Gyda chymorth cyllid Taith, mae’r tîm ILS wedi agor drysau i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gael mynediad at yr un cyfleoedd byd‑eang trawsnewidiol â’u cyfoedion. Mae’r hyn a ddechreuodd gyda symudedd arloesol i Ffrainc bellach wedi datblygu i gyfleoedd pellach, gan gynnwys ymweliad diweddar â Tenerife, pob un yn meithrin hyder, annibyniaeth ac ymdeimlad o bosibilrwydd.
Mae’r profiadau hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i deithio. Wrth i ddysgwyr lywio dinasoedd a systemau trafnidiaeth newydd, ymdopi ag amgylcheddau anghyfarwydd a chefnogi’i gilydd fel tîm, maent yn datblygu sgiliau meddal hanfodol sy’n llunio eu lles, eu gwydnwch a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae pob taith yn helpu i chwalu rhwystrau a herio rhagdybiaethau hirhoedlog am yr hyn y gall pobl ifanc ag ADY ei gyflawni.‑
Mae’r prosiect yn amlygu effaith barhaus cyllid Taith: grymuso colegau i fod yn feiddgar, galluogi dysgwyr sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i ffynnu, a dangos bod dysgu trawsnewidiol yn parhau ymhell ar ôl i fyfyrwyr ddychwelyd adref.
Nesaf, bydd Coleg Gwent yn mynd â grŵp o ddysgwyr ILS i Groatia, lle byddant yn teithio ochr yn ochr â myfyrwyr y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y symudedd ar y cyd hwn yn creu profiadau cyfoethocach i’r dysgwyr ILS ond hefyd yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr o gefnogi unigolion ag ADY i’r myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n rhan allweddol o’u datblygiad proffesiynol.‑
Mae’r prosiect hwn yn helpu i chwalu stereoteipiau, ehangu cyfleoedd a phrofi y dylai dysgu rhyngwladol fod yn hygyrch i bawb. Mae’r teithiau hyn yn dangos beth sy’n bosib pan fydd y gefnogaeth, y gred a’r cyllid cywir yn dod at ei gilydd.