Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy
CysylltwchAeth Jonathan Davies, Pennaeth adran Gweithgynhyrchu Uwch ac Amgylchedd Adeiladu (AMBE yn Saesneg), a Lewis Jones, Darlithydd yn AMBE o’r Coleg Merthyr Tudful, ar symudedd i Dubai fel rhan o brosiect consortiwm a reolir gan ColegauCymru. Roedden nhw am ddarganfod sut gallen nhw ddysgu o ddinas sydd ar flaen y gad ym maes technoleg adeiladu ledled y byd i gyfrannu at ddatblygiad cymhwyster Safon Uwch newydd ar gyfer eu dysgwyr.
Fe wnaethon ni sefydlu ein cwrs amgylchedd adeiledig Safon Uwch yn Y Coleg Merthyr Tudful a chawson ni beth anhawster i recriwtio dysgwyr a chodi ymwybyddiaeth o fewn ysgolion bwydo. Roedden ni’n teimlo ein bod ni eisiau gwneud rhywbeth a oedd wir yn mynd i’n helpu ni i gyflawni’r amcan hwn, felly fe benderfynon ni anelu’n uchel.
Penderfynodd fy nghydweithiwr Lewis a minnau fynd allan ar symudedd staff i Dubai a chawson ni ein syfrdanu’n llythrennol gan yr hyn oedd gan Dubai i’w gynnig, o safbwynt adeiladu. Nid yw’n gyfrinach bod Dubai yn denu penseiri gorau’r byd, lle rydych chi’n dod o hyd i’r adeiladu gorau yn y byd, y crefftau a phopeth arall. Felly, fe benderfynon ni ddysgu gan y goreuon er mwyn ceisio gwella ein darpariaeth a phrofiad y dysgwr yng Nghymru.
Roedd cymaint o bethau da am y profiad. Sylweddolon ni mai trwy ddysgu o’r diwydiant adeiladu a byd dylunio trefol yn Dubai gallen ni wedyn roi profiad cwrs cyfoethocach i’n dysgwyr. Mae llawer o’n dysgwyr yn dod i’r Coleg neu’n gwneud cais am y cwrs adeiladu gyda gwybodaeth gyfyngedig o’r hyn mae’n ei olygu mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl bod eu cysyniad yn gyffredinol yn agos at y gwaith adeiladu a’r agwedd ymarferol o ran y meysydd masnach. Ond roedden ni’n awyddus iawn i hyrwyddo ochr bensaernïol pethau, i ddal yr ymwybyddiaeth fyd-eang o’r diwydiant adeiladu, ei amrywiaeth, a’r cyfleoedd gyrfa sy’n bodoli ynddo.
Wnaethon ni ddim meddwl am ynni adnewyddadwy a’r amgylchedd cyn mynd allan yno. Mae Dubai yn faes eithaf cymhleth i’w adeiladu, amgylchedd llym iawn. Felly, fe ddechreuon ni ddysgu am y cymhlethdodau mae’n rhaid i ddylunwyr a phenseiri eu goresgyn wrth feddwl am brosiectau yn Dubai, fel cyrchu deunyddiau, sy’n amlwg yn anodd iawn, ac yna mae gennych chi’r goblygiadau iechyd a diogelwch o weithio mewn gwres eithafol. Dechreuon ni sylweddoli bod llawer o linynnau i’r hyn roedden ni’n ceisio ei gyflawni a llwybrau gwahanol gallen ni eu dilyn.
Prif ffocws ein dysgu fel staff oedd pensaernïaeth, ac agweddau ehangach yr amgylchedd adeiladu. Ond yn gyflym iawn yn ystod ein hymweliad allan yna, fe sylweddolon ni dylai’r dreftadaeth a’r profiad diwylliannol fod yn agweddau pwysig ar symudedd unrhyw ddysgwyr yn y dyfodol. Yn Dubai fe welwch fod y traddodiadol yn dod at ei gilydd gyda thechnoleg flaengar. Mae’n debyg mai ein mewnwelediad cychwynnol oedd edrych ar y dulliau adeiladu traddodiadol a’r souks (marchnadoedd) yn Dubai. Ac yna mae’r trawsnewidiad yn symud ymlaen i’r strwythurau mega, a’r nenlinell rydyn ni’n ei adnabod yn fyd-eang. Mae’n hynod ddiddorol gweld sut mae’r ddau yn asio â’i gilydd.
Wrth symud ymlaen rydyn ni’n bwriadu mynd â dysgwyr i Dubai. Mae’r rhan fwyaf o’n dysgwyr yn dod o’r ardal leol a bydd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw gofleidio diwylliant gwahanol, un sy’n wahanol iawn i’r un cawson nhw eu magu ynddo. Mae’n mynd i roi profiad bythgofiadwy ac hollol unigryw i’n dysgwyr. Mae’r amlygiad diwylliannol, y twf academaidd a’r cyfoethogi bydd ein dysgwyr yn ei gael yn mynd i fod yn aruthrol. Bydd hyn hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad eu sgiliau meddal wrth symud ymlaen ac yn ehangu eu dealltwriaeth o’r posibiliadau gallan nhw ddod o hyd iddyn nhw yn y diwydiant adeiladu.
O safbwynt uwch reolwyr y Coleg Merthyr Tudful, mae’n amlwg bod y cyfnewidfeydd rhyngwladol hyn o fudd aruthrol i’r staff. Mae cymhelliant staff yn uwch, ac maen nhw’n teimlo’n fwy hyderus i roi cynnig ar bethau mae’n debyg na fydden nhw wedi meddwl amdanynt pe na bydden nhw wedi mynd. Mae eu perthynas gyda’r dysgwyr gymaint yn well hefyd.
Os oes gan unrhyw goleg neu unrhyw sefydliad ddyheadau o feithrin dinasyddiaeth fyd-eang ar unrhyw lefel, dyma’r ffordd orau o wneud hynny. A dweud y gwir, gallwch chi eistedd tu mewn i adeilad a gwylio fideos, ond mae ymgolli yn niwylliant cenedl arall a’i gofleidio yn hollol wahanol. Mae’n dod â lefel o ymwybyddiaeth na allwch chi ei haddysgu. Efallai nad yw cyfoethogi yn rhan o addysg sy’n cael ei gwerthfawrogi’n ddigonol ac mae’r sgil-effeithiau a’r enillion yn anhygoel. Ac rwy’n meddwl weithiau ein bod ni’n methu â sylwi ar hynny yn yr hyn rydyn ni’n wneud. Rydyn ni’n paratoi ein dysgwyr ar gyfer y dyfodol – mae cyfnewid rhyngwladol yn eu goleuo ac yn rhoi mantais iddyn nhw, yn enwedig i’r dysgwyr sydd bron ar drothwy gweithio’n broffesiynol.