Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy
CysylltwchMae staff a dysgwyr o Goleg Ceredigion wedi partneru â norQuest College yn Edmonton, Alberta (Canada) i weithio ar fodel cyflwyno cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nod yr ymweliad oedd cynyddu recriwtio a chadw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol mewn ardaloedd gwledig o Gymru. Roedd yr ymweliad yn gyfle i gymharu’r heriau o ran darparu gwasanaethau gofal mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell yng Nghymru ac Alberta. Galluogodd y profiad y cyfranogwyr i gael persbectif newydd o arferion gofal ac archwilio ffyrdd newydd o wella lles cyffredinol y boblogaeth yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae Sara Jones, Darlithydd Gwyddorau Iechyd, a Jennifer Glenc, cydlynydd cwrs Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Gwyddorau Iechyd, o Goleg Ceredigion yn dweud mwy wrthon ni am y profiad.
Prif amcan y symudedd hwn oedd rhoi profiad i’n myfyrwyr o fodel gofal iechyd rhyngwladol sy’n wahanol i’r ffordd rydyn ni’n gweithredu yng Nghymru. Roedden ni am ysbrydoli arloesi a gwella’r gwasanaethau yn y dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell. Roedden ni hefyd am ehangu safbwyntiau myfyrwyr ar arferion gofal iechyd yn rhyngwladol drwy eu cymharu â’n hymagweddau at ofal iechyd gwledig, ac yn seiliedig ar y dysgu hwnnw, i ddatblygu model addysgol newydd ar gyfer darparu hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwelon ni fod gan y gwasanaeth iechyd yn Alberta bron yr un heriau â’r GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, does ganddyn nhw ddim problem recriwtio myfyrwyr, felly roedden ni hefyd yn edrych ar beth maen nhw’n ei wneud i weld a allen ni ddod â rhai gwersi yn ôl i Gymru.
Ein cam nesaf i barhau â’r daith ddysgu hon yw sefydlu’r Academi Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig yng Ngholeg Ceredigion i gefnogi recriwtio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ôl-16. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus i’r Academi yn ymchwilio ac yn profi’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwledig ac anghysbell yma yng nghefn gwlad canolbarth Cymru ac yn Alberta. Bydd yn gyfle i ehangu safbwyntiau dysgwyr ar arferion a heriau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, tra hefyd yn edrych i wella cadw gweithlu a mynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio yn GIG Cymru trwy ysbrydoli ein myfyrwyr i ddilyn gyrfaoedd mewn gofal iechyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Roedd yn wych sylweddoli bod dysgu o’r ddwy ochr mewn gwirionedd. Roedd hyn yn fwy na mynd yno a dod â syniadau newydd yn ôl i Gymru oedd hyn. Roedd ein partneriaid o Ganada yn dysgu o’n model pan ddaethon nhw draw yma hefyd. Roedd yn wych edrych ar ein modelau gofal iechyd a’n system addysg drwy’r cyfle rhyngwladol hwn.
Yng Nghanada, mae ganddyn nhw dechnoleg anhygoel sy’n caniatáu iddyn nhw gyrraedd pobl sy’n byw mewn ardal anferth trwy’r hyn maen nhw’n ei alw’n amgylchedd dysgu hyblyg uchel. Gallan nhw gyrraedd poblogaethau mewn ardaloedd anghysbell a gwledig a gallan nhw addysgu pynciau ar-lein. Mae hyn yn rhoi nifer fawr o fyfyrwyr iddynt, sy’n cynhyrchu symiau mawr o incwm – cylch rhinweddol. Ac mae cyfradd cadw myfyrwyr yn cynyddu’n union oherwydd bod myfyrwyr yn cael dewis sut y maen nhw am ddysgu.
Ar y llaw arall, roedd y Canadiaid wedi’u plesio’n fawr pan ddaethon nhw drosodd gyda deddfwriaeth yr iaith Gymraeg sydd gennym ni. Nid oes ganddyn nhw drefniant tebyg ar gyfer eu cymunedau brodorol. Does dim deddfwriaeth yn dweud bod rhaid iddyn nhw ddarparu gofal trwy Cree neu ieithoedd eraill y Cenhedloedd Cyntaf yn lleol.
Roedden ni’n gwybod byddai’r profiad hwn yn trawsnewid bywyd i lawer o gyfranogwyr. Un o ganlyniadau cadarnhaol y symudedd yw’r ymwybyddiaeth ddiwylliannol mae’r disgyblion wedi’i hennill. Gwelsom ni gynnydd mewn ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o wahaniaethau diwylliannol, ar ôl cael ein trwytho mewn gwahanol ddiwylliannau brodorol yng Nghanada. Gwnaeth hyn iddyn nhw fyfyrio ar eu hunaniaeth eu hunain a’u hymdeimlad o Gymreictod.
Weithiau nid yw ein dysgwyr wedi datblygu’r lefel honno o wytnwch sy’n caniatáu ichi reoli’ch hun yn emosiynol. Pan fyddwch chi dramor, rydych chi allan o’ch parth cysurus. Ac nid oes gennych chi unrhyw ddewis ond datblygu’r ymreolaeth bersonol a’r rheoliad emosiynol hwnnw. Mae’r profiad hwn yn bendant wedi eu cryfhau nhw. Ar ôl y daith, roedd yn amlwg bod gan y dysgwyr lefelau gwydnwch uwch a llais cryfach – roedden nhw’n gallu trin beirniadaeth yn well. Rydyn ni’n gweld gwahaniaeth fawr ym mhob un ohonyn nhw.
Mae symudedd rhyngwladol yn rhoi cyfleoedd gwahanol i fyfyrwyr sy’n gwella eu datblygiad a gall gael effaith uniongyrchol ar eu rhagolygon gyrfa. Mae rhai o’n myfyrwyr ar fin gwneud cais i brifysgol, ond roedd rhai yn dal i fod yn ansicr a oedd gyrfa mewn gofal iechyd yn addas iddyn nhw. Ond fe wnaeth profiad Canada gadarnhau hyn i rai ohonyn nhw. Sylweddolon nhw mai dyna oedden nhw eisiau ei wneud. Roedden nhw eisiau gweithio ym maes gofal iechyd.
I’r darlithwyr, mae dysgu am fodelau gofal iechyd rhyngwladol wedi rhoi persbectif newydd i ni a hefyd gwerthfawrogiad o’r hyn sydd gennym ni yma. Hefyd, mae’r holl brofiad wedi bod mor werthfawr fel ein bod yn gobeithio parhau i weithio mewn partneriaeth â Chanada i ddarparu cyfleoedd pellach i garfanau newydd o ddysgwyr.