Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2025

Addysg Uwch Fersiwn 1.0, Nov 2025

6. Beth sydd yn digwydd ar ôl cyflwyno cais?

Grŵp o oedolion yn sefyll o flaen coeden.

6.1. Asesu ceisiadau

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, bydd yn mynd trwy wiriad cychwynnol i sicrhau bod eich sefydliad yn gymwys. Yna, caiff ei asesu gan ddau aseswr a fydd yn sgorio’r cais. Rhaid i geisiadau sgorio o leiaf 60% i fod yn gymwys am gyllid. Bydd ceisiadau sy’n sgorio llai na 60% yn aflwyddiannus. Byddwn yn rhoi adborth ar bob cais.

Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith ac rydyn ni’n anelu at ariannu cymaint ac ystod mor eang â phosibl o sefydliadau. Fodd bynnag, mae cyllid Taith yn gyfyngedig ac mae’n debygol y bydd galwadau ariannu lle mae gwerth ceisiadau llwyddiannus a ddylen ni ariannu’n fwy na’r gyllideb sydd ar gael.

Lle nad oes digon o gyllideb i ariannu pob cais yn llawn, efallai y bydd angen i Taith leihau cyllid ar draws sefydliadau llwyddiannus ar sail deg. Os bydd ceisiadau am gyllid yn sylweddol uwch na’r gyllideb sydd ar gael, yna gall Taith fabwysiadu model ariannu amgen megis rhestr safle neu debyg.