Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 2 - Partneriaeth a Chydweithio Strategol - 2024

Canllaw Rhaglen Fersiwn 1.0, Hyd 2024

Atodlen 1 – Categorïau grwpiau gwledydd / tiriogaethau

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn derbyn cyllid tuag at ddarparu symudeddau rhyngwladol, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth i gyfranogwyr i dalu costau byw mewn gwlad gyrchfan. 

Mae gwledydd cyrchfan yn cael eu dosbarthu yn dri grŵp gwlad yn seiliedig ar eu costau byw cymharol. Ar gyfer y symudedd, bydd cyfranogwyr yn derbyn y swm cynhaliaeth perthnasol (a gyfrifir fel cyfradd ddyddiol), yn dibynnu ar gyfanswm hyd symudedd a gwlad gyrchfan. 

Gofynnir i sefydliadau sy’n gwneud cais nodi cyfanswm nifer y symudedd a ragwelir fesul gwlad gyrchfan a chânt eu grwpio i’r tri chategori canlynol: 

  • Grŵp 1 (Costau byw uwch) 
  • Grŵp 2 (Costau byw canolig) 
  • Grŵp 3 (Costau byw is) 

Bydd Cymru (at ddibenion symudedd mewnol) a’r DU (mewn achosion lle caniateir symudedd domestig) yn cael eu dosbarthu fel gwledydd Grŵp 1 i adlewyrchu costau byw uwch yn y Deyrnas Unedig.  

Mae rhaglen Taith yn agored i bob gwlad yn y byd, ond rhaid dilyn cyngor teithio gan lywodraeth y DU Foreign, Commonwealth and Development Office (FCDO).

Gweler isod ddosbarthiad llawn ar gyfer pob gwlad neu ranbarth: 


Grŵp 1

Grŵp 2

Grŵp 3

Awstralia
Awstria
Barbados
Bermwda
Canada
Denmarc
Ffrainc
Gwlad Belg
Gwlad yr Iâ
Hong Kong
Iwerddon
Israel
Lwcsembwrg
Macao
Norwy
Qatar
Seland Newydd
Seychelles
Siapan
Singapore
Sweden
Unol Daleithiau America
Y Bahamas
Y Ffindir
Y Swistir
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
Yr Iseldiroedd

Antarctica ac Ynysoedd y De (heb ei nodi fel arall)
Affrica (heb ei nodi fel arall)
Asia (heb ei nodi fel arall)
Canolbarth America (heb ei nodi fel arall)
De America (heb ei nodi fel arall)
Ewrop (heb ei nodi fel arall)
Bahrain
Belize
Cambodia
Croatia
Ciwba
Cyprus
De Affrica
De Korea
Estonia
Ethiopia
Gwlad Groeg
Iwrwgwai
Jamaica
Kuwait
Latfia
Libanus
Maldives
Malta
Namibia
Nigeria
Oman
Palesteina
Panama
Portiwgal
Puerto Rico
Sbaen
Senegal
Slofacia
Slofenia
Taiwan
Trinidad a Tobago
Yr Eidal
Y Traeth Ifori
Y Weriniaeth Tsiec
Yr Almaen

Albania
Algeria
Armenia
Azerbaijan
Bangladesh
Bolivia
Bosnia a Herzegovina
Botswana
Brasil
Bwlgaria
Camerŵn
Colombia
Costa Rica
Ecwador
El Salvador
Eswatini
Feneswela
Fietnam
Ffiji
Georgia
Ghana
Gogledd Macedonia
Gweriniaeth Dominica
Gwlad Pwyl
Gwlad Thai
Hondwras
Hwngari
India
Indonesia
Iran
Irac
Kazakhstan
Kenya
Kosovo
Lesotho
Lithwania
Malaysia
Mauritius
Mecsico
Moldofa
Mongolia
Montenegro
Morocco
Myanmar
Nepal
Nicaragwa
Pacistan
Paragwai
Periw
Rwmania
Rwanda
Serbia
Somalia
Sri Lanka
Syria
Tanzania
Tsieina
Tsile
Twnisia
Twrci
Uzbekistan
Wganda
Yr Ariannin
Ynysoedd Philippines
Zambia
Zimbabwe