Cynlluniwyd prosiect Llwybr 2 Awdurdod Lleol Abertawe i gryfhau addysgeg y blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe trwy ddysgu am ddull Reggio Emilia. Cwblhaodd pedwar ymarferydd dysgu sylfaen raglen grŵp astudio rhyngwladol Reggio Emilia yng Nghanolfan Ryngwladol Loris Malaguzzi ym mis Hydref 2024. Trwy’r ymgysylltiad rhyngwladol hwn, a rhaglen ledaenu a gynlluniwyd yn ofalus, mae’r prosiect wedi gwella ansawdd profiadau dysgu i blant ifanc ar draws Abertawe ac wedi cyfrannu at ddysgu proffesiynol ehangach ledled Cymru.
Mae Katrina Peters, Arweinydd y Prosiect a Swyddog Arweiniol: Cwricwlwm, Dysgu ac Addysgu yng Nghyngor Abertawe yn sôn am y profiad a’r effaith mae wedi’i chael.
Roedd y prosiect wedi’i wreiddio mewn angen clir ledled Abertawe i symud tu hwnt i ddeall egwyddorion Dysgu Sylfaen i’w rhoi ar waith yn hyderus mewn ymarfer bob dydd. Er bod modiwlau Dysgu Sylfaen Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd dros 400 o ymarferwyr yn lleol, gwelsom ni fod llawer o ysgolion yn chwilio am ddealltwriaeth ddyfnach i gefnogi gweithrediad cyson ac o ansawdd uchel.
Trwy ymweliadau ag ysgolion a deialog broffesiynol, daeth yn amlwg bod cysyniadau fel dysgu yn dilyn arweiniad plant, yr amgylchedd galluogi ac arsylwi yn cael eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Roedd yr ymarferwyr wedi’u cymell ac â diddordeb mawru, ond roedden nhw eisiau modelau cliriach o sut byddai hi’n gweithio yn ymarferol.
Felly, roedd y nod yn ddeublyg: dyfnhau dealltwriaeth broffesiynol trwy ddod i gysylltiad ag ymarfer rhyngwladol o ansawdd uchel, a chreu model cynaliadwy ar gyfer rhannu’r dysgu hwnnw ar draws y system. Y bwriad oedd nid yn unig datblygu pedwar unigolyn, ond meithrin dealltwriaeth gyda’i gilydd a chryfhau addysgeg ledled Abertawe yn unol â Chwricwlwm Cymru.
Rwy’n dwlu ar deithio, ond dyma’r tro cyntaf i mi fynd ar daith fel hon heb fy nheulu, a oedd yn ei gwneud hi’n teimlo’n arbennig o arwyddocaol. Es i gan wybod byddai’n werthfawr, ond roedd yn rhagori ar ddisgwyliadau, dysgais i gymaint. Rhoddodd gyfle i mi gysylltu ag ymarferwyr eraill a chryfhaodd fy hyder mewn cefnogi eraill trwy rannu profiadau uniongyrchol. Mae wedi bod yn gam pwysig yn fy nhaith broffesiynol.
Elsbeth Fewings, ymarferydd dysgu sylfaen
Mae athroniaeth addysgol Reggio Emilia yn cyd-fynd yn agos â’r egwyddorion sy’n sail i Gwricwlwm i Gymru. Mae’n gosod y plentyn fel dysgwr galluog, sy’n dal hawliau, ac yn cydnabod yr amgylchedd fel cyfrannwr gweithredol at ddysgu. Er bod yr egwyddorion hyn yn ganolog i bolisi Cymru, mae eu gweithrediad ymarferol yn dal i ddatblygu o fewn llawer o leoliadau.
Cynigiodd Reggio Emilia gyfle i weld y syniadau hyn yn cael eu gwireddu mewn ffordd drefnus a chynaliadwy. Mae’r dull wedi’i fireinio dros ddegawdau ac mae’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ddyfnder a’i effaith, gan ddarparu pwynt cyfeirio pwerus ar gyfer sut y gall ymarfer o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y plentyn, edrych.
I ni, roedd gwerth y profiad nid mewn atgynhyrchu, ond mewn myfyrio. Fe’n hysgogodd ni i ofyn cwestiynau mwy ystyriol am ein harfer ein hunain; sut mae amgylcheddau’n cyfleu disgwyliadau, sut mae dogfennaeth yn cefnogi meddwl, a sut nid yn unig mae syniadau plant yn cael eu gwerthfawrogi ond eu datblygu dros amser.
Er bod rhai ymarferwyr yng Nghymru wedi ymgysylltu â dulliau wedi’u hysbrydoli gan Reggio yn unigol, mae hyn yn aml wedi aros yn ynysig. Aeth y prosiect hwn i’r afael â hynny trwy greu a rhannu profiad a chyfle strwythuredig i feithrin dealltwriaeth ar y cyd ar draws yr awdurdod lleol.
Yn dilyn yr ymweliad, dyluniodd y tîm raglen ddysgu broffesiynol ddwyieithog wedi’i gwreiddio yng Nghwricwlwm i Gymru. Canolbwyntiodd y rhaglen ar ddatblygiad plant, arsylwi, dysgu seiliedig ar chwarae, a rôl yr amgylchedd a dogfennaeth.
