3. Gwybodaeth am y Llwybr

3.1. Hyd prosiectau
Hyd prosiectau ar gyfer pob prosiect Llwybr 2 yw:
- 12 mis
- 18 mis
- 24 mis
3.2. Cyllid
Ni chaniateir ail-ariannu gweithgareddau a ariannwyd eisoes drwy raglenni ariannu cenedlaethol neu ryngwladol eraill. Fodd bynnag, caniateir cyd-ariannu gweithgareddau gyda rhaglenni eraill. Lle caiff prosiectau eu hariannu ar y cyd, dylai sefydliadau sy’n gwneud cais ddarparu manylion y trefniadau hyn yn eu ffurflen gais.
Cyllideb ar gael fesul sector:
Sector | Cyllideb ddangosol ar gael |
---|---|
Ysgolion | £280,000 |
Ieuenctid | £126,000 |
Addysg Oedolion | £84,000 |
AB & AHG | £170,000 |
Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith, ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu nifer ac ystod o sefydliadau mor eang â phosibl. O’r herwydd, uchafswm y dyfarniad ar gyfer pob prosiect Llwybr 2 fydd £60,000. Wrth lenwi’r ffurflen gais a’r cyfrifydd grant, sicrhewch nad yw cyfanswm y cais am grant yn fwy na £60,000, ac nad yw’r swm y gofynnir amdano ar gyfer eich partner(iaid) rhyngwladol yn fwy na 30% o gyfanswm y cais am grant. Ceir gwybodaeth am sut i wneud cais yn adran 4.
3.3. Themâu
Rhaid i brosiectau Llwybr 2 alinio ag o leiaf un o themâu Taith. Isod mae’r themâu ar gyfer galwad ariannu Llwybr 2 (2024):
Datblygiadau mewn addysg
Dylai prosiectau o dan y thema hon cydfynd â datblygiadau perthnasol sy’n digwydd o fewn sector y sefydliad sy’n gwneud cais:
- Cwricwlwm i Gymru.
- Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a’r argymhellion a nodir yn ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’.
- Medr (gan gynnwys y blaenoriaethau a’r dyletswyddau strategol ar gyfer y sector Addysg Oedolion).
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gallai enghreifftiau o fewn y thema hon gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- Dwyieithrwydd, amlieithrwydd a diwylliant Cymru
- Hunaniaeth a pherthyn
- Anghydraddoldeb, mynediad a chynhwysiant cymdeithasol
Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd
Gallai enghreifftiau o fewn y thema hon gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- Datblygiadau ym maes addysg newid yn yr hinsawdd
- Arferion gwyrdd / economi werdd
- Materion gwledig
- Datgarboneiddio
- Addasu a Lliniaru
Bydd themâu yn cael eu gosod yn flynyddol a gallant newid yn y blynyddoedd i ddod.
3.4. Allbynau prosiectau
Ffocws Llwybr 2 yw creu allbynnau prosiect mesuradwy o ansawdd uchel sy’n cael effaith, sydd o werth i sefydliadau eraill a’r sector(au) ledled Cymru.
Mae Taith yn agored i arloesi a syniadau newydd ac yn croesawu ac yn annog sefydliadau sy’n ymgeisio i gynnig allbynnau prosiect sy’n gweithio orau iddyn nhw a’u sector. Gall allbynnau prosiect fod mewn amrywiaeth o fformatau gwahanol megis ysgrifenedig, gweledol, fideo, gweithdai ac ati. Gallai enghreifftiau o allbynnau prosiect gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Modelau neu ddulliau newydd.
- Adnoddau / pecynnau cymorth.
- Hyfforddiant/deunyddiau addysgol.
- Adnoddau digidol/allbynnau.
