4. Cymhwysedd
Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Addysg Uwch. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.
4.1. Hyd prosiectau
Mae hyd prosiectau cymwys fel a ganlyn:
- 12 mis
- 18 mis
- 24 mis
Gwnewch yn sicr eich bod chi’n deall gofynion fisa y wlad/gwledydd rydych chi’n bwriadu ymweld â hi/nhw a chaniatáu digon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (lle bo’n berthnasol).
Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisas na darparu cymorth gyda cheisiadau fisa.
4.2. Sefydliadau cymwys
Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.
Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.
Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.
4.2.1 Sefydliadau sy’n gallu gwneud cais am Taith (sector Addysg Uwch):
- unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru (SAU), a reoleiddir neu a ariennir gan Medr
- darparwr addysg uwch, y mae ei gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol at ddibenion bod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, ac sy’n gweithredu yng Nghymru
Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu i roi gwybod a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid. Os nad ydych chi’n sicr ac eisiau gwirio eich cymhwyster sector, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru
4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneri â nhw:
Yn gyffredinol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i’r sefydliadau rhyngwladol canlynol y tu allan i’r DU a Thiriogaethau Tramor Prydain (pan fydd symudeddau grŵp rhagarweiniol yn angenrheidiol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DU):
- Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n darparu addysg i oedolion a gydnabyddir ac a reoleiddir gan awdurdodau cymwys y wlad y mae’r darparwr yn gweithredu ynddi ac wedi’i ymgorffori a/neu sefydlu ynddi
- unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n gweithredu ym meysydd addysg, hyfforddiant a dysgu oedolion
Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau partner rhyngwladol cymwys.
4.3. Symudedd a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael
Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys. Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael. Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru . Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.
Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae’n rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais gael hepgoriadau ffioedd dysgu ar gyfer symudedd sy’n cynnwys credydau allanol a mewnol, lle byddai cyfranogwyr fel arall yn gorfod talu ffioedd dysgu. Nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer gweithgareddau heb gredyd neu ysgolion haf sy’n dwyn credydau.
Gall cyfranogwyr fod yn derbyn nifer o ffynonellau cyllid i gefnogi eu symudedd, fodd bynnag, os yw unrhyw rai o’r rhain yn cael eu hystyried yn arian cyhoeddus a’r bwriad yw eu defnyddio i dalu’r un costau symudedd a fyddai hefyd yn cael eu talu gan Taith (fel teithio, costau cynhaliaeth a chostau ychwanegol cymwys), byddai hyn yn cael ei ddiffinio fel cyllid dwbl a rhaid ei osgoi, lle bo modd.
Mae’n bosibl i unigolyn gwneud mwy nag un symudedd (e.e. symudedd unigol am 6 mis yn Sbaen, ac yna symudedd 6 mis yn Ffrainc), ar gyfer lleoliadau blwyddyn o hyd. Fodd bynnag, mae cyfranogwyr yn gallu gwneud uchafswm o 12 mis o weithgareddau yn achos pob rhaglen astudio benodol sy’n arwain at gymhwyster/gradd gydnabyddedig.
Yn achos symudedd hirdymor, cyfrifir y cyfnod symudedd o’r diwrnod cyntaf y cynhelir y gweithgaredd cyfnewid dysgu a’r dyddiad gorffen yw dyddiad olaf y gweithgaredd cyfnewid dysgu. Os yw’r cyfnod symudedd yn cynnwys seibiannau hir fel gwyliau’r haf neu’r gaeaf pan nad oes darpariaeth ar gyfer myfyrwyr yn y sefydliad sy’n croesawu’r myfyrwyr, bydd y dyddiau hynny’n cael eu hystyried yn ddiwrnodau heb eu hariannu. Nid yw hyn yn berthnasol i benwythnosau neu wyliau cyhoeddus sy’n torri ar draws y cyfnod symudedd.
Rhaid i gyfranogwyr fod yn gofrestredig ar gampws yng Nghymru i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer cyllid Taith, gangynnwys yr achosion ble bydd gan SAUau o Gymru gampysau y tu allan i Gymru (DU neu ryngwladol).
