Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 2 - Partneriaeth a Chydweithio Strategol - 2024

Canllaw Rhaglen Fersiwn 1.0, Hyd 2024

4. Ceisio am Lwybr 2

4.1. Llinell amser

3ydd Hydref 2024: Agor galwad ariannu Llwybr 2 (2024).

21ain Tachwedd 2024, 12yp: Dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hasesu. 

Mawrth 2025: Anfonir hysbysiad o ganlyniadau i’r sefydliadau sy wedi ymgeisio.

1af Mai 2025: Gall prosiectau gychwyn.

4.2. Cyn i chi ymgeisio

Mae yna gwpl o gamau i’w dilyn cyn dechrau paratoi cais:

  • Cadarnhau bod y sefydliad yn gymwys i wneud cais. Gallwch weld cymhwysedd sefydliad ar gyfer pob sector yn adran 2.1
  • Darllenwch y canllaw hwn yn drylwyr, a gwnech yn siwr bod Llwybr 2 yn addas i’ch sefydliad a phrosiect arfaethedig. 
  • Gwirio bod gan y sefydliad ddigon o gapasiti ariannol a gweithredol (Canllaw cymhwysedd ar gyfer Ysgolion, Colegau ac Awdurdodau Lleol a hefyd Canllaw cymhwysedd ar gyfer pob sefydliad arall)
  • Darllenwch y ddogfen gymorth Llwybr 2 – yno ceir y cwestiynau ansoddol fydd rhaid I chi ateb fel rhan o’r cais ynghyd â gwybodaeth ychwanegol. 
  • Edrychwch ar y meini prawf asesiad. Bydd eich cais yn cael ei asesu  ar sail y meini prawf hyn, felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n cyfeirio at bob un yn eich atebion i’r cwestiynau. 
  • Ymunwch â’n gweminarau neu wyliwch y recordiadau pwrpasol ar ein gwefan.
  • Cysylltu â thîm Taith os oes gennych chi unrhyw gwestiynau (ymholiadau@taith.cymru ) Rydyn ni bob tro’n barod i helpu!

4.3. Llenwi ffurflen gais

I wneud cais am gyllid ar gyfer Llwybr 2, rhaid i sefydliadau ddefnyddio ffurflen gais Llwybr 2 a chyfrifydd grant sydd ar gael ar wefan Taith.

Mae’r ffurflen gais yn gofyn am ymatebion naratif i ystod o gwestiynau gan gynnwys crynodeb o’r prosiect, manylion y gweithgareddau arfaethedig ac allbwn y prosiect, sut y caiff y dysgu ei ledaenu, rheolaeth prosiect ac ariannol, a sut a pham y dewiswyd partneriaid rhyngwladol. Mae’r cwestiynau, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ategol, i’w gweld yma

Bydd hefyd yn ofynnol i sefydliadau sy’n gwneud cais gwblhau cyfrifydd grant, a fydd yn cyfrifo cyfanswm y grant y gofynnir amdano yn seiliedig ar y gweithgareddau amrywiol y gwneir cais amdanynt. Yr uchafswm y gallwch wneud cais amdano fesul prosiect yw £60,000. Bydd angen i sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn am gyllid cyfatebol ar gyfer gweithgareddau partner rhyngwladol yn y cyfrifydd grant. Mae cyllid ar gyfer partneriaid rhyngwladol hyd at 30% o gyfanswm y grant y gofynnir amdano.

Dim ond un cais y gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw nifer o geisiadau i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan wahanol bartïon yn yr un sefydliad.

Byddwn yn cynnal amrywiaeth o weminarau i roi cyngor a chymorth i ddarpar ymgeiswyr ar y broses ymgeisio a chyfrifydd grantiau. Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn ar wefan Taith. Os ydych am gael sgwrs 1-1 gydag aelod o’r tîm cysylltwch â ni ar ymholiadau@taith.cymru