Mae gan Swiss Peace grŵp mawr o ysgolheigion o bob cwr o’r byd. Mae llawer ohonyn nhw’n gweithio ar wybodaeth frodorol ac adeiladu heddwch. Mae gwybodaeth frodorol yn cynnig safbwyntiau a gwybodaeth amgen a all fod yn effeithiol ar gyfer adeiladu heddwch. Mae hyn yn golygu, er mwyn dod â heddwch i ardaloedd gwrthdaro ledled y byd lle mae diwylliannau’n wahanol, mae’n amhosibl defnyddio un rysáit i bawb. Mae angen ystyried gwybodaeth leol, hanes, traddodiadau a diwylliant ac mae angen i gymunedau lleol fod yn rhan o’r gwaith o ddod o hyd i ateb heddychlon i wrthdaro. Yn fy ngwaith, rwy’n ceisio archwilio meysydd lle gall gwahanol ddiwylliannau, cenhedloedd, cymunedau, a chymdeithasau rannu eu safbwyntiau unigryw, gan groesawu safbwyntiau amgen. Y nod yw lleihau hierarchaethau, ac adeiladu a chryfhau bondiau, ymddiriedaeth, a pherthnasoedd lle mae safbwyntiau gwahanol yn cael eu gwerthfawrogi ac nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhai cyntefig.
Pan glywais i am y cyfle a gynigiwyd drwy gyllid Taith, roeddwn I’n awyddus iawn i fynd i Swiss Peace i weithio gyda’r ysgolheigion yno. Roedd gen i un person penodol mewn golwg – Dr Maria Birnbaum. Roeddwn i’n benodol eisiau gweithio gyda hi, i ddysgu mwy am ei hymchwil, ac i gael adborth ar bapur academaidd rwyf i wrthi’n ysgrifennu.
Wythnos cyn i mi fynd ar yr ymweliad â’r Swistir, gofynnwyd imi a fyddwn i’n hapus i fod yn drafodwraig yn lansiad llyfr gan Florian Weigman, academydd sy’n gweithio ar Afghanistan. Trafodwr(aig) yw’r person sy’n cyflwyno sesiwn ac yn amlygu a chrynhoi’r prif bwyntiau o ystod o syniadau a drafodwyd – yn yr achos hwn, y prif bwnc oedd y llyfr a lansiwyd. Cawsom drafodaeth hynod gynhyrchiol gyda myfyrwyr o Brifysgol Basel a fynychodd y noson.
Cefais gyfle hefyd i gwrdd â phum ysgolhaig arall a oedd yn gweithio ar ystod eang o brosiectau a oedd yn gysylltiedig â fy ymchwil. Rwy’n gobeithio datblygu cydweithrediadau ymchwil pellach gydag un ohonynt.
Rwy’n mynychu llawer o gynadleddau, mae llawer ohonynt yn gynadleddau rhyngwladol. Mae profiad Taith wedi bod yn wahanol oherwydd ei fod yn caniatáu i chi gynllunio ymlaen llaw yn ofalus, a chydweithio’n frwd â chyd-ymchwilwyr rhyngwladol – mae’n brofiad unigol, wedi’i deilwra, a oedd yn gynhyrchiol iawn.
Mae effaith symudedd Taith ar fy ymchwil ac addysgu yn lluosog. Mae llawer y gallwch chi ei ddysgu trwy ddarllen llyfrau a phapurau academaidd mewn llyfrgell. Ond mae’r profiad gwirioneddol o gwrdd ag ysgolheigion, siarad â nhw a chydweithio yn ymestyn eich meddwl mewn ffordd wahanol. Weithiau yn y byd academaidd, rydyn ni’n canolbwyntio llawer ar fynd i gynadleddau, sef y ffordd gonfensiynol o wneud pethau. Mae cyfleoedd ariannu fel Taith yn rhoi mwy o gyfleoedd i staff edrych y tu hwnt i gynadleddau a chymryd rhan mewn cyfnewid gwybodaeth, gan wneud cysylltiadau newydd a chydweithio â chyd-academyddion wrth i ni rannu’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ym Mhrifysgol De Cymru. Mae cysylltiadau yn bwysig iawn, ac er y gallwn ni wneud cysylltiadau yn rhithwir, mae cyfarfod wyneb yn wyneb yn eich helpu i adeiladu perthynas gryfach a dyfnach gyda’ch cydweithwyr. Mae Taith yn garreg gamu arwyddocaol i sefydlu a datblygu partneriaethau cyn gwneud cais am ffynonellau mwy o arian ymchwil. Dydw i ddim yn ymwybodol o ffynonellau cyllid eraill sy’n caniatáu i chi wneud hyn. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, roedd hwn hefyd yn gyfle i godi proffil Cymru yn rhyngwladol.