Cyllid myfyrwyr
Teithio
Lle bo cyfranogwr yn gymwys i gael grant teithio gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC yn Saesneg), dylid defnyddio cyllid Taith ar gyfer teithio yn gyntaf bob amser. Gall cyfranogwyr wneud cais i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am gostau ychwanegol cymwys nad ydynt wedi’u talu gan gyllid Taith, megis teithio rhwng eu llety a’u lleoliad/sefydliad tra dramor, neu deithiau dwyffordd ychwanegol.
Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfranogwyr Anabl ac/neu ag anghenion dysgu ychwanegol
Os yw cyfranogwr yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA yn Saesneg) drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, dylid ceisio cyllid ychwanegol sydd ei angen i’w helpu i gymryd rhan yn Taith drwy’r llwybr hwn yn gyntaf. Er mwyn caniatáu digon o amser i unrhyw hawliadau DSA gael eu prosesu, rhaid i sefydliadau sy’n derbyn grantiau sicrhau eu bod yn hysbysu cyfranogwyr cyn gynted â phosibl bod eu symudedd yn digwydd a dylen nhw ddarparu digon o gefnogaeth/cyfeirio at y tîm sefydliadol perthnasol i’w galluogi i hawlio’r arian. Gellir cael gwybodaeth am gynhyrchion cyllid myfyrwyr sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar wefan pob corff cyllid myfyrwyr.
Lle nad yw’r DSA yn talu am y cyllid ychwanegol sydd ei angen i gefnogi cyfranogwr i fanteisio ar gyfle Taith, gall y sefydliad sy’n derbyn grant wneud cais i Taith am arian ychwanegol i dalu’r costau hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer cyfranogwyr anabl a/neu anghenion dysgu ychwanegol yn Atodiad 1.
Mae cyfraddau grant a chostau cymwys i’w gweld yn adran 5.
Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar daith gyfnewid ddysgu ryngwladol.
4.3.1 Gweithgareddau dysgwyr
Symudedd Grŵp
Isafswm o 12 diwrnod – uchafswm o 4 wythnos. (ni all diwrnodau teithio gyfrannu at isafswm hyd y symudedd).Mae symudedd grŵp yn gyfle i grwpiau o fyfyrwyr brofi cyfnewid dysgu rhyngwladol, ynghyd â staff a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i ddarlithwyr neu staff cymwysedig eraill o’r SAU fod gyda’r myfyrwyr drwy gydol y gweithgaredd. Os oes angen, gall oedolion eraill hefyd weithredu fel personau hebrwng i gefnogi’r darlithwyr sy’n dod gyda nhw. Rhaid i weithgareddau fod â chanlyniadau dysgu wedi’u diffinio’n glir a dylent ganolbwyntio ar brofiadau, gwybodaeth a sgiliau’r cwricwlwm academaidd. Gall dysgu fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol ond mae’n rhaid iddo gynnwys cyfnewid a chydweithio â chymheiriaid o SAU neu sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.
Nid yw symudedd nad yw’n cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd arall yn gymwys i gael cyllid.
Costau cymwys
Cyllid ar gael gan Lwybr 1 (Dysgwyr a phobl sy’n dod gyda nhw):
Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.
- grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch yn eich cyrchfan rhyngwladol)
- grant teithio
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau teithio ychwanegol i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch wneud cais am hwn ar ôl i’ch prosiect ddechrau)
- 100% o gostau cynhwysiant gwirioneddol a nodwyd ar gyfer pobl anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol).
Ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig:
- 50% ychwanegol i’r grant cynhaliaeth
- 50% ychwanegol i’r grant teithio ar gyfer cyrchfannau y tu hwnt i 4,000km
Cyfranogwyr cymwys
Dysgwyr:
- pob myfyriwr sydd wedi’i gofrestru mewn SAU ac wedi cofrestru ar raglen israddedig neu ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at radd gydnabyddedig
- pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs Gradd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Addysg Uwch
Dylai symudedd grŵp gynnwys o leiaf 3 dysgwr.