Wedi’i hariannu’n llawn trwy Taith, cyflwynwyd y sesiynau gan yr ymarferwyr a fynychodd yr ymweliad a denodd ystod eang o gyfranogwyr, gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu, arweinwyr blynyddoedd cynnar a staff ymgynghorol.
Strwythurwyd yr hyfforddiant i ddangos sut y gall egwyddorion Reggio Emilia ddyfnhau ymholiad dan arweiniad plant, creadigrwydd a dysgu pwrpasol o fewn cyd-destunau Cymru. Cefnogwyd ymgysylltiad gan amrywiaeth o ddulliau rhyngweithiol, gan gynnwys trafodaethau grŵp, arddangosiadau ymarferol, fideo, gemau ac astudiaethau achos.
Archwiliodd y cyfranogwyr ddogfennaeth fel offeryn myfyriol ac ystyrion nhw sut gellir dylunio amgylcheddau i gefnogi meddwl ac annibyniaeth. Derbyniodd pob mynychwr becyn adnoddau cynhwysfawr i gefnogi myfyrio a chymhwyso parhaus o fewn eu lleoliadau eu hunain.
Cynhyrchodd y rhaglen hyfforddi gychwynnol ddiddordeb sylweddol, gan ehangu o ddigwyddiad undydd i raglen ddeuddydd, gyda dros 200 o gynrychiolwyr o fwy nag wyth sir ledled Cymru. Dangosodd hyn fod y prosiect nid yn unig yn mynd i’r afael â blaenoriaeth leol, ond angen cenedlaethol ehangach, gan osod Abertawe fel cyfrannwr blaenllaw at ddysgu proffesiynol y blynyddoedd cynnar.
Roedd adborth gan y cyfranogwyr yn hynod gadarnhaol. Adroddodd ymarferwyr bod ganddyn nhw fwy o hyder wrth addasu eu harfer a chreu cyfleoedd ar gyfer ymholiad dan arweiniad plant. Mewn ystafelloedd dosbarth, mae hyn wedi trosi’n ymgysylltiad gwell, mwy o annibyniaeth, rhyngweithiadau mwy cymhleth a thystiolaeth gryfach o blant yn llunio eu teithiau dysgu eu hunain.
Ers cwblhau’r hyfforddiant, mae’r effaith wedi parhau i gynyddu. Mae’r adnoddau a’r dulliau a ddatblygwyd trwy’r prosiect bellach wedi’u hymgorffori yng ngwaith dyddiol Tîm Cwricwlwm, Addysgu a Dysgu Abertawe. Maent yn llywio dysgu proffesiynol, ymweliadau ymgynghorol a gwaith parhaus gydag ysgolion, gan sicrhau bod yr egwyddorion yn cael eu cynnal yn hytrach na pharhau i fod yn fenter untro.
Mae hefyd wedi bod newid amlwg mewn deialog broffesiynol. Mae sgyrsiau gydag ysgolion yn canolbwyntio yn gynyddol ar brosesau dysgu, meddwl plant dros amser, a defnydd pwrpasol o’r amgylchedd a dogfennaeth, yn hytrach nag ar weithgareddau neu ddarpariaeth yn unig.
Mae cyrhaeddiad y prosiect wedi ymestyn y tu hwnt i ysgolion. Mae’r deunyddiau wedi cefnogi dysgu proffesiynol ychwanegol ar gyfer aelodau pwyllgor Meithrin, gan sicrhau bod yr egwyddorion yn dylanwadu ar strwythurau llywodraethu a chymorth ehangach y blynyddoedd cynnar.
Canlyniad pwysig ac annisgwyl fu cryfhau capasiti o fewn tîm yr awdurdod lleol. Mae dau ymarferydd a oedd yn rhan o’r prosiect wedi ymgymryd â rolau parhaol o fewn y Tîm Cwricwlwm, Addysgu a Dysgu ers hynny, gan gynnwys swydd arbenigol mewn datblygiad plant ac addysgeg. Mae hyn yn sicrhau bod yr arbenigedd a ddatblygwyd trwy’r prosiect yn parhau i lunio ymarfer ar raddfa fawr.
Yn hytrach na bod yn fenter annibynnol, mae’r prosiect wedi helpu i sefydlu cyfeiriad teithio cyffredin ar draws Abertawe. Mae’n parhau i lunio sut rydyn ni’n ymdrin â dysgu proffesiynol, gan gefnogi ymarferwyr i ddatblygu arfer hyderus, meddylgar ac ymatebol sy’n adlewyrchu dyheadau Cwricwlwm i Gymru.
Yn y pen draw, mae’r gwaith hwn wedi cryfhau ein dealltwriaeth gyfunol o sut olwg sydd ar Ddysgu Sylfaen o ansawdd uchel yn ymarferol, gan arwain at brofiadau cyfoethocach i blant a chefnogi eu dilyniant, eu lles a’u hymgysylltiad mewn ffyrdd ystyrlon.