1. Taith Llwybr 1 – Symudedd Cyfranogwyr
1.1. Cyflwyniad i Lwybr 1
Mae Llwybr 1 (Symudedd Cyfranogwyr) yn cefnogi sefydliadau yng Nghymru i anfon eu dysgwyr, pobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol. Cyfeirir at hyn hefyd fel ‘symudedd’ ac i’ch helpu i ddeall yr hyn mae hyn yn ei olygu, rydyn ni wedi rhoi diffiniadau o’r termau hyn isod.
Cyfnewid rhyngwladol yw cyfnewid dysg rhwng unigolyn neu grŵp o bobl o Gymru, ac unigolyn neu grŵp o bobl o wlad arall. Mae’r cyfnewid hwn yn galluogi cyfranogwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd, profi gwahanol ddiwylliannau a rhannu profiadau.
Gall dysgu fod mewn amrywiaeth o ffurfiau ac chynnwys:
- dysgu ffurfiol (yn gyffredinol yn digwydd mewn ysgol, coleg neu brifysgol a lle bydd y cyfranogwr yn cael cymhwyster)
- dysgu anffurfiol (dysgu heb ei gynllunio lle mae’r cyfranogwr yn ennill gwybodaeth neu sgiliau trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill. Gellir ei alw hefyd yn ddysgu trwy brofiad)
- dysgu heb fod yn ffurfiol (dysgu wedi’i gynllunio sy’n digwydd y tu allan i amgylchedd traddodiadol, ffurfiol, megis mewn lleoliadau cymunedol. Mae ffocws y dysgu yn fwy ar sgiliau ymarferol yn hytrach na gwybodaeth academaidd)
Mae symudedd yn ymweliad â chyrchfan ryngwladol sy’n caniatáu i gyfranogwyr wneud cyfnewid ddysgu ryngwladol.
Symudedd allanol yw pan fydd cyfranogwyr yng Nghymru yn teithio o Gymru. Symudedd mewnol yw pan fydd cyfranogwyr sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU yn teithio i Gymru. Er na all sefydliadau rhyngwladol wneud cais i Taith am arian, gallan nhw dderbyn rhywfaint o arian drwy eu sefydliad partner yng Nghymru.
Rhaid i bob prosiect sy’n cael ei ariannu gan Taith gynnwys cyfranogwyr o Gymru yn teithio dramor (symudedd allanol), ond gallwch chi hefyd wneud cais am gyllid ychwanegol i ddod â chyfranogwyr i Gymru (symudedd mewnol). Caiff hwn ei gapio ar uchafswm ychwanegol o 30% o’r gyllideb a gewch ar gyfer symudedd allanol. Rhaid i gyfranogwyr ar symudedd mewnol fod wedi’u lleoli yng Nghymru am gyfnod eu symudedd.
Os oes gennych chi gyfranogwyr nad ydynt yn gallu teithio dramor, gallwch chi wneud cais am arian iddyn nhw gymryd rhan mewn symudedd rhithwir. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiynau symudedd yn adran 4.3.
Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.
Mae Taith wedi ymrwymo i wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar gefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i fanteisio ar gyfleoedd rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Rhaid i chi ddangos byddwch yn darparu cyfleoedd i’r rhai a fyddai’n annhebygol o brofi symudedd rhyngwladol heb gyllid Taith. Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn prosiect ddod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae symudedd staff yn unig yn bosibl, ond rhaid iddo gael effaith amlwg ar y dysgwyr neu’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae ein model ariannu yn cynnwys cymorth ariannol ychwanegol i gael gwared ar y rhan fwyaf o’r rhwystrau ariannol i’r bobl o gefndiroedd difreintiedig, Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhagor o wybodaeth yn adran 5.4.1.
Mae Taith yn cynnig cymorth ychwanegol i sefydliadau sy’n newydd i gyfnewid rhyngwladol drwy ein Hyrwyddwyr Taith. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Taith.
1.2. Sectorau cymwys
Mae Llwybr 1 yn agored i holl sectorau Taith. Isod gwelwch chi gymhwysedd sefydliadau ar gyfer pob sector.
- unrhyw ysgol sy’n cael ei hariannu neu ei chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 19 oed ac a arolygir gan ESTYN
- unrhyw ysgol annibynnol nid-er-elw lle mae pob disgybl yn cael ei dderbyn drwy atgyfeiriad gan awdurdod lleol, gweithiwr cymdeithasol, neu elusen berthnasol, ac sy’n gweithredu yng Nghymru, gan ddarparu addysg i blant a phobl ifanc 4 – 19 oed
- unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru
- unrhyw un o’r 4 Consortiwm Addysg Rhanbarthol
- consortiwm sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o sefydliadau ym maes addysg ysgolion. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol a enwir sy’n cael ei hariannu a’i chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff cydgysylltu ysgolion neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill nid-er-elw sydd â rôl yn y maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu hariannu neu eu cynnal gan awdurdod lleol a’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu ohoni. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar, amlwg o ddarparu gweithgaredd o fewn y sector y maent yn gwneud cais iddo.
Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwysedd nad yw’n gweithredu er elw
Sefydliadau nid-er-elw a grwpiau sy’n cael eu rheoleiddio neu sy wedi eu cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n gweithio ym maes ieuenctid gan gynnwys:
- cyrff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol
- sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw
- consortiwm o sefydliadau/darparwyr sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o sefydliadau sy’n gweithio ym maes ieuenctid. Rhaid i bob aelod o gonsortiwm o’r fath gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi yn y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Gall sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio ym maes ieuenctid, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i sefydliadau gynnig tystiolaeth foddhaol i ddangos:
1) sut bydd gweithgaredd arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
2) bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, yn gyfranogwyr sy’n ymgymryd â sefydliad cymwys yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng NghymruNid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.
Unrhyw sefydliad nid er elw sy’n cael ei reoleiddio neu sy wedi ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg ffurfiol ac heb fod yn ffurfiol i oedolion, gan gynnwys:
- awdurdodau cyhoeddus lleol a rhanbarthol, cyrff cydlynu a sefydliadau eraill sydd wedi’u cofrestru ac sy’n gweithredu o Gymru sydd â rôl ym maes addysg i oedolion
- sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid er elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw
- consortiwm o sefydliadau/darparwyr, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o ddarparwyr addysg i oedolion, ym maes addysg i oedolion. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes Addysg i Oedolion, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i sefydliadau gynnig tystiolaeth foddhaol i ddangos:
1) sut bydd gweithgaredd arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
2) bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, cyfranogwyr sy’n ymgysylltu’n weithredol â sefydliad cymwys yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng NghymruNid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwysedd nad yw’n gweithredu er elw.
- unrhyw sefydliad cyhoeddus sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg bellach, ac sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar wahanol lefelau o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, gan arwain at gymwysterau achrededig
- cyrff cydgysylltu cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio darpariaeth addysg bellach
- consortiwm o sefydliadau/darparwyr nid-er-elw, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o ddarparwyr addysg bellach, ym maes addysg bellach. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu nid-er-elw sy’n cael ei reoleiddio neu sy wedi ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan arwain at gymwysterau achrededig, gan gynnwys:
- cyrff cydgysylltu cenedlaethol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio’r ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol
- sefydliadau anllywodraethol nid-er-elw, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw sydd yn cynnal, hyfforddi neu weithio gyda dysgwyr a phrentisiaid ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol
- consortiwm o sefydliadau a darparwyr nid-er-elw, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi yn y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm
Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.
- unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru (SAU) a reoleiddir neu a ariennir gan Medr
- darparwyr addysg uwch sy’n gweithredu yng Nghymru, y mae eu cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol at ddibenion bod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr
1.3. Cynaliadwyedd
Mae Taith yn ariannu costau teithio miloedd o deithiau rhyngwladol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn docynnau awyren, sy’n arwain at ôl troed carbon sylweddol.
Mae tystiolaeth ddigonol bod manteision i gyfnewid rhyngwladol sy’n newid bywydau, ond mae hefyd yn bwysig bod Taith yn cyfrannu at liniaru effaith amgylcheddol teithio rhyngwladol.
Er mwyn sicrhau bod y rhaglen mor gynaliadwy â phosib, bydd rhaid i chi roi manylion am y rhesymeg dros y gyrchfan/cyrchfannau, gan ddarparu esboniad clir o ran pam mai’r wlad honno/y gwledydd hynny yw’r opsiwn gorau ar gyfer y cyfranogwyr. Bydd aseswyr yn ystyried hyn fel rhan o’r broses asesu, yn enwedig y cyrchfannau hynny a fydd yn creu ôl troed carbon mwy.
Er mwyn sicrhau bod symudedd i gyrchfannau ymhellach i ffwrdd o Gymru yn cael yr effaith fwyaf, mae’r isafswm o ddiwrnodau symudedd ar gyfer gweithgareddau mewn gwledydd dros 4,000 km o Gymru yn:
Pellter (km) | Hyd |
---|---|
4,000-12,000km | 5 diwrnod symudedd, (uchafswm 2 ddiwrnod teithio) |
12,000km+ | 12 diwrnod symudedd, (uchafswm 2 ddiwrnod teithio) |
Anogir teithio gwyrdd (trên, bws/coets, rhannu car) lle bo modd. I gydnabod y costau uwch posibl, gall prosiectau sy’n defnyddio opsiynau teithio gwyrdd ar gyfer y daith gyfan (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais am gostau gwirioneddol ar gyfer eu teithio (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd deithio a ddyrannwyd) yn ystod y prosiect.
Mae’n bosib i gyfranogwyr ymgymryd â mwy nag un symudedd Taith. Serch hynny, ni chaniateir i ddysgwyr sy’n gyfranogwyr deithio i’r un gyrchfan mwy nag unwaith mewn un prosiect unigol. Gall cyfranogwyr sy’n staff deithio i’r un gyrchfan mwy nag unwaith ar gyfer ymweliad paratoadol a/neu fel person sy’n mynd gyda chyfranogwyr yn ogystal â chymryd rhan mewn un gweithgaredd staff cymwys.