Pobl sy’n mynd gyda nhw:
Staff a gyflogir gan y SAU – staff addysgu neu staff nad ydynt yn addysgu. Os oes angen, caiff oedolion eraill a gymeradwyir gan y SAU hefyd weithredu fel personau hebrwng i gefnogi’r staff sy’n dod gyda nhw.
4.3.2 Gweithgareddau staff:
Dylai pob symudedd staff greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.
Cysgodi Swydd a Lleoliadau
Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff gwasanaethau academaidd neu broffesiynol gael swydd yn cysgodi symudedd, hwyluso arfer gorau, cyfnewid gwybodaeth, datblygiad gyrfa a datblygiad proffesiynol parhaus
Mae Lleoliadau addysgu er mwyn i staff â phrofiad priodol dreulio cyfnod yn addysgu disgyblion mewn sefydliad partner dramor. Gall Lleoliadau addysgu gynnwys darparu hyfforddiant ar gyfer datblygu’r sefydliad partner.
Gellir cyfuno Lleoliadau addysgu a Chysgodi swydd yn ystod un cyfnod dramor.
Costau cymwys
Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):
Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.
- grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
- grant teithio
- 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
- grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)
Cyfranogwyr cymwys
Ar gyfer lleoliadau addysgu academaidd:
- Yr holl staff sydd â chontract addysgu neu addysgu ac ymchwil gweithredol (tymor penodol neu benagored) gyda’r sefydliad sy’n gwneud cais.
Pob gweithgaredd staff arall:
- Yr holl staff sydd â chontract cyflogaeth gweithredol (cyfnod penodol neu benagored) gyda’r sefydliad sy’n gwneud cais.
4.4. Symudedd mewnol
Gallwch chi wneud cais am 30% ychwanegol o’r cyllid y gofynnwch chi amdano ar gyfer gweithgareddau symudedd allanol i ddod â phobl i Gymru. Mae gwybodaeth am sefydliadau partner rhyngwladol yn adran 4.2.2.
Cyfranogwyr cymwys:
Dysgwyr:
Pob myfyriwr wedi’i gofrestru mewn SAU ac wedi cofrestru ar raglen israddedig neu ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at radd gydnabyddedig.
Staff:
Ar gyfer lleoliadau addysgu: Pob aelod o staff sydd â chontract addysgu gweithredol gyda’r sefydliad partner rhyngwladol cymwys
Ar gyfer pob gweithgaredd arall: Pob aelod o staff sydd â chontract cyflogaeth gweithredol gyda’r sefydliad partner rhyngwladol cymwys.
Symudeddau cymwys:
Mae pob symudedd a ddiffinnir fel symudedd allanol cymwys hefyd yn gymwys ar gyfer symudedd mewnol. Mae’r holl gyfyngiadau a gofynion yr un fath ar gyfer symudedd mewnol ag ar gyfer symudedd allanol.
Costau a thaliadau cymwys:
Mae cyfranogwyr symudedd mewnol yn gymwys i dderbyn cyllid grant ar gyfer teithio a cynhaliaeth ar gyfer eu symudedd i Gymru. Bydd y sefydliad sy’n gwneud cais yng Nghymru, fel Derbynnydd Grant Taith , yn derbyn grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr mewnol i Gymru. Telir cyllid ar gyfer gweithgareddau symudedd mewnol i’r sefydliad ymgeisio o Gymru i’w ddosbarthu i’r sefydliad partner rhyngwladol.
Bydd disgwyl i’r sefydliad sy’n gwneud cais yng Nghymru, fel Derbynnydd Grant Taith a gwesteiwr y cyfranogwyr mewnol, gyfleu telerau unrhyw gyfraniadau i’w gwneud yn glir a nodi faint o gymorth ariannol a ddyrennir i’r cyfranogwr/wyr mewnol.
Bydd cyfranogwyr symudedd mewnol yn derbyn cyfraddau cynhaliaeth Grŵp 1, a grant teithio ar yr un lefel â’r cyfraddau ar gyfer y symudedd allanol cyfatebol. Ni chaiff taliadau i gyfranogwr mewnol fod yn fwy na chyfradd grant cyfatebol cyfranogwr allanol o Gymru i wlad Grŵp 1 am yr un hyd a math o weithgaredd symudedd.