3.5. Lledaenu
Agwedd allweddol ar Lwybr 2 yw’r gofyniad i allbynnau prosiect gael eu rhannu a’u lledaenu. Bydd angen i sefydliadau sy’n gwneud cais ddangos yn glir sut y maent yn bwriadu rhannu canlyniadau eu prosiect, a gyda phwy. Rhaid i weithgarwch lledaenu fod yn briodol ac yn hygyrch i’r sector(au), ac yn berthnasol i fformat a bwriad allbwn y prosiect. Gallai enghreifftiau o weithgareddau lledaenu gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Digwyddiad/cynhadledd/gweithdy
- Rhannu adnoddau trwy blatfform ar-lein, neu drwy ap (* noder, ni fydd cyllid ar gyfer adnodd o’r fath lle codir ffi flynyddol yn cael ei gwmpasu gan Taith)
- Sesiynau hyfforddi ar gyfer unigolion/sefydliadau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r thema/themâu a ddewiswyd
3.6. Gweithgareddau a chostau cymwys
Bydd Llwybr 2 yn ariannu gweithgareddau sy’n arwain at greu, datblygu a lledaenu allbynnau prosiect sy’n mynd i’r afael ag un neu fwy o themâu Taith. Mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu cydweithrediadau strategol, ac felly rhaid i geisiadau ddangos yn glir sut y bydd partneriaid Cymreig a rhyngwladol yn cydweithio i gyflawni nod cyffredin.
Mae sefydliadau partner rhyngwladol yn gymwys i dderbyn hyd at 30% o gyfanswm y grant y gofynnir amdano.
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais ddarparu manylion a chyfiawnhad clir yn y ffurflen gais am y cyllid y gofynnir amdano ar gyfer pob un math o weithgaredd, ac yn gyffredinol. Ariennir Taith yn llawn gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n hanfodol bod yr holl gostau yn werth am arian, yn cael eu hesbonio’n glir a’u cyfiawnhau.
Manylir ar weithgareddau cymwys isod. Os oes gennych chi gwestiynau am y gweithgareddau cymwys neu eisiau gwirio bod y gweithgareddau neu’r costau rydych chi’n eu cynllunio yn gymwys, cysylltwch â’r tîm ar ymholiadau@taith.cymru
Symudedd (allanol a mewnol)
Mae cyllid ar gael ar gyfer teithio rhyngwladol i staff a dysgwyr i wlad bartner, ac i’r partner(iaid) rhyngwladol deithio i Gymru.
Rhaid i nifer y cyfranogwyr mewnol o’r partner rhyngwladol fod yn gyfartal neu’n llai na nifer y cyfranogwyr allanol o Gymru.
Rydym yn annog symudedd rhyngwladol ar gyfer staff a dysgwyr, ond rhaid darparu cyfiawnhad clir dros eu cyfranogiad.
Ar gyfer symudedd staff, rhaid i chi ddarparu sail resymegol glir ar gyfer cynnwys pob aelod o staff a’r hyn y byddant yn ei gyfrannu at ddatblygiad y prosiect ac allbwn y prosiect. Lle mae symudedd lluosog gan staff wedi’u cynnwys, mae’n arbennig o bwysig bod yn glir ynghylch rolau pob un cyfranogwr, a pham mae eu cyfranogiad yn hanfodol i’r prosiect.
Gall dysgwyr gymryd rhan mewn symudiadau grŵp yn unig, nid yw symudedd dysgwyr unigol yn gymwys. Lle cynhwysir grŵp o ddysgwyr, dylid rhoi esboniad clir o pam mae eu cyfraniad i’r prosiect yn hanfodol i ddatblygiad y prosiect.
Y cyfnodau symudedd cymwys i staff a dysgwyr yw o leiaf 2 ddiwrnod ac uchafswm o 28 diwrnod. Mae ymweliadau paratoadol byr yn gymwys lle mae angen asesiadau risg cyn symudedd dysgwyr, neu rai sy’n ymwneud â staff anabl neu staff ag anghenion dysgu ychwanegol. Hyd ymweliadau paratoadol yw o leiaf 2 ddiwrnod ac uchafswm o 7 diwrnod. Os ydych yn gwneud cais am ymweliad paratoadol, dylech ddarparu manylion y cyfnod arfaethedig, ynghyd â chyfiawnhad clir pam mae angen ymweliad paratoadol, ar y ffurflen gais.
