymorth parhaol gyda’r sefydliad perthnasol sy’n derbyn ar gyfer hyd y gweithgaredd symudedd.

Nid yw gweithgareddau symudedd nad ydynt yn cynnwys gweithgaredd cyfnewid gyda chymheiriaid o wlad/wledydd eraill yn gymwys am gyllid.

Costau cymwys

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Pob disgybl 4 – 19 oed, wedi cofrestru mewn ysgol yng Nghymru fel y’i diffinnir yn yr adran sefydliadau cymwys i ymgeisio uchod.

Cyfnewidiadau Rhithwir Grwpiau

Isafswm o 20 awr o ymgysylltu rhithwir

Gellir gwneud cais am gyfnewid grŵp rhithwir pan fo cyfiawnhad clir nad yw teithio ar gyfer y cyfranogwyr arfaethedig yn bosibl nac yn ymarferol. Ni ddylid defnyddio cyfnewidiadau rhithwir ar gyfer y cyfranogwyr hynny sydd angen cymorth a chyllid ychwanegol i wneud symudedd corfforol. Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais fod yn glir yn eu cymwysiadau ynghylch pam mai symudedd cwbl rithwir, nad yw’n gorfforol, yw’r unig fformat sy’n addas ar gyfer eu dysgwyr.

Dylai’r cyfnewid rhithwir alluogi dysgwyr i brofi cyfnewid rhyngwladol, cyfathrebu â chyfoedion o sefydliad partner rhyngwladol a gweithio ochr yn ochr â nhw, ac i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth.

Rhaid i staff o’r sefydliad hwyluso’r profiad dysgu trwy gydol y gweithgaredd ac arwain y broses ddysgu.

Pan fydd sefydliadau’n gweithio gyda grŵp o ddysgwyr gan gynnwys y rhai sy’n gallu teithio a’r rhai na allant deithio, gallant wneud cais am symudedd grŵp a symudedd rhithwir i ddarparu ar gyfer holl gyfranogwyr y grŵp.

Costau cymwys

Costau datblygu cyfnewid rhithwir:

Cyfraniad tuag at y gost o ddatblygu a chynnal cyfnewidiadau rhithwir o ansawdd uchel, gan gynnwys cyfraniad at ffïoedd cyrsiau lle mae cyfnewidiadau rhithwir yn cael eu hwyluso gan ddarparwr trydydd parti. Cyllid o hyd at £1,200 fesul prosiect.

Cymorth Sefydliadol:

Bydd y sefydliad yn derbyn grant cymorth sefydliadol ar gyfer hyd at 20 o gyfranogwyr fesul prosiect sy’n cwblhau’r isafswm o 20 awr o ymgysylltu rhithwir.

Cyfranogwyr cymwys

Pob disgybl 4 – 19 oed, wedi cofrestru mewn ysgol yng Nghymru fel y’i diffinnir yn yr adran sefydliadau cymwys i ymgeisio uchod.

4.3.2 Gweithgareddau staff:

Dylai pob symudedd staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.

Cysgodi Swydd a Lleoliadau

Cysgodi swydd: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.
Lleoliadau: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 48 wythnos.

Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgolion ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgol i ymgymryd â symudedd cysgodi swydd, yn ymwneud â hwyluso arferion gorau, cyfnewid gwybodaeth, datblygu gyrfa a datblygiad proffesiynol, a fydd yn rhoi hwb i ymarferwyr i wireddu’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru yn eu hysgolion.

Mae Lleoliadau addysgu er mwyn i athrawon cymwysedig dreulio cyfnod yn addysgu disgyblion mewn ysgol bartner dramor. Gall Lleoliadau addysgu gynnwys darparu hyfforddiant ar gyfer datblygu’r sefydliad partner.

Gallwch chi gyfuno Lleoliadau a Chysgodi swyddi yn ystod un cyfnod dramor.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Ar gyfer lleoliadau addysgu: Staff addysgu cymwysedig neu arweinwyr ysgol sydd â chontract cyflogaeth gydag ysgol gymwys.

Ar gyfer cysgodi swyddi: Staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgolion ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).

Prosiectau consortiwm: gall staff o holl sefydliadau partner y consortiwm gymryd rhan mewn symudedd staff cyn belled â’u bod yn ymwneud â chyflwyno neu reoli Addysg Ysgolion yn uniongyrchol. Nid yw staff o’r sefydliad ymgeisio sydd ond yn gyfrifol am drefnu symudeddau ar ran partneriaid consortiwm eraill yn gymwys i gymryd rhan.

 

Cyrsiau Hyfforddi a Datblygiad Proffesiynol

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 4 wythnos (uchafswm ffi cwrs 10 diwrnod fesul cyfranogwr).

Cyllid i gyfranogwyr gael mynediad at gwrs strwythuredig neu fath tebyg o hyfforddiant a ddarperir gan weithwyr proffesiynol cymwysedig ac sy’n seiliedig ar raglen ddysgu a deilliannau dysgu a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Rhaid i’r hyfforddiant gynnwys cyfranogwyr o ddwy wlad wahanol o leiaf ac mae’n rhaid i gyfranogwyr ryngweithio â dysgwyr eraill a chyda’r hyfforddwyr. Nid yw gweithgareddau sy’n oddefol gan bennaf yn gymwys, megis gwrando ar ddarlithoedd, areithiau neu fynd i gynadleddau.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • cyfraniad at ffïoedd cwrs hyd at uchafswm o £40 fesul cyfranogwr y dydd ac uchafswm o £400 fesul cyfranogwr fesul prosiect/Cytundeb Grant
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Costau anghymwys:

  • ffïoedd mynychu cynhadledd neu deithio i gynadleddau rhyngwladol

Cyfranogwyr cymwys

Staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgol ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).

Prosiectau consortiwm: gall staff o holl sefydliadau partner y consortiwm gymryd rhan mewn symudedd staff cyn belled â’u bod yn ymwneud â chyflwyno neu reoli Addysg Ysgolion  yn uniongyrchol. Nid yw staff o’r sefydliad ymgeisio sydd ond yn  gyfrifol am drefnu symudeddau ar ran partneriaid consortiwm eraill yn gymwys i gymryd rhan.

Arfer gorau ac arloesedd

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.

Cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ansawdd ac arloesedd mewn addysg ysgol a dod â gwersi a ddysgwyd ac offer yn ôl i’r  ysgolion sy’n cymryd rhan yn y prosiect a thu hwnt.

Gallai gweithgareddau gynnwys gweithio gyda chyfranogwyr o sefydliadau partner dramor i ddatblygu agweddau ar Gwricwlwm i Gymru ar lefel ysgol, clwstwr, rhanbarthol neu genedlaethol, neu gydweithio â phartneriaid rhyngwladol i ddwyn ynghyd enghreifftiau o arfer gorau o wahanol wledydd.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgol ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).

Prosiectau consortiwm: gall staff o holl sefydliadau partner y consortiwm gymryd rhan mewn symudedd staff cyn belled â’u bod yn ymwneud â chyflwyno neu reoli Addysg Ysgolion  yn uniongyrchol. Nid yw staff o’r sefydliad ymgeisio sydd ond yn  gyfrifol am drefnu symudeddau ar ran partneriaid consortiwm eraill yn gymwys i gymryd rhan.

Ymweliadau paratoadol

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 7 diwrnod.

