Dan arweiniad Colegau Cymru, daeth y prosiect Taith Llwybr 2 hwn â cholegau ledled Cymru ynghyd â phartneriaid rhyngwladol i fynd i’r afael â cham-drin menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus mewn Addysg Bellach.
Wedi’i ysgogi gan bryderon cynyddol a amlygwyd yn adroddiad Estyn 2023, ‘Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru – Estyn‘, creodd y prosiect ymateb cenedlaethol a rhyngwladol wedi’i wreiddio mewn cydweithio, dysgu a gweithredu. Drwy ymgysylltu ar-lein parhaus, ymweliadau wyneb yn wyneb, a phartneriaethau â sefydliadau arbenigol, mae colegau wedi gweithio ar y cyd i fynd i’r afael ag agweddau cam-drin menywod ac adeiladu diwylliannau o barch.
Un allbwn allweddol o’r prosiect fu creu Cymuned Ymarfer ryngwladol, gan gysylltu colegau ledled Cymru â cholegau a phrifysgolion yng Nghanada, ochr yn ochr â sefydliadau arbenigol fel She Is Not Your Rehab ac Our Voice Our Journey. Darparodd y Gymuned Ymarfer hon le ar gyfer deialog onest, dysgu ar y cyd, a chyfnewid dulliau ymarferol o ymgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig dynion ifanc, mewn sgyrsiau am berthnasoedd parchus, atebolrwydd a newid ymddygiad.
Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at yr hyn mae prosiectau Taith Llwybr 2 wedi’u cynllunio i’w wneud: mynd i’r afael â heriau yn y sector trwy bartneriaethau rhyngwladol strategol, gan sicrhau bod yr effaith yn mynd tu hwnt i sefydliadau unigol ac yn cyfrannu at newid parhaol ar draws addysg yng Nghymru.