Ym mis Mawrth 2026, cymerodd wyth disgybl a phedwar aelod o staff o Ysgol Hen Felin, ysgol arbennig yn Rhondda Cynon Taf, ran mewn ymweliad symudedd grŵp a ariannwyd gan Taith i Rotterdam yn yr Iseldiroedd. I’r rhan fwyaf o’r disgyblion, dyma’u tro cyntaf i deithio y tu allan i’r DU, gan wneud y profiad yn gyffrous ac yn drawsnewidiol.
Rhoddodd y symudedd, a drefnwyd trwy Cysylltiadau Rhyngwladol Byd-eang, y cyfle iddyn nhw brofi diwylliant gwahanol, datblygu mwy o annibyniaeth a hyder, a dysgu ochr yn ochr â disgyblion mewn ysgol arbennig bartner yn Rotterdam. Mae’r athro, James Bailey, yn dweud mwy wrthym ni am eu profiad ac yn rhannu fideo a wnaethon nhw yn ystod eu taith.
Sut oedd y disgyblion yn teimlo am gymryd rhan mewn cyfnewid rhyngwladol?
Cyn yr ymweliad, roedd cymysgedd o gyffro a nerfusrwydd. I lawer, roedd y syniad o deithio dramor yn rhywbeth nad oedden nhw erioed wedi dychmygu ei wneud o’r blaen.
Roedd hyd yn oed cyrraedd Rotterdam yn brofiad dysgu. Roedd y maes awyr ei hunan, mynd trwy’r archwiliad diogelwch a mynd ar awyren am y tro cyntaf yn cyflwyno heriau newydd a oedd yn gofyn i ddisgyblion gamu tu allan i’w parthau cysur. Er bod gan rai bryderon dealladwy ar y dechrau, roedd yn anhygoel gweld pa mor gyflym gwnaethon nhw addasu a pha mor falch oedden nhw ohonyn nhw eu hunain wrth i’r daith fynd yn ei blaen.Un o agweddau mwyaf gwerth chweil y daith oedd gwylio disgyblion yn tyfu mewn hyder bob dydd wrth iddyn nhw reoli sefyllfaoedd a phrofiadau newydd yn llwyddiannus.
Pa weithgareddau wnaethoch chi gymryd rhan ynddyn nhw tra roeddech chi yno?
Rhan allweddol o’r symudedd oedd ymweld â’n hysgol arbennig bartner yn Rotterdam. Mynychodd ein disgyblion wersi ochr yn ochr â dysgwyr o’r Iseldiroedd a phrofi amgylchedd addysgol a dull dysgu gwahanol.
Fel athro, roeddwn i’n teimlo bod hyn yn arbennig o werthfawr. Sylwais i ar amgylcheddau dysgu tawel a strwythuredig lle’r oedd gweithgareddau ymarferol yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu annibyniaeth ac ymgysylltiad dysgwyr. Mae gweld y dulliau hyn yn uniongyrchol wedi fy annog i fyfyrio ar ein harfer ein hunain ac ystyried ffyrdd gallwn ni ymgorffori syniadau tebyg yn ôl yn Ysgol Hen Felin.
Ers dychwelyd i Gymru, rydyn ni wedi dechrau archwilio cyfleoedd i ehangu profiadau dysgu ymarferol i’n disgyblion, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored a gweithgareddau arddull ysgol goedwig.
Tu allan i’r ysgol, cofleidiodd y disgyblion ystod o brofiadau newydd cyffrous. Teithion nhw ar rwydwaith tram Rotterdam, cymeron nhw ran mewn taith bws dŵr amffibaidd, ymwelon nhw â’r sw, archwilion nhw siopau a chaffis lleol, a phrofon nhw fywyd bob dydd mewn gwlad hollol wahanol.
Synnodd llawer o ddisgyblion eu hunain drwy flasu bwydydd am y tro cyntaf erioed, tra bod eraill wedi’u swyno gan y gweithgareddau ymarferol oedd yn digwydd yn ystafelloedd dosbarth yr Iseldiroedd, gan gynnwys prosiectau fel datgymalu peiriannau golchi a gweithio yng nghyfleusterau cegin yr ysgol.
Un o agweddau mwyaf ysbrydoledig y daith oedd gweld disgybl a ddosbarthwyd fel myfyriwr Band 1+ yn cymryd rhan. Ar ôl profi heriau ymddygiad sylweddol yn y gorffennol, dyma oedd ei gyfle cyntaf i deithio dramor, profi diwylliant gwahanol a chwrdd â phobl newydd. Cofleidiodd bob agwedd ar yr ymweliad gyda brwdfrydedd ac aeddfedrwydd, gan ennill hyder, annibyniaeth a balchder yn ei gyflawniadau. Dangosodd y profiad iddo nad oes rhaid i anawsterau’r gorffennol ddiffinio cyfleoedd yn y dyfodol. Roedd yn hyfryd gweld yr hyder, yr annibyniaeth a’r balchder a gafodd o gael y cyfle i lwyddo.
Pa effaith mae’r ymweliad wedi’i chael ar y disgyblion?
Mae effaith yr ymweliad wedi bod yn sylweddol ac mae’n parhau i fod yn weladwy ar ôl i ni ddychwelyd i Gymru.