Ymweliadau â phartneriaid rhyngwladol newydd neu bresennol i gefnogi teithiau arfaethedig neu barhaus o fewn yr un cais. Rhaid i bob ymweliad paratoadol fod â sail resymegol glir a rhaid iddo wella cynhwysiant, cwmpas ac ansawdd gweithgareddau symudedd. Er enghraifft, gellir trefnu ymweliadau paratoadol i helpu i baratoi ar gyfer symudedd cyfranogwyr ag anghenion ychwanegol, i ddechrau gweithio gyda sefydliad partner newydd neu i baratoi symudedd am gyfnod hwy. Gellir eu trefnu hefyd i ddarparu cymorth i ddysgwyr ar symudedd unigol tymor hwy. Gellir trefnu ymweliadau paratoadol i baratoi ar gyfer unrhyw fath o symudedd dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff lle mae sail resymegol glir.  Rhaid cwblhau’r ymweliad paratoadol cyn i’r dysgwr neu’r staff symud i fod yn berthnasol iddo.  Yr unig eithriad fyddai ymweliadau cymorth bugeiliol â symudedd dysgwyr unigol hirdymor.

Bydd Taith yn ariannu hyd at uchafswm o dri ymweliad paratoadol fesul cais a hyd at uchafswm o ddau gyfranogwr fesul ymweliad. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn am fwy na dau gyfranogwr ar gyfer pob ymweliad lle darperir rhesymeg a chyfiawnhad clir.

Rhaid i’r gweithgaredd y bwriedir i’r ymweliad(au) paratoadol ei gefnogi hefyd gael ei gynnwys yn y cais.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)

Ni fydd y gweithgaredd hwn yn cynhyrchu taliadau cymorth sefydliadol.

Cyfranogwyr cymwys

Staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgol ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).

4.4. Symudedd mewnol

Gallwch chi wneud cais am 30% ychwanegol o’r cyllid y gofynnwch chi amdano ar gyfer gweithgareddau symudedd allanol i ddod â phobl i Gymru. Mae gwybodaeth am sefydliadau partner rhyngwladol yn adran 4.2.2.

Cyfranogwyr cymwys: 

Dysgwyr:

  • pob disgybl 4 – 19 oed sydd wedi’u hymrestru a’u cofrestru mewn ysgol gymwys, a gydnabyddir gan yr awdurdodau cymwys cenedlaethol perthnasol neu’r corff/cyrff rheoleiddio.

Staff:

  • lleoliadau addysgu: Yr holl staff sydd â chontract addysgu gweithredol gyda’r sefydliad anfon cymwys.
  • gweithgareddau eraill: Yr holl staff sydd â chontract cyflogaeth gweithredol gyda’r sefydliad anfon cymwys.

Symudeddau cymwys:

Mae pob symudedd a ddiffinnir fel symudedd allanol cymwys hefyd yn gymwys ar gyfer symudedd mewnol. Mae’r holl gyfyngiadau a gofynion yr un fath ar gyfer symudedd mewnol ag ar gyfer symudedd allanol.

Costau a thaliadau cymwys:

Mae cyfranogwyr symudedd mewnol yn gymwys i dderbyn cyllid grant ar gyfer teithio a cynhaliaeth ar gyfer eu symudedd i Gymru. Bydd y sefydliad sy’n gwneud cais yng Nghymru, fel Derbynnydd Grant Taith , yn derbyn grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr mewnol i Gymru. Telir cyllid ar gyfer gweithgareddau symudedd mewnol i’r sefydliad ymgeisio o Gymru i’w ddosbarthu i’r sefydliad partner rhyngwladol.

Bydd disgwyl i’r sefydliad sy’n gwneud cais yng Nghymru, fel Derbynnydd Grant Taith a gwesteiwr y cyfranogwyr mewnol, gyfleu telerau unrhyw gyfraniadau i’w gwneud yn glir a nodi faint o gymorth ariannol a ddyrennir i’r cyfranogwr/wyr mewnol.

Bydd cyfranogwyr symudedd mewnol yn derbyn cyfraddau cynhaliaeth Grŵp 1, a grant teithio ar yr un lefel â’r cyfraddau ar gyfer y symudedd allanol cyfatebol. Ni chaiff taliadau i gyfranogwr mewnol fod yn fwy na chyfradd grant cyfatebol cyfranogwr allanol o Gymru i wlad Grŵp 1 am yr un hyd a math o weithgaredd symudedd.