5. Cyfraddau Grant Llwybr 1 a beth all cyllid Llwybr 1 ei gynnwys
5.1. Teithio, Cynhaliaeth a Chymorth Sefydliadol
Mae grantiau teithio, cynhaliaeth a chymorth sefydliadol yn symiau sefydlog a elwir yn gostau uned ac yn cael eu cyfrifo ar sail pellter y daith, hyd y symudedd a nifer y cyfranogwyr.
5.1.1 Teithio
Mae’r grant teithio yn gyfraniad at gost uniongyrchol teithio ar gyfer symudedd. Bydd cyfranogwyr yn cael swm penodol yn dibynnu ar y pellter rhwng Cymru a’r wlad bartner ryngwladol.
Mae myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn gymwys i gael 50% ychwanegol at y grant teithio ar gyfer cyrchfannau y tu hwnt i 4,000km.
Pellter | Grant teithio fesul cyfranogwr (£) |
---|---|
100 – 499km | 150 |
500 – 1,999km | 230 |
2,000 – 2,999km | 300 |
3,000 – 3,999km | 450 |
4,000 – 7,999km | 350 |
8,000 – 12,000km | 600 |
12,000km+ | 700 |
5.1.2 Cynhaliaeth
Mae hwn yn grant ar gyfer llety, bwyd a thrafnidiaeth leol yn ystod symudedd corfforol. Cyfrifir cyllid fel cyfradd ddyddiol fesul cyfranogwr. Mae gwledydd cyrchfan yn cael eu dosbarthu i dri grŵp gwlad yn seiliedig ar eu costau byw. Mae rhestr o wledydd a’r gwahanol grwpiau i’w gweld yn Atodiad 1 y Canllaw Rhaglen.
Am gyfnod y symudedd, bydd cyfranogwyr yn derbyn y swm cynhaliaeth perthnasol (a gyfrifir fel cyfradd dydd), yn dibynnu ar gyfanswm hyd y symudedd a’r wlad gyrchfan.
Gall cyfranogwyr dderbyn hyd at 2 ddiwrnod ychwanegol o gynhaliaeth ar gyfer teithio. Mae diwrnod teithio yn uchafswm o 1 diwrnod yn union cyn a/neu ar ôl i’r symudedd ddigwydd, ar gyfer teithio i’r gyrchfan symudedd os oes angen. Ni all diwrnodau teithio gyfrannu at isafswm hyd symudedd. Rhaid gofyn am ddiwrnodau teithio pan rydych chi’n ymgeisio
Mae cyfraddau gwahanol yn berthnasol am y pythefnos cyntaf, 2 – 8 wythnos a thros 8 wythnos. Ni fydd cyfranogwyr yn derbyn cyllid cynhaliaeth ar gyfer symudedd rhithwir.
Mae dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn gymwys i gael 50% ychwanegol i’r grant cynhaliaeth ar gyfer symudedd grŵp ac unigol. Mae’r gyfradd safonol ar gyfer symudedd cymysg tymor byr yn uwch, sy’n golygu nad oes unrhyw ychwanegiad ar gyfer dysgwyr dan anfantais ar gyfer y gweithgaredd hwn.
Dysgwyr
Cyfradd ddyddiol (£) fesul cyfranogwr grwp gwlad 1 / 2 / 3 | |
---|---|
Symudedd cyfunol 1 wythnos | 50 / 45 / 40 |
Pob symudiad arall | |
Pythefnos cyntaf | 26 / 24 / 22 |
2 – 8 wythnos | 18 / 16 / 14 |
8 wythnos – 48 wythnos | 14 / 12 / 11 |
Staff a phobl sy’n gwmni
Cyfradd ddyddiol (£) fesul cyfranogwr grwp gwlad 1 / 2 / 3 | |
---|---|
Pythefnos cyntaf | 85 / 75 / 65 |
2 – 8 wythnos | 60 / 50 / 40 |
8 wythnos – 48 wythnos | 35 / 30 / 25 |
5.1.3 Cymorth Sefydliadol
Bydd eich sefydliad yn derbyn cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr yn eich prosiect. Mae cymorth sefydliadol yn gyfraniad at unrhyw gost a dynnir mewn perthynas â rheoli a rhedeg eich prosiect. Cyfrifir cymorth sefydliadol ar sail nifer y cyfranogwyr allanol a mewnol fesul prosiect. Mae’r cyfraddau’n dechrau ar £500 y cyfranogwr ar gyfer y 10 cyfranogwr cyntaf ac yn gostwng wrth i nifer y cyfranogwyr gynyddu. Mae cymorth sefydliadol ar gyfer symudeddau rhithwir wedi’i gyfyngu ar 20 o gyfranogwyr.
Gellir rhoi cyllid cymorth sefydliadol yn uniongyrchol i’r cyfranogwr (neu ei ddefnyddio ar ei ran) i gyfrannu at ei gyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, ar gyfer fisas/pasbort (lle nad yw’r rhain wedi’u cynnwys drwy gostau cynhwysiant) ac ati. Gall eich sefydliad hefyd ddefnyddio’r cyllid hwn ar gyfer gweinyddu’r prosiect, gan gynnwys costau staff, gorbenion ac ati.
