5. Asesu
Er mwyn cael ei ystyried am gyllid, rhaid i sefydliad sy’n gwneud cais ddangos yn ei gais sut mae ei brosiect arfaethedig yn bodloni nod cyffredinol Llwybr 2: Cefnogi arloesedd addysgol yng Nghymru.
Bydd y broses asesu yn galluogi Taith i werthuso ansawdd y prosiectau arfaethedig a sefydlu canlyniad cyffredinol ar gyfer pob cais. Bydd pob cais yn cael ei asesu ar sail y meini prawf isod
- Mae’r prosiect yn cyd-fynd â nod Llwybr 2;
- Mae’r prosiect yn cyd-fynd ag o leiaf un thema Llwybr 2;
- Mae angen a chyfiawnhad clir ar gyfer y prosiect;
- Mae tystiolaeth glir bod sgiliau, profiad a gwybodaeth benodol y partner rhyngwladol yn hanfodol i gyflawni’r prosiect a chreu allbwn y prosiect;
- Mae allbwn arfaethedig y prosiect wedi’i ddiffinio’n glir, yn briodol ac wedi’i gyfiawnhau;
- Mae’r gweithgareddau lledaenu arfaethedig wedi’u diffinio’n glir a’u cyfiawnhau;
- Mae manteision hirdymor y prosiect yn glir;
- Mae’r prosiect yn cyd-fynd ag amcan strategol Taith o sicrhau bod cyfnewidiadau yn cael yr effaith fwyaf;
- Mae’r prosiect yn werth am arian.
Rydyn ni am ariannu cynifer o brosiectau gwahanol â phosibl, ond mae cyllid Taith yn gyfyngedig. Gwnewch gais dim ond am y lefel o gyllid sy’n angenrheidiol i alluogi eich prosiect i fynd yn ei flaen.
Lle mae mwy o geisiadau na’r cyllid sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n dangos yr effaith bosibl fwyaf ar ddysgwyr a phobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol.