Ardal derbynwyr grantiau
Tsieina

Sut cefnogodd symudedd Taith lwybr myfyriwr AB i Brifysgol Rhydychen

Rhannwch hyn!
Mae cyfranogwyr a hwyluswyr yn sefyll ar y llwyfan yn darllen o ffolderi yn ystod cyflwyniad yn Teen Spark 2025. Mae sgrin fawr tu ôl iddyn nhw yn arddangos y geiriau “Calon Lan” yn erbyn cefndir â thema machlud haul.

Ym mis Ebrill 2025, teithiodd deg myfyriwr o Raglen Anrhydedd Coleg Gŵyr, sydd yn rhaglen gyfoethogi a chefnogi academaidd ar gyfer pobl ifanc 16–18 oed uchelgeisiol sy’n am astudio mewn prifysgolion blaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol, i Tsieina i ymgolli yn iaith a diwylliant y wlad.

Mae effaith y symudedd wedi bod yn rhyfeddol. O’r deg myfyriwr a gymerodd ran, mae pump wedi sicrhau cynigion o Rydychen neu Gaergrawnt ers hynny. Un ohonyn nhw yw Samantha, sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio Tsieinëeg.

Mae Samantha yn rhannu sut cryfhaodd ei phrofiad a ariannwyd gan Taith yn Tsieina ei chais, ehangu ei gorwelion, a helpu i lunio ei thaith academaidd tuag at astudio Tsieinëeg yn un o brifysgolion blaenllaw’r byd.

Beth ysbrydolodd ti i wneud cais am symudedd Taith i Tsieina, a beth oeddet ti’n gobeithio ei ennill o’r profiad?

Rwy’n dod o deulu Pwylaidd, ac er i mi gael fy ngeni a’m magu yn y DU, ces i fy magu wedi’m hamgylchynu gan ddiwylliant Pwylaidd gartref a diwylliant Prydain yn yr ysgol ac yn gyhoeddus. Oherwydd hyn, dw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn diwylliannau ac ieithoedd eraill, ac arweiniodd hynny fi i astudio ieithoedd tramor modern.

Am flynyddoedd lawer, Sbaeneg a Ffrangeg oedd yr unig ddwy iaith dramor a gynigiwyd i mi, felly roedd fy astudiaethau wedi’u cyfyngu i ddysgu am yr ieithoedd hyn a diwylliannau’r gwledydd lle roedden nhw’n cael eu siarad. Fodd bynnag, dw i bob amser wedi bod eisiau ehangu fy astudiaethau i ddiwylliannau eraill, a dyna pam neidiais i ar y cyfle i fynd ar y daith hon i Tsieina.

Roeddwn i’n gobeithio dysgu popeth am y diwylliant, y ffordd o fyw yno, ac ennill rhai sgiliau iaith sylfaenol hefyd.

Llun grŵp ar lwyfan yn lansiad rhaglen Teen Spark 2025. Mae cyfranogwyr a staff yn sefyll ac yn eistedd o flaen sgrin fawr yn arddangos “Wave Resonance from Swansea Bay to the Pearl River” yn Saesneg a Tsieinëeg.
Beth oedd rhai o’r profiadau dysgu a diwylliannol mwyaf cofiadwy yn ystod eich amser yn Tsieina?

Roedd y dyddiau yn ystod y daith yn brysur iawn. Bydden ni’n dechrau’n gynnar yn y bore ac yn dychwelyd i’n llety yn hwyr yn y nos yn unig oherwydd yr holl weithgareddau roedd ein gwesteiwyr wedi’u cynllunio’n garedig ar ein cyfer.

Roedd y gwersi’n llawn cynnwys ac yn cadw myfyrwyr yn canolbwyntio drwy gydol y dydd, gyda seibiannau byr rhyngddyn nhw. Roedd yr egwyliau hirach wedi’u neilltuo i fwyd, a oedd yn rhan bwysig iawn o’n cyfnewid. Roedd y gwesteiwyr bob amser yn sicrhau ein bod ni wedi cael digon o fwyd ac yn cymryd digon o amser i baratoi prydau bwyd i ni, gan fod bwyd yn rhan enfawr o ddiwylliant a lletygarwch yn Tsieina.

Ar ôl ysgol, roedd gennym ni weithgareddau cyffrous i edrych ymlaen atyn nhw bob amser, fel gweld Opera Peking, ymweld ag Amgueddfa Guangdong, a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol fel gwneud twmplenni a chaligraffeg. I mi yn bersonol, y gweithgareddau diwylliannol ac ieithyddol oedd y pwysicaf, gan mai nhw oedd yr hyn roeddwn i fwyaf awyddus i ddysgu amdanyn nhw.

Sut gwnaeth y profiad eich helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn academaidd?

Roedd bod ar drip ysgol mor bell o gartref mewn gwlad dramor yn gofyn i bob un ohonon ni fod yn annibynnol, a dwi’n meddwl mai dyna oedd y prif sgil a ddysgais i yn ystod y daith.

Ynghyd â’r annibyniaeth hon daeth rheoli amser a hyder, gan fod disgwyl i ni reoli ein hunain a’n hamser yn effeithiol wrth dreulio amser annibynnol i ffwrdd o athrawon a’r ysgol. Roedd cyfathrebu hefyd yn allweddol, gan fod y rhwystr iaith yn ei gwneud hi’n anodd cyfleu popeth roedden ni am ei ddweud yn glir wrth y bobl roedden ni’n cwrdd â nhw yn Tsieina. Roedd gallu cyfathrebu er gwaethaf hyn yn sgil hynod bwysig.

Drwy gydol y daith, cawson ni fewnwelediad i’r gwahaniaethau diwylliannol rhwng bywyd yn Tsieina a’n bywydau bob dydd. Roedd yn gyfle anhygoel ac agoriadol i weld pa mor wahanol gall bywydau, ymddygiadau a meddyliau pobl fod yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw. Ar yr un pryd, roedd yn galonogol darganfod pa mor debyg oedden ni mewn sawl ffordd. Er ein bod ni’n dod o ochrau gwahanol y byd, ni newidiodd rhai pethau o gwbl.

Sut gwnaeth y symudedd ddylanwadu ar dy uchelgeisiau astudio a gyrfa yn y dyfodol?

I mi’n bersonol, fe wnaeth y profiad gadarnhau fy mhenderfyniad i astudio Tsieinëeg yn y brifysgol a gwneud i mi fod yn sicr mai dyma’r cwrs cywir i mi.

Roedd y daith yn gyfle unwaith mewn oes a helpodd hefyd gyda fy nghais i Rydychen a gwneud i mi sefyll allan o blith ymgeiswyr eraill. Rhoddodd gyfle i mi hefyd archwilio fy opsiynau ar ôl y brifysgol a helpodd fi i weld y wlad a chyfleoedd gyrfa posibl a allai fod ar gael trwy deithio ac astudio yn y dyfodol.

Cyfranogwyr Teen Spark 2025 yn dal baner y rhaglen mewn sgwar dinas yn y nos, gyda nendyrau wedi'u goleuo a chefndir gorwel yn Guangzhou.
Pa wahaniaeth wnaeth y profiad hwn i’ch taith addysgol a’ch ceisiadau prifysgol?

I mi’n bersonol, gyda’r cwrs prifysgol a ddewisais i, mae’n debyg mai dyma oedd un o’r ffactorau mwyaf a helpodd fi i sefyll allan o blith ymgeiswyr eraill. Ychydig iawn o fyfyrwyr all ddweud eu bod nhw wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn taith gyfnewid ysgol i Tsieina, felly heb hyn rwy’n credu byddwn i wedi cael amser llawer anoddach yn sicrhau’r cynigion prifysgol ges i.

Pa brofiad yn ystod y symudedd ydych chi fwyaf balch ohono, a pham?

Roedd y profiadau ar y daith hon yn unigryw ac yn cynnwys pethau na feddyliais i erioed byddwn i’n gallu eu gwneud, fel cerdded ar Fur Fawr Tsieina, astudio, hyd yn oed am gyfnod byr, mewn ysgol Tsieineaidd, a gweld perfformiadau fel Opera Peking yn fyw yn bersonol.

Dim ond trwy deithio i Tsieina mae’r holl brofiadau hyn yn bosibl, sef rhywbeth na feddyliais i erioed byddwn i’n cael y cyfle i’w wneud.

Rydych chi wedi derbyn cynnig i astudio Tsieinëeg ym Mhrifysgol Rhydychen. Sut gwnaeth eich profiad yn Tsieina eich helpu i baratoi ar gyfer y cyfle hwn?

Dw i mor hapus i fod wedi derbyn cynnig gan Rydychen i astudio Tsieinëeg. Dw i’n gwybod ei bod yn un o’r prifysgolion gorau ar gyfer astudiaethau ieithoedd, ac ers blynyddoedd mae wedi bod yn freuddwyd i mi astudio iaith yno.

Dw i hefyd yn ddiolchgar o wybod byddaf i’n gallu dychwelyd i Tsieina yn ystod fy mlwyddyn dramor ac ail-fyw rhai o’r profiadau o’r daith hon. Heb y profiad hwn, ni fyddwn i’n teimlo mor hyderus yn fy sgiliau a’m gallu i lwyddo ar y cwrs yn Rhydychen.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gwneud cais am symudedd Taith?

Mae fy nghyngor i unrhyw fyfyrwyr yn y dyfodol sy’n cael cynnig taith Taith yn syml: ewch amdani’n bendant!

Mae’n rhaglen anhygoel a all roi profiad unigryw, unwaith mewn oes i chi, na fyddwch chi efallai byth yn ei gael eto. Dyn ni mor ffodus fel myfyrwyr Cymru i gael y cyfle hwn, ac mae’n gwbl werth chweil.

Allwch chi ddisgrifio’r profiad hwn mewn un gair?

Anhygoel

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.