Ym mis Ebrill 2025, cafodd Paige, a oedd yn astudio Hyfforddi Pêl-droed a Pherfformiad Lefel 3 yng Ngholeg Gŵyr, y cyfle i fynd i’r Eidal ar gyfnewid dysgu pêl-droed a hyfforddi.
Gwthiodd y daith Paige allan o’i pharth cysur. Yn ogystal â bod yn un o’r ychydig fyfyrwyr benywaidd ar y symudedd, mae Paige yn fyddar, ac yn gwisgo mewnblaniadau cochleaidd. Ar ôl gorffen ei chwrs mae’n gobeithio ymwneud â hyfforddi pêl-droed i blant byddar. Er mwyn sicrhau bod gan Paige cefnogaeth lawn ar y symudedd hwn, ariannodd Taith weithiwr cymorth personol i’w hebrwng.
Yma, mae Paige yn sôn am ei phrofiad.
Ces i fy mewnblaniadau cochleaidd pan oeddwn i’n 3½ oed, a fi oedd y plentyn cyntaf i gael mewnblaniadau dwyochrog yn ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr. Pan ddechreuais i yn yr ysgol, roeddwn i’n gwisgo rhwymyn o amgylch fy mhen!
Dechreuais i mewn uned i’r byddar, a phan oeddwn i ym Mlwyddyn 3 neu 4, symudais i ysgol brif ffrwd. Rwyf wedi caru pêl-droed erioed, felly fy nod oedd gwneud y cwrs Hyfforddi a Pherfformio Pêl-droed.
Trwy gyllid gan Taith, llwyddais i i gymryd rhan mewn symudedd i’r Eidal, oedd yn cynnwys hyfforddiant pêl-droed, chwarae gemau yn erbyn timau Eidalaidd lleol, dysgu rhywfaint o’r iaith a’r diwylliant, a hyfforddi chwaraewyr iau mewn sgiliau pêl-droed. Rhan ohono yw ymestyn myfyrwyr, ac roeddwn i eisiau herio fy hun oherwydd nad oeddwn i wedi bod ar awyren ers i mi fod yn 6 oed, a dyma’r tro cyntaf i mi fod dramor heb fy nheulu.
Roeddwn i’n gobeithio magu hyder, dod i adnabod fy nghyd-fyfyrwyr, ac ehangu fy ngorwelion.
Roeddwn i’n gallu cymryd rhan mewn llawer o wahanol weithgareddau tra roeddwn i i ffwrdd. Chwaraeais i bêl-droed yn erbyn timau lleol, ces i brofiad o bwll maint Olympaidd yn y gwesty, rhoddais i gynnig ar bêl foli traeth am y tro cyntaf, a hyd yn oed ces i gyfle i wylio Verona yn erbyn AC Milan.
Ceisiais i ddysgu rhywfaint o Eidaleg tra roeddwn i yno, ond roedd hi’n anodd i mi. Hyd yn oed pan oedden nhw’n siarad Saesneg, roedd hi weithiau’n anodd i mi ddeall eu hacen.
Roeddwn i’n nerfus iawn, ond oherwydd fy mod i wedi bod yn fyddar erioed, dyna’r hyn rydw i wedi arfer ag ef, felly alla i ddim dweud ei fod wedi effeithio’n fawr ar fy nisgwyliadau. Roeddwn i’n nerfus yn bennaf am fynd trwy ddiogelwch y maes awyr oherwydd fy mewnblaniadau cochleaidd, ond daeth Julia, fy ngweithiwr cymorth personol, gyda mi, a roddodd hi sicrwydd i mi.
Roedd yn bwysig iawn i mi, yn enwedig yn y nos, oherwydd roeddwn i’n gwybod gallai hi ddefnyddio iaith arwyddo a’m rhybuddio pe bai problem.
Er enghraifft, pan gawson ni storm fellt a tharanau ac roedden ni tu allan, dywedodd wrthyf fi i dynnu fy mewnblaniadau i ffwrdd oherwydd y perygl, ond gallem ni barhau i gyfathrebu trwy iaith arwyddo, felly doeddwn i ddim yn teimlo ar fy mhen fy hun.
Cefnogodd Julia fi drwy’r amser ond rhoddodd hi’r rhyddid i mi hefyd gymysgu â’r myfyrwyr eraill. Helpodd hyn fi’n fawr i ddatblygu fy hyder yn gymdeithasol.
Wynebais i ychydig o heriau, gan gynnwys yn y maes awyr a phan lanion ni. Roeddwn i’n teimlo’n eithaf pryderus, ond gyda sicrwydd llwyddais i oresgyn fy ofnau.
Yn y gwesty ac mewn amgylchedd hollol newydd, roeddwn i’n teimlo’n nerfus ar y dechrau, ond tyfodd fy hyder. Yn y pen draw, roeddwn i’n teimlo’n ddigon cyfforddus i fynd i mewn i’r pwll nofio, er bod yn rhaid i mi dynnu fy mewnblaniadau i ffwrdd. Arhosodd Julia wrth ochr y pwll, felly roeddwn i’n gwybod gallwn i gyfathrebu o hyd.
Rydw i wedi tyfu llawer mewn hyder ac yn cymysgu mwy gyda’r myfyrwyr eraill nawr, sy’n gwneud y coleg yn llawer mwy pleserus i mi.
Rydw i hefyd nawr yn gwirfoddoli trwy gynnal sesiwn hyfforddi amser cinio dydd Mawrth gyda myfyrwyr ILS yn y coleg. Fy syniad i oedd gwneud hyn, ac ni fyddwn i wedi’i wneud o’r blaen. Rydw i wrth fy modd.
I unrhyw fyfyrwyr a allai deimlo bod ganddyn nhw rwystrau yn eu hatal rhag cymryd rhan mewn ymweliad fel hwn, byddwn i’n dweud ewch amdani. Roedd fy mhrofiad yn wych.
Diolch yn fawr iawn am roi’r cyfle i mi ddatblygu fy hyder a chael y profiad hwn.