Bydd sefydliadau yn cael £25 o gyllid cymorth sefydliadol ychwanegol fesul cyfranogwr o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Gallwch chi hawlio hyn yn y cam adrodd terfynol ar gyfer pob cyfranogwr o grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol yr adroddir arno.
Nifer cyfranogwyr | Cyfradd fesul cyfranogwr (£) |
---|---|
0 – 10 | 500 |
11 – 30 | 400 |
31 – 60 | 330 |
61 – 100 | 250 |
101 – 150 | 125 |
151 – 200 | 100 |
201+ | 80 |
5.2. Costau Cyrsiau/Hyfforddiant
Mae Taith yn cynnig cyllid ar gyfer ffïoedd cyrsiau o dan datblygiad proffesiynol. Mae hwn ar gael i staff yn unig.
Gall eich sefydliad wneud cais am hyd at uchafswm o £40 fesul cyfranogwr, fesul diwrnod, ond dim mwy na chyfanswm o £400 ar gyfer pob cyfranogwr fesul prosiect.
5.3. Cyfnewidiadau Rhithwir Grwpiau: Costau Datblygu
Mae hwn yn gyfraniad tuag at gost datblygu a/neu gyflwyno cyfnewidiadau rhithwir o ansawdd uchel i ddysgwyr.
Gall eich sefydliad wneud cais am hyd at £1,200 fesul prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.
5.4. Cyllid ychwanegol ar ôl i'ch prosiect ddechrau
Unwaith bydd eich prosiect wedi dechrau, gallwch chi wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer y canlynol:
5.4.1 Cymorth Cynhwysiant
Mae cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cyfranogwyr sy’n wynebu rhwystrau ariannol i gymryd rhan. Mae dau fath o gymorth cynhwysiant ar gael:
- ar gyfer Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol
- ar gyfer pobl o gefndiroedd difreintiedig
Mae’r cyllid hwn yn seiliedig ar gostau gwirioneddol, gyda’r bwriad o dalu’r gost lawn o ddileu’r rhwystr i gyfranogiad. Felly, pan fyddwch chi’n rhedeg eich prosiect bydd disgwyl bydd eich sefydliad yn chwilio am opsiynau sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Gallwch chi wneud cais am gyllid ychwanegol unwaith bydd eich prosiect wedi dechrau a’ch cyfranogwyr wedi’u dewis. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais yn manylu ar y costau, a pham eu bod nhw’n angenrheidiol i alluogi’r unigolyn i gymryd rhan.
Cyfranogwyr difreintiedig
Bydd cyfranogwyr sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu dosbarthu fel rhai difreintiedig a byddan nhw’n gymwys i gael cyllid ychwanegol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â theithio i gefnogi eu hymwneud â symudedd corfforol.
- cyfanswm incwm y cartref o dan £26,225
- cyfranogwr sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ei enw ei hun
- cyfranogwyr sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi bod, neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd, neu o gefndir derbyn gofal ar unrhyw adeg o’u bywyd, ni waeth pa mor fyr, gan gynnwys plant mabwysiedig a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol, neu’r rhai sy’n defnyddio’r Bwrsariaeth Profiadol o Ofal mewn rhannau eraill o’r DU
- cyfranogwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blentyn anabl, neu oedolyn nad yw, oherwydd y salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu ddibyniaeth, yn gallu ymdopi heb eu cefnogaeth
- myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio (fel y’i diffinnir gan Gyllid Myfyrwyr Cymru)
- ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â theithio yn cynnwys costau fisas, pasbortau, brechiadau, yswiriant iechyd, dillad a bagiau priodol, yn ôl yr angen.
Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae cyllid ychwanegol ar gael i gyfranogwyr Anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol o hyd at 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer cymorth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u hanghenion ychwanegol.
Gall hyn gynnwys: ymweliadau paratoadol i gynnal asesiadau risg a sicrhau bod gan y sefydliad partner rhyngwladol y mynediad a’r cymorth angenrheidiol; ariannu aelodau staff ychwanegol i gefnogi cyfranogwyr; a/neu i dalu am offer/addasiadau/adnoddau angenrheidiol ar gyfer cyfranogiad.
5.4.2 Teithio i ganolbwynt trafnidiaeth yn y DU
Mae hyn yn gyfraniad at gostau teithio i ganolbwynt trafnidiaeth yn y DU fel rhan o symudedd rhyngwladol. Diffinnir canolbwynt trafnidiaeth yn y DU fel y man y mae’r cyfranogwyr yn gadael ohono i gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft, maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau.
Mae’r cyllid hwn ar gael ar gyfer pob symudedd grŵp ac i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig ar symudedd unigol.
Symudedd Grŵp: £500 fesul symudedd, hyd at uchafswm o £1500 y prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol
Symudedd Unigol: Mae cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig yn gymwys i gael hyd at £100 y pen fesul symudedd, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.
5.4.3 Costau Teithio Gwyrdd
Gall cyfranogwyr/grwpiau sy’n defnyddio teithio gwyrdd ar gyfer y daith gyfan (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais am gostau gwirioneddol eu teithio (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd deithio a ddyrannwyd). Bydd angen tystiolaeth o werth gorau am arian fel rhan o’r cais am arian ychwanegol hwn.
Mae costau teithio gwyrdd ar gael ar gyfer pellteroedd rhwng 100km a 3,999km.