Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch
Y Ffindir

Ymweliad Prifysgol De Cymru i ddysgu mwy am addysg genomeg a gofal iechyd genomig

Emma yn ymweld â'r labordai profi genetig rhanbarthol yn Tampere, Y Ffindir

Mae Emma Tonkin yn Athro Cyswllt Gofal Iechyd Genomeg ym Mhrifysgol De Cymru. Ym mis Medi 2024, ymwelodd â’r Athro Arja Halkoaha a Nina Smolander o Brifysgol Gwyddorau Cymhwysol Tampere (TAMK) yn y Ffindir fel rhan o symudedd ‘Archwiliadol, Rhwydweithio a Chydweithredol’ mewn addysg genomeg a gofal iechyd genomig.  Rhannodd effaith gadarnhaol ei phrofiad gyda chyllid Taith.

Arja a Nina yn ymweld â Chanolfan Efelychu Clinigol Prifysgol De Cymru
Dywedwch ychydig wrthym am eich cefndir:

Helô, Emma Tonkin ydw i, Athro Cyswllt Gofal Iechyd Genomeg ym Mhrifysgol De Cymru. Treuliais fy PhD a’r blynyddoedd cynnar ar ôl hynny yn gweithio fel ymchwilydd labordy yn nodi genynnau sy’n ymwneud â chlefydau prin (yn yr amser cyn bod y dilyniant genom dynol wedi’i gwblhau!). Gan ddeall potensial enfawr genomeg i wella iechyd unigolion ac iechyd y boblogaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin yn ogystal â chlefydau prin, symudais i faes addysg ac ymchwil u tu allan i’r labordy. Mae fy ngwaith bellach yn canolbwyntio ar gefnogi nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddysgu rhagor am genomeg a sut y gallant ei ddefnyddio yn eu hymarfer bob dydd. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn ffordd y mae gwasanaethau iechyd yn ymgorffori genomeg mewn gwasanaethau arferol.

Beth oedd diben/ nodau eich taith?

Y diben yn bennaf oedd rhwydweithio a datblygu cydweithio ar gyfer gweithgareddau academaidd ac ymchwil yn y dyfodol. Mae’r DU wedi bod yn un o’r gwledydd arweiniol ym maes addysg genomeg a gofal iechyd genomig ers sawl blwyddyn. Mae llawer o wledydd bellach yn datblygu eu haddysg a’u gwasanaethau eu hun. Mae rhannu profiadau yn ein galluogi i ddysgu gan ein gilydd, lleihau datblygu ymdrech a chyflymu’r hyn rydym yn ceisio ei wneud, gobeithio, drwy leihau neu osgoi’r maglau a’r heriau y mae’r eraill wedi’u profi. Roeddwn i’n ffodus i gael fy nghefnogi nid yn unig ar gyfer y daith i’r Ffindir ond hefyd ymweliad symudedd mewnol cilyddol ar gyfer yr Athro Arja Halkoaho a Nina Smolander o TAMK i ddod i Gymru ddechrau 2024.

Arja, Nina ac Emma yn sefyll gyda'i gilydd gyda rhai o aelodau Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Iechyd, Gofal a Lles Prifysgol De Cymru
Dywedwch wrthym am rai o’r gweithgareddau buoch chi’n cymryd rhan ynddynt.

Roedd yr ymweliad yn symudedd ‘Archwiliadol, Rhwydweithio a Chydweithredol’ ac felly cefais gyfle i gwrdd ag amrywiaeth o unigolion a sefydliadau. Y tu allan i’r brifysgol roedd hyn yn cynnwys staff mewn labordy profi genetig, y biobanc rhanbarthol ac asiantaeth datblygu rhanbarthol Tampere sydd â diddordeb mawr mewn cefnogi gwaith mentrau bach a chanolig ym maes meddygaeth fanwl. Cefais gyfle hefyd i addysgu rhai o’r myfyrwyr nyrsio blwyddyn olaf a siaradais ag uwch staff y gyfadran a’r staff addysgu am sut y gellir (ac y dylid) datblygu cwricwlwm nyrsio cyn-gymhwyso i ymgorffori cynnwys genomeg.

Beth oedd uchafbwynt y profiad i chi a pham?

Roedd rhannu fy mrwdfrydedd dros genomeg gyda’r myfyrwyr nyrsio yn uchafbwynt. Gan fod y pwnc yn gymharol newydd, yn aml nid oes gan fyfyrwyr lawer o ddealltwriaeth flaenorol a gallant ei gael yn bwnc anodd, yn enwedig gan fod gan genomeg ei derminoleg wyddonol ei hun. Er bod gan lawer o fyfyrwyr y dosbarth Saesneg ardderchog (yn well o lawer na fy Ffinneg i!), gwnaeth y sesiwn i mi feddwl yn fawr am sut roeddwn i’n addysgu ac yn cyfathrebu â nhw. Roedd eu hadborth a chwestiynau ar y diwedd yn awgrymu fy mod wedi gwneud yn o lew!

Uchafbwynt y tu allan i’r gwaith oedd cael sawna tân coed ar lan y llyn a nofio yn y llyn ar fachlud haul.

Emma yn sefyll gyda'r myfyrwyr nyrsio blwyddyn olaf yn TAMK, Y Ffindir
A lwyddoch chi i gyflawni’r nodau a osodwyd gennych?

Do! Mae’r cyfnewid Taith hwn eisoes wedi arwain at gyflwyno cais am gyllid Cydweithrediad Ewropeaidd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (COST) i ddatblygu rhwydwaith ymchwil rhyngwladol ac ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu pennod e-lyfr ar gyfer prosiect nyrsio a genomeg y mae Arja yn ei arwain.

Sut mae’r profiad hwn wedi cael effaith arnoch?

Roedd y cyfnewid Taith yn brofiad cadarnhaol iawn. Rhoddodd le ac amser i mi ganolbwyntio ar feysydd penodol o fy ngwaith academaidd; meddwl am bethau mewn ffordd fwy creadigol gobeithio a fy ysgogi i dyfu fy ngwaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Pa un darn o gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn symudedd rhyngwladol?

Gallai symudedd rhyngwladol deimlo’n frawychus, yn enwedig os yw am gyfnod estynedig a bod gennych lawer o bethau y mae angen i chi eu rhoi ar waith i wneud iddo ddigwydd. Meddyliwch am bopeth y gallech chi ei gyflawni drwy gymryd rhan a chofiwch ei bod hi’n debygol y bydd llawer o ffyrdd eraill y byddwch chi’n elwa na fyddwch chi wedi meddwl amdanyn nhw. Manteisiwch ar y cyfle oherwydd efallai na ddaw eto!

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.