I’n dysgwyr, y mae gan lawer ohonynt anghenion dysgu ychwanegol, roedd llwyddo i lywio amgylcheddau, arferion a sefyllfaoedd cymdeithasol anghyfarwydd yn gamp fawr. Heriodd y daith nhw mewn ffordd gadarnhaol a rhoddodd gyfleoedd iddyn nhw ddangos galluoedd na fydden nhw efallai wedi cael y cyfle i’w dangos mewn lleoliad mwy cyfarwydd.
Dychwelodd llawer o ddisgyblion adref gyda mwy o ymdeimlad o hunan-gred a balchder gwirioneddol yn yr hyn roedden nhw wedi’i gyflawni.
Ers dychwelyd, rydyn ni wedi gweld perthnasoedd cryfach o fewn y grŵp, gyda disgyblion yn dangos mwy o barch, dealltwriaeth a chefnogaeth i’w gilydd. Helpodd y profiadau i gryfhau cyfeillgarwch a gwaith tîm, gyda rhai disgyblion bellach yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cadarnhaol yn ystod a thu allan i wersi.
Mae’r daith hefyd wedi cael effaith barhaol ar sut mae disgyblion yn gweld cyfleoedd newydd. Mae llawer wedi siarad yn frwdfrydig am eu profiadau gydag aelodau o’r teulu ac wedi mynegi awydd i annog eu teuluoedd eu hunain i deithio a phrofi gwahanol ddiwylliannau. I rai, dyma oedd eu cyfle cyntaf i ymweld â gwlad arall, ac mae wedi eu hysbrydoli i ehangu eu gorwelion a meddwl yn fwy cadarnhaol am y byd y tu hwnt i’w cymuned leol.
Ydy’r profiad wedi cael effaith barhaol ar yr ysgol?
Yn hollol.
Roedd manteision y symudedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r disgyblion a gymerodd ran. Fel staff, cawsom ddatblygiad proffesiynol gwerthfawr drwy arsylwi gwahanol arferion addysgu a chyfnewid syniadau gyda chydweithwyr yn yr Iseldiroedd.
Ers dychwelyd, rydyn ni wedi bod yn rhannu’r hyn ddysgon ni drwy gyflwyniadau, cynnwys cyfryngau cymdeithasol a fideo YouTube, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd rhyngwladol ar draws cymuned ehangach ein hysgol.
Fyddech chi’n argymell cyfnewid dysgu rhyngwladol i ysgolion eraill?
Byddwn yn sicr.
Cafodd y symudedd hwn a ariannwyd gan Taith effaith ddofn ar ein disgyblion. I lawer, dyma oedd eu profiad cyntaf o deithio dramor, ac fe ddychwelon nhw gyda mwy o hyder, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ehangach a theimlad gwirioneddol o gyflawniad.
Mae cyfnewidiadau rhyngwladol yn cynnig cymaint mwy nag ymweliad â gwlad arall. Maen nhw’n darparu cyfleoedd ar gyfer twf personol, annibyniaeth, cyfeillgarwch a dysgu na ellir eu hailgreu mewn ystafell ddosbarth.
I’n disgyblion, dangosodd y profiad eu bod nhw’n gallu gwneud llawer mwy na bydden nhw wedi’i gredu. I’r staff, rhoddodd ddysgu proffesiynol ac ysbrydoliaeth werthfawr. I’r ysgol gyfan, mae hyn wedi cryfhau ein hymrwymiad i ddarparu profiadau rhyngwladol ystyrlon i’n dysgwyr.
Erbyn diwedd yr ymweliad, roedd pob disgybl yn nodi eu bod yn teimlo’n “hapus iawn” am eu profiad – rhywbeth sy’n dweud llawer am yr effaith gadarnhaol a gafodd y symudedd ar y grŵp.
Fel y crynhodd un disgybl y daith,
Roedd yn brofiad epig.
Mae’r sylw syml ond pwerus hwn yn crynhoi’r effaith a gafodd yr ymweliad ar y bobl ifanc a oedd yn rhan o’r daith. Wrth fyfyrio ar y daith, nododd ddau uchafbwynt penodol: hedfan ar awyren am y tro cyntaf a theithio ar y Bws Dŵr. Gan nad oedd erioed wedi hedfan o’r blaen, roedd y cyfle i fynd ar awyren, profi hedfan a gweld y byd uwchben y cymylau yn rhywbeth a ddisgrifiodd fel rhywbeth cyffrous ac anghofiadwy. Roedd y Bws Dŵr yn foment unigryw arall, gan gynnig profiad arbennig nad oedd llawer o’r disgyblion erioed wedi’i brofi o’r blaen.
Mae ei frwdfrydedd wrth siarad am y profiadau hyn yn dangos faint roedd y daith yn ei olygu iddo fe. Fel llawer o’r disgyblion, dychwelodd e gyda mwy o hyder, persbectif ehangach ar y byd ac atgofion a fydd yn aros gydag ef am flynyddoedd i ddod. Mae ei glywed yn disgrifio’r ymweliad fel “profiad epig” yn tynnu sylw at werth darparu cyfleoedd sy’n caniatáu i bobl ifanc gamu tu allan i’w parthau cysur, rhoi cynnig ar bethau newydd a chreu atgofion gydol oes.