Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2025

Ysgolion Fersiwn 1.0, Nov 2025

7. Beth sydd yn digwydd os bydd eich cais yn llwyddiannus

Pobl ifanc yn eistedd mewn awditoriwm gyda'u hofferynnau cerdd yn gwenu at y camera

Os byddwch chi’n llwyddiannus yn derbyn cyllid, byddwch chi’n dod yn Dderbynnydd Grant.  Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd os bydd eich cais yn llwyddiannus ar ein gwefan yma.  Er mwyn eich helpu i ddeall beth i’w ystyried cyn gwneud cais am gyllid, rydym ni wedi rhoi crynodeb byr isod o rai o’r pethau y bydd angen i chi eu gwneud fel rhan o’ch cynlluniau rheoli prosiect. Mae tîm Taith bob amser ar gael i roi cymorth i Dderbynnydd Grant i reoli eu prosiectau Taith o ddydd i ddydd trwy weminarau a chymorth un-i-un.

7.1. Rheoli Prosiect

7.1.1 Dewis cyfranogwyr

Mae Derbynwyr Grant yn gyfrifol am ddewis cyfranogwyr ar gyfer symudedd. Rhaid i’r broses ddethol fod yn dryloyw, yn gydlynol, yn deg ac wedi’i dogfennu. Rhaid i gyfranogwyr fodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodir yn y Canllaw Llwybr 1 hwn, adran 4.3.

7.1.2 Talu cyfranogwyr

Mae’r Derbynwyr Grantiau’n gyfrifol am dalu grant teithio a chynhaliaeth i’r cyfranogwyr. Gellir talu grantiau’n uniongyrchol i gyfranogwyr neu gellir talu costau llety a theithio ar eu rhan. Rhaid i dderbynwyr grantiau sicrhau bod y cyfranogwyr yn derbyn yr holl swm ariannol sy’n ddyledus iddyn nhw (cost uned lawn).

7.1.3 Darparwyr trydydd parti

Caniateir i Dderbynwyr Grant ddefnyddio gwasanaethau darparwyr trydydd parti i gefnogi’r prosiect wrth gynllunio a gwneud trefniadau ymarferol. Rhaid i’r holl gontractau gyda darparwyr trydydd parti sicrhau y bydd y cyfranogwyr yn dal i dderbyn eu swm ariannol llawn am deithio a chynhaliaeth, naill ai drwy daliad uniongyrchol gan y Derbynnydd Grant neu daliadau ar eu rhan. Rhaid i unrhyw gyllid Taith sy’n cael ei roi i ddarparwr trydydd parti nad yw’n cael ei wario’n gyfan gwbl tuag at deithio a chynhaliaeth y cyfranogwyr, e.e. costau staff, costau gweithredol neu orbenion, ddod o gyllid cymorth sefydliadol; ni ellir defnyddio cyfraddau teithio a/neu gynhaliaeth at y diben hwn. Rhaid i Dderbynwyr Grantiau dderbyn sicrwydd ysgrifenedig at y perwyl hwn gan unrhyw a phob darparwr trydydd parti y maent yn gweithio gyda nhw, a gellir gofyn am hyn neu gall hyn fod yn ofynnol fel rhan o archwiliad.

7.2. Cyllid ychwanegol

Pan fydd cais yn llwyddiannus ac yn ystod y broses o gynllunio prosiectau, gall derbynwyr grantiau gyflwyno cais am gyllid ychwanegol ar gyfer y canlynol:

o Darlun yn dangos llaw yn estyn allan gyda symbol arian yn eistedd ar ben cledr y llaw. Mae saeth yn mynd allan o'r symbol arian i gynrychioli arian yn gadael y llaw.
  • teithio gwyrdd
  • costau eithriadol (gan gynnwys Teithio i ganolbwynt trafnidiaeth y DU – ar gyfer dysgwyr yn unig)
  • costau cynhwysiant (100% o gostau cynhwysiant cymwys i gyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a/neu anableddau, 100% o wir gostau yn achos costau sy’n gysylltiedig â theithio ychwanegol, e.e. fisâu, pasbortau, yswiriant teithio, bagiau (lle bo’n angenrheidiol) i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig)
  • mae sefydliadau yn gymwys i dderbyn £25 o gyllid cymorth sefydliadol ychwanegol fesul cyfranogwr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gellir hawlio hyn yn y cam adrodd terfynol ar gyfer cyfranogwyr heb gynrychiolaeth ddigonol yr adroddir arnyn nhw

Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am gyllideb ychwanegol yn adran 5.4 uchod.

7.3. Adrodd

Bydd yn ofynnol i dderbynwyr grantiau adrodd ar eu prosiectau Taith. Bydd manylion y gofynion adrodd yn eich llythyr cytundeb grant ac atodlenni. Fel isafswm, bydd dogfen adrodd fyw i chi gofnodi’r holl symudiadau ar ôl iddyn nhw ddigwydd, yn ogystal ag adroddiadau interim a therfynol.

Bydd hefyd yn ofynnol i dderbynwyr grantiau gael cyfarfod rhagarweiniol gyda thîm Taith a mynychu cyfarfodydd eraill gyda Taith drwy gydol eu prosiect.

Mae’n ofynnol i gyfranogwyr Taith gwblhau arolwg yn dilyn eu symudedd i roi adborth ar eu profiad. Byddwn ni’n anfon dolenni’r arolwg atoch chi i’w hanfon ymlaen at eich cyfranogwyr. Os nad yw arolygon ar-lein yn addas ar gyfer eich cyfranogwyr, mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau eraill i’w galluogi i roi adborth.

7.4. Tystysgrifau Gwariant

Rhaid i bob Derbynnydd Grant sy’n derbyn dyfarniadau Grant o fwy na £60,000 gwblhau datganiad y dystysgrif. Sylwch fod yn rhaid i gyfrifydd annibynnol neu archwilydd allanol gwblhau hwn a bydd cost ynghlwm wrth hyn. Gall Derbynnydd Grant ddefnyddio costau cymorth sefydliadol i dalu’r gost hon.