Geirfa
- Capasiti ariannol
- Bydd Taith yn cymryd i ystyriaeth y cyllid a ofynnir amdano a bod y trefniadau llywodraethu ac ariannol o fewn eich sefydliad yn ddigonol i reoli’r grant. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ddogfen canllaw cymhwysedd ar y wefan.
- Capasiti gweithredol
- Mae’n bwysig bod gan Taith sicrhad eich bod â’r capasiti a’r gallu i reoli’r cyllid a ddyfarnwyd yn effeithiol a fydd gwyriadau yn cael eu gwneud ar eich polisïau sefydliadol, prosesau, llywodraethu a statws eich sefydliad.
- Consortiwm
- Dau neu fwy o sefydliadau Cymreig cymwys yn gweithio ar y cyd i ddatblygu a chyflwyno prosiect.
- Cost uned
- Swm penodol o arian i gyfrannu at gost benodol. Mae cyllid cost uned ar gael ar gyfer teithio, cynhaliaeth a chymorth sefydliadol.
- Costau cymwys
- Swm y grant sy'n gysylltiedig â chyflawni gweithgareddau'r prosiect.
- Cyfnewid rhyngwladol
- Cyfnewid dysgu rhwng unigolyn neu grŵp o bobl o Gymru, ac unigolyn neu grŵp o bobl o wlad arall.
- Cyfnewidiadau rhithwir
- Gweithgaredd prosiect yn gyfan gwbl ar-lein a/neu gyfle dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol neu anffurfiol, lle mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein neu offer dysgu ac mewn cydweithrediad ag o leiaf un sefydliad mewn gwlad arall.
- Cyfraddau grant
- Cyfraddau sefydlog sydd ar gael ar gyfer costau cymwys gwahanol.
- Cyfranogwr
- Unigolyn sy'n ymgymryd â symudedd rhyngwladol corfforol neu rithwir mewn prosiect sy’n cael ei ariannu gan Taith.
- Cynhaliaeth
- Cyfraniad ariannol sydd ar gael ar gyfer costau byw, a all gynnwys llety, bwyd a chludiant lleol, tra ar symudedd corfforol.
- Cytundeb Grant
- Y cytundeb ysgrifenedig rhwng Taith a’r Derbynnydd Grant yn manylu ar delerau ac amodau dyfarnu’r grant yn unol â’r ffurflen gais a fydd wedi’i hasesu’n annibynnol i fod yn gyllidadwy a’i chymeradwyo i’w hariannu gan International Learning Exchange Programme Limited.
- Cyllid Ychwanegol
- Gellir ceisio am gyllid ychwanegol ar ôl dechrau'r prosiect a ariannwyd gan Taith. Mae’r cyllid ychwanegol ar gael i gael gwared ar y rhan fwyaf o rwystrau ariannol i bobl o gefndiroedd difreintiedig, Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Derbynnydd Grant
- Pan gaiff ei gymeradwyo ar gyfer cyllid prosiect, daw'r sefydliad sy'n gwneud cais yn Dderbynnydd Grant ac mae'n gyfrifol am lofnodi'r Cytundeb Grant.
- Derbynwyr Grant
- Pan gaiff ei gymeradwyo ar gyfer cyllid prosiect, daw'r sefydliad sy'n gwneud cais yn Dderbynnydd Grant ac mae'n gyfrifol am lofnodi'r Cytundeb Grant.
- Dysgu anffurfiol
- Dysgu sy'n digwydd y tu allan i raglenni dysgu trefnedig neu strwythuredig ac nid oes unrhyw gymorth dysgu yn bresennol. Cyfeirir ato weithiau fel dysgu trwy brofiad neu ddysgu achlysurol.
- Dysgu ffurfiol
- Unrhyw ddysgu sy’n digwydd yn ystod rhaglen ddysgu drefnus neu strwythuredig.
- Dysgu heb fod yn ffurfiol
- Dysgu sy'n digwydd y tu allan i unrhyw raglen ddysgu drefnus neu strwythuredig, ond mae rhywfaint o gymorth dysgu yn bresennol.
- Dysgwr
- Unigolyn sy'n cymryd rhan mewn dysgu ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol gyda sefydliad cymwys. Mae gan bob sector feini prawf penodol. Mae meini prawf cymhwysedd yn amrywio rhwng pob sector.
- Galwad ariannu
- Y cyfnod o amser pan rydych chi’n gallu cyflwyno ceisiadau am gyllid.
- Grant
- Y cyllid a ddyfarnwyd gan Taith i sefydliad llwyddiannus.
- Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- Y rhai sy’n draddodiadol yn cael eu tangynrychioli mewn cyfnewid rhyngwladol – pobl o gefndiroedd difreintiedig, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- Y rhai sy’n draddodiadol yn cael eu tangynrychioli mewn cyfnewid rhyngwladol – pobl o gefndiroedd difreintiedig, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Person sy’n gwmni
- Oedolyn (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i aelodau staff o'ch sefydliad neu bartner consortiwm), sy'n mynd gyda dysgwyr ar grŵp symudedd ac yn hwyluso'r dysgu. Ar gyfer grwpiau gyda dysgwyr o dan 18 / oedolion agored i niwed, bydd angen i'r person sy'n dod gyda'r daith deithio hefyd.
- Prosiect
- Y symudeddau a'r gweithgareddau arfaethedig mae'r Derbynnydd Grant wedi'u cymeradwyo i'w hariannu gan Taith. Mae rhaid i'r prosiect orffen dros gyfnod o amser y cytunwyd arno a'i fwriad yw cyflawni pwrpas penodol.
- Symudedd mewnol
- Cyfranogwyr o sefydliadau partner rhyngwladol cymwys sy'n dod i Gymru i gymryd rhan mewn gweithgaredd a ariennir gan Taith.
- Rhyngwladol
- Yng ngyd-destun Taith, unrhyw wlad y tu allan y Deyrnas Unedig.
- Staff
- Person sy’n cael ei ch/gyflogi gan sefydliad cymwys, neu’n gweithio iddo, boed ar sail broffesiynol neu wirfoddol.
- Symudedd
- Cyfnod yn dysgu dramor. Mae modd gwneud symudedd yn y DU fel rhan o symudedd rhagarweiniol – gweler adran 4.3 am fanylion.
- Symudedd allanol
- Cyfranogwyr o sefydliadau cymwys yng Nghymru sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau Taith mewn sefydliadau partner rhyngwladol y tu allan i'r DU
- Symudedd corfforol
- Symud yn gorfforol i wlad arall heblaw'r wlad breswyl i gymryd rhan mewn gweithgaredd prosiect a/neu gyfle dysgu ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol.
- Teithio Gwyrdd
- Dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, h.y. teithio sy’n defnyddio dull trafnidiaeth allyriadau isel ar gyfer y daith gyfan. Er enghraifft: bws, trên neu rannu car.