Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

Addysg Oedolion Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

4. Cymhwysedd

Naw oedolyn yn eistedd o amgylch bwrdd hir gyda llyfrau gwaith o'u blaenau. Maent yn cael sgyrsiau mewn grwpiau bach / Nine adults sat around a long table with workbooks in front of them. They are all having small group conversations

Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Addysg Oedolion. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.

4.1. Hyd prosiectau

Mae prosiectau Llwybr 1 2026 yn para 12 mis. Dyma flwyddyn olaf cyllid Taith ac felly rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Awst 2027. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cwblhau eich gweithgareddau arfaethedig o fewn yr amserlen hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall gofynion fisa’r wlad (gwledydd) ble rydych chi’n bwriadu anfon eich cyfranogwyr a chaniatewch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (os yn berthnasol).

Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisâu na darparu cefnogaeth gyda cheisiadau am fisâu.

4.2. Sefydliadau cymwys

Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.

Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.

Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.

4.2.1 Sefydliadau cymwys i ymgeisio (sector Addysg Oedolion):

Unrhyw sefydliad nid er elw sy’n cael ei reoleiddio neu sy wedi ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg ffurfiol ac heb fod yn ffurfiol i oedolion, gan gynnwys:

  • awdurdodau cyhoeddus lleol a rhanbarthol, cyrff cydlynu a sefydliadau eraill sydd wedi’u cofrestru ac sy’n gweithredu o Gymru sydd â rôl ym maes addysg i oedolion
  • sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid er elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw
  • consortiwm o sefydliadau/darparwyr, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o ddarparwyr addysg i oedolion, ym maes addysg i oedolion. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm 

Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes Addysg i Oedolion, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i sefydliadau gynnig tystiolaeth foddhaol i ddangos:

1) sut bydd gweithgaredd arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
2) bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, cyfranogwyr sy’n ymgysylltu’n weithredol â sefydliad cymwys yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwysedd nad yw’n gweithredu er elw.

4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneru â nhw:
Darlun yn dangos dwy law yn ysgwyd o flaen symbol y byd

Yn gyffredinol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i’r sefydliadau rhyngwladol canlynol y tu allan i’r DU a’r tiriogaethau dibynnol ar y Goron (pan fydd symudeddau grŵp rhagarweiniol yn angenrheidiol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DU):

  • unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n darparu addysg i oedolion a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r darparwr yn gweithredu ynddi ac wedi’i ymgorffori a/neu sefydlu ynddi
  • unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n gweithredu ym meysydd addysg, hyfforddiant a dysgu oedolion

Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau partner rhyngwladol cymwys.

4.3. Symudeddau a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael

Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys.  Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael.  Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru.  Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.

Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae cyfraddau grant a chostau cymwys i’w gweld yn adran 5.

Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.

4.3.1 Gweithgareddau dysgwyr

Symudedd Grwp

Symudedd grŵp: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 4 wythnos.
Symudedd rhagarweiniol yn y DU: Isafswm o 3 diwrnod – uchafswm o 5 diwrnod

Mae symudedd grŵp yn gyfle i o leiaf 3 o ddysgwyr addysg oedolion gael profiad o gyfnewid dysgu rhyngwladol, ynghyd â staff a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i staff o’r sefydliad fod gyda’r dysgwyr drwy gydol y gweithgaredd. Rhaid i weithgareddau a gynllunnir fod â chanlyniadau dysgu wedi’u diffinio’n glir. Gall y dysgu fod yn ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol, ond rhaid iddo gynnwys cyfnewid a chydweithio â chyfoedion o sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.

Nid yw symudeddau sydd ddim yn cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd arall yn gymwys i gael cyllid.

Symudedd grŵp rhagarweiniol:Mae’r rhain yn weithgareddau symudedd rhagarweiniol byr yn y DU ac sy’n bosibl yn rhan o ddilyniant i weithgaredd symudedd rhyngwladol, lle mae sefydliadau sy’n gwneud cais yn teimlo na fyddai’n bosibl gwneud symudedd rhyngwladol fel arall. Rhaid i geisiadau am symudedd grŵp rhagarweiniol hefyd gynnwys symudedd grŵp rhyngwladol ar gyfer yr un cyfranogwyr arfaethedig. Rhaid esbonio yn y cais pam mae gweithgareddau symudedd rhagarweiniol yn y DU yn hanfodol i alluogi eich disgyblion i wneud gweithgareddau symudedd rhyngwladol.

Dim ond ar gyfer symudedd grŵp dysgwyr mae symudedd rhagarweiniol yn gymwys

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Dysgwyr a phobl sy’n gwmni):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio.
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Dysgwyr:

Dysgwyr addysg oedolion sy’n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau dysgu yn eich sefydliad yng Nghymru. Rhaid i’r dysgwyr fod wedi cofrestru ar gwrs neu’n cymryd rhan mewn profiadau dysgu anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol yn eich sefydliad erbyn dyddiad cychwyn y prosiect (gall Taith ofyn am dystiolaeth o hyn). Dylai symudedd grŵp gynnwys o leiaf 3 dysgwr.

Ni all unigolion gymryd rhan yn y symudedd fel dysgwr a pherson sy’n dod gyda nhw o fewn yr un prosiect.

Pobl sy’n gwmni:

  • staff sy’n ymwneud â chyflwyno dysgu addysg oedolion ac sy’n cael eu cyflogi gan eich sefydliad neu bartner consortiwm sydd wedi’u cynnwys yn y cais hwn
  • aelodau eraill o staff sy’n cael eu cyflogi gan eich sefydliad neu bartner consortiwm sydd wedi’u cynnwys yn y cais hwn
  • gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes addysg oedolion, gyda chytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda’ch sefydliad neu bartner consortiwm sydd wedi’i gynnwys yn y cais hwn
  • arbenigwyr sy’n gweithio ym maes addysg oedolion
  • ni allen nhw fod wedi cymryd rhan fel dysgwyr yn yr un prosiect
4.3.2 Gweithgareddau staff:

Dylai pob symudedd staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.

Cysgodi Swydd a Lleoliadau

Cysgodi swydd: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.
Lleoliadau: Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 48 wythnos.

Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff sy’n gweithio ym maes Addysg Oedolion i ymgymryd â symudedd cysgodi swydd, yn ymwneud â gweld arferion gorau, cyfnewid gwybodaeth, a chefnogi datblygu gyrfa.

Mae symudedd lleoliad yn gyfle i staff â phrofiad priodol wario cyfnod o amser yn hyfforddi neu hwyluso gweithgareddau ar gyfer cyfranogwyr mewn sefydliad partner rhyngwladol dramor.  Gall lleoliad ddarparu hyfforddiant i ddatblygiad sefydliad partner.

Gallwch chi gyfuno Lleoliadau a Chysgodi swyddi yn ystod un cyfnod dramor.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Staff neu wirfoddolwyr sydd â phrofiad priodol sy’n gweithio i sefydliad cymwys ym maes addysg oedolion, ac sy’n meddu ar gymhwyster perthnasol, lle bo’n briodol.

Prosiectau consortiwm: Gall staff o bob sefydliad partner consortiwm gymryd rhan mewn symudeddau staff cyn belled â’u bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno neu reoli Addysg Oedolion. Nid yw staff o bartneriaid consortiwm sy’n gyfrifol yn unig am drefnu symudeddau ar ran partneriaid consortiwm eraill yn gymwys i gymryd rhan.

4.3.3 Ymweliadau paratoadol a Symudedd Mewnol

Wrth gyflwyno cais am brosiect, gallwch gynnwys ymweliadau paratoadol a symudeddau mewnol fel rhan o’ch cynllun.

Mae ymweliadau paratoadol yn rhoi’r cyfle i chi ymweld â phartneriaid rhyngwladol newydd neu rai presennol. Mae’r ymweliadau hyn yn eich helpu i gefnogi symudeddau Taith wedi’u cynllunio neu sydd yn digwydd ac a restrir yn y cais hwn.

Mae symudeddau mewnol yn caniatáu i chi groesawu eich partneriaid rhyngwladol yng Nghymru, gan roi cyfle iddyn nhw brofi eich amgylchedd dysgu a chryfhau cydweithio ymhellach

Ymweliadau paratoadol

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 7 diwrnod.

Ymweliadau â phartneriaid rhyngwladol newydd neu bresennol i gefnogi teithiau arfaethedig neu barhaus o fewn yr un cais. Rhaid i bob ymweliad paratoadol fod â sail resymegol glir a rhaid iddo wella cynhwysiant, cwmpas ac ansawdd gweithgareddau symudedd. Er enghraifft, gellir trefnu ymweliadau paratoadol i helpu i baratoi ar gyfer symudedd cyfranogwyr ag anghenion ychwanegol, i ddechrau gweithio gyda sefydliad partner newydd neu i baratoi symudedd am gyfnod hwy. Gellir eu trefnu hefyd i ddarparu cymorth i ddysgwyr ar symudedd unigol tymor hwy. Gellir trefnu ymweliadau paratoadol i baratoi ar gyfer unrhyw fath o symudedd dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff lle mae sail resymegol glir.  Rhaid cwblhau’r ymweliad paratoadol cyn i’r dysgwr neu’r staff symud i fod yn berthnasol iddo.  Yr unig eithriad fyddai ymweliadau cymorth bugeiliol â symudedd dysgwyr unigol hirdymor.

Bydd Taith yn ariannu hyd at uchafswm o dri ymweliad paratoadol fesul cais a hyd at uchafswm o ddau gyfranogwr fesul ymweliad. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn am fwy na dau gyfranogwr ar gyfer pob ymweliad lle darperir rhesymeg a chyfiawnhad clir.

Rhaid i’r gweithgaredd y bwriedir i’r ymweliad(au) paratoadol ei gefnogi hefyd gael ei gynnwys yn y cais.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)

Ni fydd y gweithgaredd hwn yn cynhyrchu taliadau cymorth sefydliadol.

Cyfranogwyr cymwys

  • staff sy’n ymwneud â chyflwyno dysgu addysg oedolion ac sy’n cael eu cyflogi gan y sefydliad addysg cymwys sy’n cymryd rhan
  • aelodau staff eraill sy’n cael eu cyflogi gan ddarparwr addysg oedolion cymwys sy’n cymryd rhan
  • gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes addysg oedolion, gyda chytundeb gwirfoddoli ffurfiol ar waith gyda sefydliad cymwys