Derbyniodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf gyllid Llwybr 2 i gydweithio â sefydliadau addysgol yn Aotearoa, Seland Newydd i ddysgu am ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm, gan gynnwys edrych ar gyfoethogi profiadau dysgu ar gyfer ieithoedd lleiafrifol fel te reo Māori a Chymraeg. Roedd hyn gyda’r bwriad o ddysgu am egwyddorion ac arferion llwyddiannus a chyd-destunol o fewn te reo Māori a te Ao Māori (golwg byd Māori) yn Aotearoa Seland Newydd, a rhannu egwyddorion ac arferion cyfatebol mewn lleoliadau addysgol cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Nghymru.
Ym mis Chwefror 2024, cymerodd pum arweinydd o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg a DARPL ran mewn cydweithrediad Taith i Aotearoa, Seland Newydd gan ymweld â phum ysgol, prifysgol (Te Whare Wānanga o Awanuiārangi) a marae (tŷ cwrdd cymunedol). Amserwyd yr ymweliad hefyd i brofi Diwrnod Waitangi; coffâd arwyddo te tiriti o Waitangi yn 1840.
Ym mis Mehefin, ymwelodd chwe arweinydd o Aotearoa, Seland Newydd â Chymru. Ymwelsant ag ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng ngogledd, de a de-ddwyrain Cymru, cyfarfuant â’r Urdd yn Llangrannog, a
a chyflwynasant weithdai yng nghynhadledd genedlaethol DARPL yn Llandudno a chynhadledd Datod a Dad-drefedigaethu Gwybodaeth y Byd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae’r arweinwyr Cymreig wedi ysgrifennu am eu profiadau ar Golwg 360 a DARPL; wedi cyflwyno am eu profiad Taith yng nghynhadledd genedlaethol BERA ym Manceinion; a bydd fideos dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon yn ymwneud â dad-drefedigaethu, ailfrodio a gwrth-hiliaeth yn cael eu huwchlwytho i wefan genedlaethol DARPL yn yr hydref. Mae’r profiad Taith yn parhau i ddylanwadu ar ddatblygiad proffesiynol staff Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, yn ogystal â phrofiad disgyblion trwy ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cynefin a chelfyddydau mynegiannol.
Gwyliwch y fideo a wnaethant ar eu profiad yma.