Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 2 - Partneriaeth a Chydweithio Strategol - 2024

Canllaw Rhaglen Fersiwn 1.0, Hyd 2024

1. Cyflwyniad i Lwybr 2

Mae Llwybr 2 yn cefnogi arloesedd addysgol yng Nghymru. Mae cyfnewid rhyngwladol yn galluogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau Cymreig a rhyngwladol, i ddatblygu theori ac ymarfer mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Mae’r llwybr hwn yn ariannu partneriaethau cydweithredol rhyngwladol a arweinir gan Gymru i ddatblygu allbwn prosiect sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Dylai ceisiadau prosiect nodi’n glir y bwlch, y mater neu’r flaenoriaeth sector y bydd y prosiect yn ceisio mynd i’r afael ag ef ac egluro sut y bydd allbwn arfaethedig y prosiect yn datblygu ac yn ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion ar draws y sector.

Yn ogystal â mynd i’r afael ag angen penodol, rhaid i allbwn y prosiect fod o ansawdd uchel ac o werth i sefydliadau eraill a’r sector(au) yn ehangach. Mae pob galwad ariannu Llwybr 2 wedi nodi themâu, gan sicrhau bod prosiectau a’u hallbynnau yn cyd-fynd â blaenoriaethau a pholisïau Cymreig yn y sectorau addysg ac ieuenctid, a galluogi dysgu traws-sector pellach trwy greu rhwydweithiau o brosiectau sy’n seiliedig ar themâu cyffredin. Ceir rhagor o fanylion am themâu Llwybr 2 2024 yn adran 3.3.

Trwy gymryd rhan ym mhrosiectau Llwybr 2, bydd cydweithio rhyngwladol a chyfleoedd dysgu yn galluogi staff a dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth a’u defnydd o thema neu destun allweddol. Drwy gynhyrchu a lledaenu allbwn, bydd prosiectau Llwybr 2 yn creu buddion hirdymor ehangach i sefydliadau sy’n cymryd rhan, i sector(au) yr ymgeisydd ac i Gymru a’r wlad/gwledydd partner rhyngwladol. Bydd y prosiectau hyn felly’n cyfrannu at hyrwyddo nodau rhaglen Taith a/neu’n cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiadau polisi mewn sectorau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Mae Taith wedi ymrwymo i wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl a dangynrychiolir yn flaenorol mewn cyfnewid rhyngwladol i gael mynediad at gyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae symudedd yn elfen allweddol o weithgaredd Llwybr 2, ond nid buddion symudedd i gyfranogwyr unigol yw ffocws prosiectau Llwybr 2.  Yn lle hynny, mae symudeddau’n cefnogi datblygu a chwblhau allbwn y prosiect. Mae staff a dysgwyr yn gymwys ar gyfer teithio rhyngwladol, ar yr amod bod y symudeddau hyn yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad y prosiect. Ceir rhagor o fanylion am weithgareddau a chostau Llwybr 2 cymwys yn adran 3.6.

Bwriad cyllid Llwybr 2 yw cefnogi prosiectau na fyddent yn bosibl heb fewnbwn ac arbenigedd gan sefydliadau partner rhyngwladol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr nodi’n glir ar y ffurflen gais sut y bydd y partner(iaid) rhyngwladol yn cyfrannu at ddatblygiad y prosiect mewn ffyrdd na allai sefydliadau yng Nghymru wneud hynny.

Rhaid enwi pob partner (Cymreig a rhyngwladol) ar eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Lwybr 2, neu os ydych am wirio ai hwn yw’r llwybr ariannu cywir ar gyfer eich sefydliad a’ch prosiect arfaethedig, cysylltwch â’r tîm. Rydyn ni bob amser yn hapus iawn i helpu – ymholiadau@taith.cymru