Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 2 - Partneriaeth a Chydweithio Strategol - 2024

Canllaw Rhaglen Fersiwn 1.0, Hyd 2024

Geirfa

Allbwn y prosiect
Adnodd/deunydd/syniad diriaethol sy’n cael ei ddatblygu o ganlyniad i’r bartneriaeth gydweithredol ryngwladol a fydd yn cael ei rannu/ledaenu ar draws y sector(au).
Consortiwm
Dau neu ragor o sefydliadau sy'n cydweithio i ddatblygu a chyflawni prosiect neu weithgaredd o fewn prosiect.
Costau cymwys
Swm y grant (sy'n seiliedig fel arfer ar gyfradd grant) sy'n gysylltiedig â chynnal gweithgareddau prosiect.
Cyfraddau grant
Cyfraddau sefydlog sydd ar gael ar gyfer costau cymwys gwahanol.
Cyfranogwr
Unigolyn sy'n ymgymryd â symudedd rhyngwladol corfforol neu rhithwir mewn prosiect a ariennir gan Taith.
Cyfranogwr difreintiedig
Cyfranogwyr sy'n cael eu hystyried dan anfantais yn unol ag un neu ragor o feini prawf Taith a byddant yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol.
Cyllid dwbl
Ariennir y costau ar gyfer yr un gweithgaredd ddwywaith drwy ddefnyddio arian cyhoeddus. Er eglurder, ni chaniateir hyn ac ystyrir ei fod yn torri telerau ac amodau'r Cytundeb Grant.
Cyllideb prosiect
Cyfanswm yr arian a ddyrannwyd ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt o fewn prosiect a ariennir gan Taith.
Cynrychiolydd cyfreithiol
Y person sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i gynrychioli sefydliad ac sydd â'r awdurdod cyfreithiol i ymrwymo i gontract cyfreithiol rhwymol, gan gynnwys, yng nghyd-destun Taith, yr awdurdod i lofnodi Cytundeb Grant.
Cytundeb Grant
Y cytundeb ysgrifenedig rhwng Taith a'r Derbynnydd Grant yn manylu ar delerau ac amodau'r dyfarniad cyllid a fydd wedi'i asesu i fod yn gyllidadwy ac wedi'i chymeradwyo i'w hariannu gan y pwyllgor perthnasol.
Derbynnydd Grant
Pan gaiff ei gymeradwyo ar gyfer cyllid prosiect, daw'r sefydliad sy'n gwneud cais yn Dderbynnydd Grant.
Dyddiad cau
Y dyddiad a'r amser terfynol ar gyfer cyflwyno'r holl ffurflenni cais ac offer cyfrifo i dîm Taith i'w hasesu.
Galwad am gyllid
Y cyfnod o amser pryd y gellir cyflwyno ceisiadau am gyllid.
Grant
Y cyllid a ddyfernir gan Taith i sefydliad llwyddiannus sy’n gwneud cais.
Gweithgaredd cymwys
Gweithgaredd sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yng Nghanllawiau Rhaglen Taith.
Gweithgareddau lledaenu
Y gweithgareddau a ddefnyddir i rannu allbwn y prosiect gyda sefydliadau/sector(au) eraill.
Gweithgareddau partner rhyngwladol
Y gweithgareddau a wneid gan y partner(iaid) rhyngwladol o dan unrhyw un o’r mathau o weithgareddau cymwys.
Partneriaeth
Cytundeb ffurfiol rhwng dau neu ragor o sefydliadau i gymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Taith ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu ar y cyd.
Person sy’n gwmni
Oedolyn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, aelodau staff y sefydliad sy’n gwneud cais, sy’n mynd gyda chyfranogwyr mewn gweithgaredd symudedd ac yn cefnogi cyfranogwyr i sicrhau eu bod yn cael y budd mwyaf o’r gweithgareddau. Dylai gweithiwr proffesiynol cymwysedig ddod gyda grwpiau o gyfranogwyr i gefnogi a hwyluso dysgu.

Prosiect
Gweithgareddau wedi'u trefnu a'u cynllunio y cytunir arnynt er mwyn cyflawni amcanion a chanlyniadau clir.

Rhyngwladol
Yng nghyd-destun Taith, unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Sefydliad cymwys
Sefydliad sy'n gallu gwneud cais am gyllid Taith.

Sefydliad partner
Term generig ar gyfer unrhyw sefydliad sy'n ymwneud yn ffurfiol â phrosiect a ariennir gan Taith, lle mae perthynas neu ryngweithio’n rhan o’r prosiect. Gall gynnwys y sefydliadau hynny a nodwyd fel sefydliad sy’n gwneud cais, cydlynydd, sefydliad sy'n derbyn neu sefydliad sy'n anfon yn ogystal ag eraill sy'n ymwneud â chyflawni'r prosiect.
Sefydliadau partner rhyngwladol
Sefydliadau sydd wedi'u cofrestru ac sy’n gweithredu y tu allan i'r DU ac yn anfon cyfranogwyr i sefydliad lletyol yng Nghymru yn ystod symudedd corfforol. Diffinnir sefydliadau anfon cymwys yn adrannau sector-benodol Canllawiau'r Rhaglen.
Sefydliad sy’n derbyn
Pan fydd unigolion neu grwpiau'n cymryd rhan mewn gweithgaredd wyneb yn wyneb drwy Taith, y sefydliad sy'n derbyn fydd eu sefydliad lletyol. Gellir cyfeirio at y sefydliad hwn yn aml fel lletywr neu sefydliad rhyngwladol. Diffinnir sefydliadau derbyn cymwys yng nghanllawiau'r rhaglen.
Sefydliad sy'n gwneud cais
Y sefydliad yng Nghymru sy'n cyflwyno cais am gyllid i Taith. Gall sefydliad sy'n gwneud cais wneud hynny naill ai'n unigol neu ar ran consortiwm, sy'n cynnwys sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r prosiect.
Symudedd allanol
Cyfranogwyr o sefydliadau cymwys yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a gefnogir gan Taith mewn sefydliadau sy'n derbyn y tu allan i'r DU (neu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, y tu allan i Gymru mewn sefydliadau sy'n derbyn yng ngweddill y DU).
Symudedd mewnol
Cyfranogwyr o sefydliadau anfon cymwys sy'n dod i Gymru i gymryd rhan yn un o raglenni Taith.
Teithio gwyrdd
Dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, h.y. teithio sy'n defnyddio dulliau trafnidiaeth ag allyriadau isel ar gyfer prif ran y daith. Er enghraifft, bysiau, trenau neu rannu ceir.