Dyfernir cyllid ar sail cost uned ar gyfer teithio a chynhaliaeth fesul cyfranogwr. Mae cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cynnwys cyfranogwyr Anabl, cyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a chyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig. Mae rhagor o wybodaeth a meini prawf cymhwysedd yn ymwneud â’r costau cynhwysiant hyn i’w gweld isod.
Nid yw symudedd corfforol yn un o ofynion Llwybr 2. Lle nad ydynt wedi’u cynnwys, bydd angen i geisiadau ddarparu sail resymegol glir ar gyfer hyn a darparu tystiolaeth fanwl sy’n dangos sut y caiff y partneriaethau eu datblygu, a’r allbynnau a grëir, drwy ddulliau eraill.
Mae cyfraddau grant ar gyfer symudedd i’w gweld isod:
Cynhaliaeth
Grant ar gyfer costau byw, a all gynnwys llety, bwyd, a chludiant lleol tra ar symudedd corfforol.
Cyfrifir cyllid fel cyfradd ddyddiol fesul cyfranogwr. Bydd y gyfradd ddyddiol yn lleihau po hiraf y symudedd, gyda chyfraddau gwahanol yn berthnasol am 1-14 diwrnod a 15-28 diwrnod.
Ni fydd cyfranogwyr yn derbyn cyllid cynhaliaeth ar gyfer symudedd rhithwir.
Staff a pherson sy’n gwmni | Dysgwyr | |
---|---|---|
Cyfradd ddyddiol (£) gwlad grwp 1 / 2 / 3 | Cyfradd ddyddiol (£) gwlad grwp 1 / 2 / 3 | |
1-14 diwrnod | 85 / 75 / 65 | 75 / 65 / 55 |
15-28 diwrnod | 60 / 50 / 40 | 50 / 40 / 35 |
Teithio
Cyfraniad at gost teithio ar gyfer symudedd allanol a mewnol. Mae cyfraddau ariannu yn seiliedig ar y pellter rhwng Cymru a’r wlad bartner ryngwladol.
Math o gyfranogwr: Pawb
Cyfradd grant (£) | |
---|---|
Pellter | Cyfradd deithio |
100 – 499km | 150 |
500 – 1,999km | 230 |
2,000 – 2,999km | 300 |
3,000 – 3,999km | 450 |
4,000 – 7,999km | 700 |
8,000 – 12,000km | 1200 |
12,000km+ | 1400 |
Cymorth cynhwysiant:
(Pobl Anabl a gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY))
Mae cyfranogwyr sy’n Anabl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gymwys i gael cyllid ychwanegol i’w helpu i ymgymryd â symudedd (corfforol neu rithwir).
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.
Am fwy o wybodaeth, ewch i adran 3.7.
Math o gyfranogwr: Pawb | |
---|---|
Cyfradd grant (£) | 100% o gostau cymwys |
Cymorth cynhwysiant:
(Cyfranogwyr o gefndir difreintiedig )
Mae cyfranogwyr o gefndir difreintiedig yn gymwys i gael cyllid ychwanegol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â theithio i’w helpu i gymryd rhan mewn symudedd corfforol. Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â theithio yn cynnwys costau fisas, pasbortau, brechiadau, yswiriant iechyd, dillad a bagiau priodol, yn ôl yr angen.
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.
Am fwy o wybodaeth, ewch i adran 3.7.
