Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2025

Addysg Oedolion Fersiwn 1.0, Nov 2025

3. Ymgeisio ar gyfer Llwybr 1

Grŵp o fechgyn mewn gwisg chwaraeon du yn sefyll mewn harbwr gyda hen gwch yn y cefndir.

3.1. Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i alwad ariannu Llwybr 1 2025 yw 27 Mawrth 2025 am 12.00yp. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hasesu.

3.2. Cyn i chi ymgeisio

Cyn dechrau gwneud cais, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n:

  • gwirio bod eich sefydliad yn gymwys
  • darllen y canllaw Llwybr 1 hwn yn drylwyr, yn enwedig y wybodaeth sy’n benodol i’r sector ynghylch gweithgareddau cymwys, hyd, cyfranogwyr a chostau
  • gwirio bod gan eich sefydliad ddigon o gapasiti yn ariannol ac o ran gweithredu
  • mynd i’r digwyddiadau am sut i gwblhau cais a darllen drwy adnoddau Llwybr 1 ar ein gwefan
  • Cysylltu â’r tîm Taith os oes gennych chi unrhyw gwestiwn

3.3. Llenwi cais

Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £60,000 o fewn cynllun Grantiau Bach, a gall y rhai sy’n dymuno gwneud cais am fwy na £60,000 (hyd at yr uchafswm sydd ar gael fesul sector) wneud hynny drwy’r cynllun Grantiau Mawr.  Mae gan y cynllun Grantiau Bach ffurflen gais mwy syml gyda llai o gwestiynau i’r ymgeisydd eu cwblhau. Dim ond o dan un opsiwn y gall sefydliadau wneud cais ym mhob galwad ariannu.

Darlun sy'n dangos sgrin cyfrifiadur a chyfrifiannell gyda siart cylch a symbol canran

Cyn dechrau eich cais, rhaid i chi lenwi ein cyfrifydd grant. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mewnbynnu faint o gyfranogwyr rydych chi am gymryd rhan ym mhob math o symudedd, i ba wlad ac am ba hyd, a byddwch chi’n gweld y swm y gallwch chi ofyn amdano yn awtomatig. Gallwch chi wylio fideo wedi’i recordio ymlaen llaw ar yr cyfrifydd grant yma.

Unwaith byddwch chi wedi llenwi’r cyfrifydd grant ac yn gwybod faint o gyllid rydych chi’n gofyn amdano, gallwch chi ddechrau’r ffurflen gais. Bydd angen i chi fewnbynnu swm y gyllideb a ddangosir yn eich cyfrifydd grant i’r ffurflen gais. Os yw’r swm yn £60,000 neu lai byddwch yn cael eich arwain at gwestiynau’r cais am Grantiau Bach ac os yw’n fwy na £60,000 byddwch yn cael eich arwain at gwestiynau’r cais am Grantiau Mawr. Mae’r ffurflen gais yn gofyn am ymatebion ysgrifenedig ar ystod o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect, manylion am weithgareddau prosiect arfaethedig, rheolaeth ariannol a phrosiectau, a pherthnasedd i bwrpas ac amcanion Taith. Gallwch chi ddod o hyd i gwestiynau’r cais, a rhywfaint o wybodaeth ategol yma.