Ardal derbynwyr grantiau
Sbaen

Disgyblion Ysgol Alexandra nad oedd erioed wedi teithio tu hwnt i Wrecsam yn meithrin hyder, ehangu eu gorwelion a gweld y byd trwy lens newydd

Rhannwch hyn!
Grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Alexandra ar draeth yn Barcelona yn dal baner Cymru, yn cymryd rhan mewn prosiect symudedd rhyngwladol a ariennir gan Taith.

Ym mis Mawrth 2026, aeth Ysgol Alexandra â grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 6 o Wrecsam i Barcelona trwy brosiect a ariannwyd gan Taith gyda’r amcan o ddatblygu hyder, chwilfrydedd, sgiliau cyfathrebu a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Mae llawer o’r bobl ifanc hyn yn wynebu rhwystrau sylweddol ac doedden nhw erioed wedi teithio tu hwnt i’w hardal leol. I rai, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw adael Wrecsam, hedfan ar awyren, ymweld â gwlad arall neu gwrdd â phobl ifanc o ddiwylliant gwahanol.

Drwy weithio ochr yn ochr â disgyblion o ysgol bartner, gwnaethon nhw archwilio diwylliant, hunaniaeth a chymuned wrth ddarganfod un o ddinasoedd mwyaf bywiog Ewrop.

Cynlluniwyd y prosiect i greu profiadau trawsnewidiol i bobl ifanc na fyddai o bosib erioed wedi cael y cyfle i deithio’n rhyngwladol. Trwy ddod wyneb yn wyneb â lleoedd, pobl a safbwyntiau newydd, datblygodd y disgyblion hyder, ehangodd eu gorwelion a chawson nhw ymdeimlad gwell o’r hyn gallan nhw ei gyflawni.

Ymestynnodd yr effaith tu hwnt i’r rhai a deithiodd. Ar ôl dychwelyd, rhannodd y disgyblion eu profiadau gyda chyd-ddisgyblion, teuluoedd a’r gymuned ehangach, gan ysbrydoli pobl ifanc eraill i feddwl yn fwy, cofleidio cyfleoedd newydd ac edrych tu hwnt i’w tref enedigol.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.