2. Pwy all ymgeisio a chymryd rhan yn Llwybr 2
![](https://www.taith.cymru/wp-content/uploads/2024/09/pw2-chapters.jpg)
Mae cyllid Llwybr 2 ar gael ar gyfer y sectorau canlynol:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach (AB) ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG)
Nid yw sefydliadau Addysg Uwch yn gymwys i wneud cais am/derbyn cyllid ond gallant fod yn rhan o brosiect Llwybr 2 fel partner heb ei ariannu.
Gall sefydliadau gyflwyno un cais fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu yn cael eu cyflwyno gan wahanol bartïon yn yr un sefydliad. Lle mae sefydliadau’n gweithio ar draws mwy nag un sector, gallant gyflwyno un cais fesul sector, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.
2.1. Sefydliadau / cyfranogwyr cymwys
Isod, mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob sector, ynghyd â chymhwysedd y cyfranogwr o fewn y sector hwnnw. Cynghorir pob sefydliad i wirio eu bod nhw’n gymwys i wneud cais cyn cyflwyno cais ac i gysylltu â thîm Taith os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.
Ysgolion
Sefydliadau cymwys i wneud cais :
- Unrhyw ysgol sy’n cael ei hariannu neu ei chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 19 oed ac a arolygir gan ESTYN;
- Unrhyw ysgol annibynnol nid-er-elw lle mae pob disgybl yn cael ei dderbyn drwy atgyfeiriad gan awdurdod lleol, gweithiwr cymdeithasol, neu elusen berthnasol, ac sy’n gweithredu yng Nghymru, gan ddarparu addysg i blant a phobl ifanc 4 – 19 oed;
- Unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru;
- Unrhyw un o’r 4 Consortiwm Addysg Rhanbarthol
- Consortiwm sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o sefydliadau ym maes addysg ysgolion. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol a enwir sy’n cael ei hariannu a’i chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff cydgysylltu ysgolion neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill nid-er-elw sydd â rôl yn y maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu hariannu neu eu cynnal gan awdurdod lleol a’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu ohoni. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm.
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer.
Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.
Cyfranogwyr cymwys
Staff/Pobl sy’n gwmni:
Staff ysgol addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, arweinwyr ysgol ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion yng Nghymru (er enghraifft staff sy’n gweithio i gonsortiwm addysg neu awdurdod lleol).
Dysgwyr:
Pob dysgwr wedi cofrestru mewn ysgol Gymreig gymwys, fel y’i diffinnir yn yr adran ‘Sefydliadau cymwys i wneud cais’
2.2. Sefydliadau partner rhyngwladol
Mae egwyddorion dwyochredd a dysgu ar y cyd yn ganolog i Taith. Gall sefydliadau sy’n gwneud cais am Taith Llwybr 2 wneud cais am arian ar gyfer gweithgareddau’r partner rhyngwladol. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo fel uchafswm o 30% o gyfanswm cyllideb prosiect.
Mae’n ddisgwyliad cyffredinol y bydd Derbynwyr Grant yn partneru â sefydliadau rhyngwladol sy’n gweithredu ym maes addysg (ffurfiol, anffurfiol neu heb fod yn ffurfiol). Fel rhan o’r broses ymgeisio, mae’n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu cyfiawnhad manwl o’u partner(iaid) rhyngwladol. Gall sefydliadau nad ydynt yn gweithio o fewn y maes addysg hefyd fod yn gymwys os darperir cyfiawnhad manwl.
Bydd cyllid ar gyfer gweithgareddau’r partner rhyngwladol yn cael ei gynnwys yn y dyfarniad grant i sefydliadau llwyddiannus sy’n ymgeisio yng Nghymru, a’u cyfrifoldeb nhw fydd gweinyddu’r cronfeydd hyn i, ac ar ran y partner(iaid) rhyngwladol. Mae gweithgareddau cymwys ar gyfer partneriaid rhyngwladol yr un fath ag ar gyfer y sefydliad sy’n gwneud cais.