Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

Addysg Oedolion Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

2. Amserlen a Chyllideb

Grŵp o oedolion yn sefyll am lun yn yr haul y tu allan i adeilad coch a gwyn / A group of adults posing for a photo in the sun outside a red and white building

2.1. Amserlen

Amserlen Llwybr 1 2026 yw:

Mae Llwybr 1 yn agor

Dyddiad cau ceisiadau Llwybr 1

Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hasesu.

Bydd hysbysiadau canlyniad yn cael eu hanfon at bob sefydliad sy'n gwneud cais

Gall prosiectau ddechrau

Llwybr 1 (2026) yw’r alwad ariannu olaf ar gyfer rhaglen Taith, gyda phob prosiect Taith yn cau erbyn 31 Awst 2027. Felly gall prosiectau bara uchafswm o 12 mis, gyda gweithgareddau’n digwydd rhwng Medi 2026 ac Awst 2027. Oherwydd bod y rhaglen yn gorffen, yn anffodus ni fydd yn bosibl i Taith roi unrhyw estyniadau i brosiectau.

2.2. Cyllideb ar gael

Mae cynhwysedd a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu cymaint ag y bo modd ac ystod mor eang o sefydliadau. O’r herwydd, gall pob sefydliad sy’n gwneud cais o dan y sector Addysg Oedolion ofyn am hyd at uchafswm o £60,000.