Ardal derbynwyr grantiau
Croatia

Awdurdod Lleol Gwynedd yn grymuso pobl ifanc i lunio eu cymuned leol

Rhannwch hyn!
Grŵp o bobl ifanc o Llais Ni ac arweinwyr prosiect wedi ymgynnull tu allan i adeilad cymunedol yn ystod ymweliad cyfnewid rhyngwladol â Croatia.

Drwy brosiect symudedd a ariannwyd gan Taith, teithiodd pobl ifanc o Wynedd i Croatia i archwilio sut gall pobl ifanc chwarae rhan weithredol wrth lunio penderfyniadau a chreu newid cadarnhaol yn eu cymunedau. Fel aelodau o Llais Ni, cynllun sy’n annog pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithredol ac arweinwyr cymunedol, cyfarfu cyfranogwyr â sefydliadau ieuenctid, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i ddysgu am ddulliau arloesol o gyfranogiad ieuenctid, llywodraethu ac arweinyddiaeth.

Wedi’i gynllunio gyda chynhwysiant wrth ei wraidd, cefnogodd y prosiect bobl ifanc o ystod o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddatblygu hyder, sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth wrth ehangu eu gorwelion drwy ddysgu rhyngwladol. Heriodd y profiad ganfyddiadau, cododd ddyheadau a helpodd gyfranogwyr i gydnabod eu potensial eu hunain fel arweinwyr a gwneuthurwyr newid. Ar ôl dychwelyd i Gymru, maent wedi rhannu eu dysgu gyda chyfoedion, grwpiau cymunedol a gwneuthurwyr penderfyniadau, gan helpu i adeiladu diwylliant mwy cynhwysol o gyfranogiad ieuenctid ledled Gwynedd.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.