Math o gyfranogwr: Pawb | |
---|---|
Cyfradd grant (£) | 100% o gostau cymwys yn ymwneud â chostau teithio eithriadol. |
Costau eithriadol:
(Teithio i ganolbwynt trafnidiaeth yn y DU)
Cyfraniad at gost teithio i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o symudedd rhyngwladol. Mae Taith yn diffinio canolbwynt trafnidiaeth yn y DU fel man ymadael y symudedd i’w gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau.
Mae cyllid ar gael ar gyfer symudedd grwpiau dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig.
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.
Math o gyfranogwr: | Cyfradd grant (£): |
---|---|
Dysgwyr | Symudedd grwpiau dysgwyr: £500 fesul symudedd, hyd at uchafswm o £1500 fesul prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol. |
Staff | Symudedd staff: mae cyfranogwyr o gefndir difreintiedig yn gymwys I dderbyn hyd at £100 fesul cyfranogwr fesul symudedd yn seiliedig ar gostau gwirioneddol. |
Teithio Gwyrdd
Gall cyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau teithio gwyrdd ar gyfer y daith gyfan (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais am gostau gwirioneddol y daith (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd deithio a ddyrannwyd). Bydd angen tystiolaeth o werth am arian fel rhan o’r cais hwn am gyllid ychwanegol.
Mae Teithio Gwyrdd ar gael ar gyfer pellteroedd rhwng 100km a 3999km.
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.
Math o gyfranogwr: Pawb | |
---|---|
Cyfradd grant (£) | 100% o gostau gwirioneddol |
3.7. Cymorth cynhwysiant
Mae cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cyfranogwyr sy’n wynebu rhwystrau ariannol i gyfranogiad. Mae dau fath o gymorth cynhwysiant ar gael – ar gyfer pobl Anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig. Mae’r cyllid hwn yn seiliedig ar gostau gwirioneddol, gyda’r bwriad o dalu’r gost lawn sy’n ymwneud â dileu’r rhwystr i gyfranogiad. Fel y cyfryw, disgwylir i Dderbynwyr Grant ddod o hyd i opsiynau sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u nodi. Bydd yn ofynnol i Dderbynwyr Grant wneud cais am gyllid trwy lenwi ffurflen gais yn manylu ar y costau gwirioneddol fesul cyfranogwr a chyfiawnhad.
Pobl Anabl a gydag anghenion dysgu ychwanegol
Mae cyllid ychwanegol ar gael i gyfranogwyr Anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol o hyd at 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer cymorth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u hanghenion ychwanegol.
Gall hyn gynnwys agweddau megis: ymweliadau paratoadol i gynnal asesiadau risg a sicrhau bod gan y lleoliad y mynediad a’r gefnogaeth angenrheidiol; ariannu aelodau staff ychwanegol i gefnogi cyfranogwyr; a/neu i dalu am offer/addasiadau/adnoddau angenrheidiol ar gyfer cyfranogiad.
Cyfranogwyr difreintiedig
Bydd cyfranogwyr sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig a byddant yn gymwys i gael cyllid ychwanegol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â theithio i’w cynorthwyo i ymwneud â symudedd corfforol.
- Cyfranogwyr gyda chyfanswm incwm cartref o dan £26,225.
- Cyfranogwyr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau yn ymwneud ag incwm yn eu henw eu hunain.
- Dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyda phrawf modd.
- Dysgwyr sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi bod neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd neu o gefndir derbyn gofal ar unrhyw adeg o’u bywyd, ni waeth pa mor fyr, gan gynnwys plant mabwysiedig a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol neu’r rhai sy’n defnyddio Bwrsariaeth Profiad o Ofal mewn rhannau eraill o y DU.
- Cyfranogwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blentyn anabl, neu oedolyn sydd, oherwydd y salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu gaethiwed, yn methu ymdopi heb eu cefnogaeth.
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
- Myfyrwyr sydd wedi dieithrio.
Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â theithio yn cynnwys costau fisas, pasbortau, brechiadau, yswiriant iechyd, dillad a bagiau priodol, yn ôl yr angen.