Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2025

Addysg Uwch Fersiwn 1.0, Nov 2025

Atodiad 1

Grŵp o bobl yn sefyll mewn ystafell ddosbarth yn dal baner Cymru

Cymorth Sefydliadol

Dyma gyfraniad at unrhyw gostau yr eir iddynt gan y sefydliad(au) mewn perthynas â gweithgareddau sy’n helpu dysgwyr a staff i ymgymryd â symudedd corfforol neu rithwir i mewn i Gymru ac allan ohoni. Cyfrifir Cymorth Sefydliadol yn seiliedig ar nifer y cyfranogwyr allanol a mewnol fesul prosiect. Mae’r cyfraddau’n dechrau ar £500 y cyfranogwr ar gyfer y 10 cyfranogwr cyntaf ac yn gostwng wrth i nifer y cyfranogwyr gynyddu.

Mae sefydliadau’n gymwys i dderbyn £25 o gyllid Cymorth Sefydliadol ychwanegol fesul cyfranogwr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gellir hawlio hyn yn y cam adrodd terfynol ar gyfer cyfranogwyr o’r categori heb gynrychiolaeth ddigonol yr adroddir arnyn nhw.

Mae Cymorth Sefydliadol ar gyfer symudiadau gweithgareddau rhithwir wedi’i gapio ar gyfer hyd at 20 o gyfranogwyr.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Pawb

Nifer Cyfranogwyr

Cyfradd fesul cyfranogwr

0 – 10

500

11 – 30

400

31 – 60

330

61 – 100

250

101 – 150

125

151 – 200

100

201+

80

Cynhaliaeth

Grant i dalu costau byw, a allai gynnwys llety, bwyd a thrafnidiaeth leol, tra’n ymgymryd â gweithgaredd symudedd corfforol, neu ymweliad paratoadol (staff yn unig).

Cyfrifir cyllid fel cyfradd ddyddiol fesul cyfranogwr. Bydd y gyfradd ddyddiol yn lleihau po hiraf y gweithgaredd symudedd, gyda chyfraddau gwahanol yn berthnasol am y pythefnos cyntaf, 2 – 8 wythnos a thros 8 wythnos.

Ni fydd cyfranogwyr yn cael cyllid cynhaliaeth ar gyfer gweithgareddau symudedd rhithwir.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)
(Cyfradd ddyddiol ar gyfer grŵp gwledydd 1 / 2 / 3)

Dysgwyr

Symudedd cyfunol 1 wythnos

50 / 45 / 40

Dysgwyr

Pob symudiad arall

Pythefnos cyntaf

26 / 24 / 22

2 – 8 wythnos

18 / 16 / 14

8 wythnos– 48 wythnos

14 / 12 / 11

Staff a phobl sy’n gwmni

Pythefnos cyntaf

85 / 75 / 65

2 – 8 wythnos

60 / 50 / 40

8 wythnos – 48 wythnos

35 / 30 / 25

Teithio

Cyfraniad at gost uniongyrchol teithio ar gyfer gweithgareddau symudedd mewnol ac allanol. Mae lefelau cyllid yn seiliedig ar y pellter rhwng Cymru a’r wlad ryngwladol sy’n bartner.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Pawb

Pellter

Cyfradd teithio

100 – 499km

150

500 – 1,999km 

230

2,000 – 2,999km

300

3,000 – 3,999km 

450

4,000 – 7,999km

350

8,000 – 12,000km 

600

12,000km+ 

700

Cymorth Cynhwysiant:

Cyfranogwyr Anabl a/neu gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)    

Mae cyfranogwyr Anabl neu angen dysgu ychwanegol yn gymwys i gael cyllid ychwanegol i’w helpu i gymryd rhan mewn gweithgaredd symudedd (corfforol neu rithwir).

Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan raglen Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u nodi. Bydd yn ofynnol i fuddiolwyr wneud cais am gyllid drwy lenwi ffurflen gais yn manylu ar y costau gwirioneddol fesul cyfranogwr a chyfiawnhad.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Pawb

100% o gostau cymwys

Cymorth Cynhwysiant:

Cyfranogwyr o Gefndiroedd Difreintiedig

Mae cyfranogwyr sydd o gefndir difreintiedig yn gymwys am gyllid ychwanegol ar gyfer costau cysylltiedig â theithio er mwyn eu cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd symudedd corfforol. Mae costau teithio penodol yn cynnwys costau fisa, pasbort, brechiadau, yswiriant iechyd, dillad addas a bagiau yn ôl yr angen. Mae costau teithio i ardal anghysbell ac yn ôl hefyd yn gymwys.

Mae myfyrwyr o gefndir difreintiedig hefyd yn gymwys i gael taliad ychwanegol ar gyfer cynhaliaeth a theithio. Oherwydd y cyfraddau grant uwch ar gyfer yr holl ddysgwyr sy’n cymryd rhan ar gyfer symudedd tymor byr cyfunol, nid yw’r gweithgaredd hwn yn cynhyrchu ychwanegiad i fyfyrwyr difreintiedig.

Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan raglen Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u nodi. Bydd yn ofynnol i fuddiolwyr wneud cais am gyllid drwy lenwi ffurflen gais yn manylu ar y costau gwirioneddol fesul cyfranogwr a chyfiawnhad.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Myfyrwyr

100% o’r costau cymwys sy’n gysylltiedig â chostau teithio eithriadol

50% cyfradd grant cynhaliaeth ddyddiol ychwanegol

50% cyfradd grant teithio ychwanegol ar gyfer cyrchfannau tu hwnt i 4,000km

Costau Eithriadol

Teithio i ganolfan drafnidiaeth y DU

Cyfraniad at gost teithio i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o symudedd rhyngwladol. Mae canolfan drafnidiaeth yn y DU yn cael ei ddiffinio gan Taith fel pwynt gadael y mae’r symudedd yn cychwyn i’w gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau.

Mae arian ar gael ar gyfer symudedd grŵp, ac ar gyfer symudedd unigol i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig.

Bydd arian yn cael ei gynnal yn ganolog gan Taith ac yn cael ei weinyddu ar sail costau gwirioneddol ar ôl i’r cyfranogwyr gael eu dewis. Bydd gofyn i’r buddiolwyr wneud cais am arian drwy gwblhau ffurflen gais sy’n manylu ar y gwir gostau a’r cyfiawnhad.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Dysgwyr

Symudedd Grŵp :£500 y grŵp fesul symudedd, hyd at uchafswm fesul £1500 y prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.

Symudedd Unigolion: Mae unigolion sydd o gefndiroedd difreintiedig yn gymwys i gael hyd at £100 y cyfranogwyr fesul symudedd, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.

Teithio Gwyrdd

Gall cyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau teithio gwyrdd ar gyfer y daith gyfan (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais ar ôl gwneud cais am gostau gwirioneddol eu teithio (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd teithio a neilltuwyd). Bydd angen tystiolaeth o werth gorau am arian fel rhan o’r cais am arian ychwanegol hwn.

Mae costau teithio gwyrdd ar gael ar gyfer pellteroedd rhwng 100km a 3999km. 

Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan raglen Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u nodi. Bydd yn ofynnol i fuddiolwyr wneud cais am gyllid drwy lenwi ffurflen gais yn manylu ar y costau gwirioneddol fesul cyfranogwr a chyfiawnhad.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Pawb

100% o’r costau gwirioneddol 

Costau Cwrs/Hyfforddiant

Costau sy’n cwmpasu ffïoedd cyrsiau a hyfforddiant mewn cysylltiad â hyfforddiant rhyngwladol/gweithgareddau symudedd Datblygiad Proffesiynol i staff.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Staff

Hyd at uchafswm o £40 y cyfranogwr y dydd ac uchafswm o £400 yr un i’r un cyfranogwr fesul Prosiect/Cytundeb Grant

Cyfnewidiadau Rhithwir Grwpiau

Costau Datblygu

Dyma gyfraniad at y gost o ddatblygu a / neu gynnig gweithgareddau cyfnewid rhithwir o ansawdd uchel.


Math o gyfranogwr

Cyfradd grant (£)

Dysgwyr

Hyd at £1,200 fesul prosiect/Cytundeb Grant.