Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch
Norwy

Ymweliad Ymddiriedolaeth St Giles â chanolfan adfer yn Norwy i archwilio ffyrdd newydd o ddarparu cymorth

Mae St Giles yn elusen gyda gweledigaeth i greu cymunedau cynhwysol lle mae lleisiau’r rhai sy’n wynebu’r adfyd mwyaf yn cael eu clywed, lle mae cyfleoedd yn ffynnu, a lle mae dyfodol cadarnhaol yn cael ei wireddu. Mae St Giles yn defnyddio arbenigedd a phrofiadau bywyd go iawn o’r gorffennol i ddarparu cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth i bobl sy’n cael eu dal yn ôl gan dlodi, sy’n cael eu hecsbloetio neu’u cam-drin, sy’n deilio â chaethiwed neu broblemau iechyd meddwl, sy’n cael eu hunain yn gysylltiedig â throsedd, neu gyfuniad o’r problemau hyn ac eraill.
Ym mis Mawrth 2024, aethant ar daith ysbrydoledig, gan fynd â grŵp o unigolion â phrofiad byw i Norwy. Fel rhan o’u taith buont yn ymweld â chanolfan adfer Norwyaidd sy’n hyrwyddo pŵer trawsnewidiol cymorth cymheiriaid mewn adferiad. Helpodd y profiad newid bywyd hwn yr unigolion i oresgyn nifer o rwystrau, a hefyd eu grymuso i weld eu profiadau byw fel rhywbeth cadarnhaol. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu rhagor am eu profiad cyfnewid, a’r effaith a gafodd ar eu bywydau.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.