Ardal derbynwyr grantiau
Y Swistir

O Ddyffrynnoedd Cymru i Alpau’r Swistir: Sut gwnaeth symudedd Taith ehangu gorwelion pobl ifanc o Flaenau Gwent

Rhannwch hyn!
Grŵp o bobl ifanc o wasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent yn sefyll gyda chês dillad o flaen arwydd mawr gyda'r cyfnos wedi'i oleuo "BRISTOL", yn ymgynnull ar ddechrau ymweliad symudedd rhyngwladol.

Ym mis Awst 2026, teithiodd 18 o bobl ifanc o Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent i Interlaken, y Swistir ar gyfnewid ieuenctid a ariannwyd gan Taith. I lawer, dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw deithio dramor, defnyddio pasbort neu hyd yn oed brofi bywyd tu hwnt i’w cymuned leol. Trwy anturiaethau awyr agored, cyfnewid diwylliannol a chyfeillgarwch newydd, helpodd yr ymweliad bobl ifanc i feithrin hyder, datblygu gwydnwch a darganfod dyheadau newydd ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y tîm yng Ngwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent wrthym ni sut helpodd y profiad y bobl ifanc i ehangu eu gorwelion a meddwl tu hwnt i’w hardal leol.

Beth oedd nod eich symudedd Taith?

Nod y daith oedd rhoi cyfle i bobl ifanc na fyddent wedi’i gael fel arall – teithio i wlad wahanol, profi diwylliant a ffordd o fyw newydd, a datblygu eu hannibyniaeth.

Ochr yn ochr â hyn, roedden ni’n gobeithio byddai’r profiad yn helpu pobl ifanc i feithrin cyfeillgarwch newydd, gwella eu hyder a’u gwydnwch, a chreu dyheadau newydd ar gyfer y dyfodol, boed hynny’n teithio mwy, archwilio cyfleoedd newydd neu helpu eraill i wneud yr un peth.

Stryd gul gyda choblau wedi'i leinio â siopau ac adeiladau hanesyddol, gyda sawl baner Swistir yn hongian uwchben a cherddwyr yn cerdded ar hyd y ffordd ar ddiwrnod heulog.

Beth wnaeth y bobl ifanc yn y Swistir?

Yn ystod eu hamser yn Interlaken, archwiliodd y grŵp drefi lleol a safleoedd hanesyddol, aethon nhw ar daith mewn cwch ar lynnoedd y Swistir, ymwelon nhw â golygfan Harder Kulm, archwilion nhw ogofâu a chwblhaon nhw y daith gerdded heriol i fyny mynydd Niederhorn.

Un o’r uchafbwyntiau oedd cyfnewid ieuenctid gyda Cevi, sefydliad ieuenctid lleol sy’n canolbwyntio ar ddysgu awyr agored, arweinyddiaeth a chyfranogiad cymunedol. Gyda’i gilydd, treuliodd pobl ifanc o Gymru a’r Swistir amser yn heicio yn yr Alpau, gan rannu profiadau a dysgu am ddiwylliannau, cymunedau a bywydau beunyddiol ei gilydd.

Agwedd arbennig o ysbrydoledig o’r ymweliad oedd dysgu am lwybrau dilyniant Cevi. Gwelodd ein pobl ifanc sut roedd cyn-aelodau wedi mynd ymlaen i fod yn wirfoddolwyr, arweinwyr ieuenctid ac, mewn rhai achosion, gweithwyr ieuenctid cyflogedig, gan ddangos effaith hirdymor gwaith ieuenctid a chyfranogiad cymunedol.

Beth ddysgodd y bobl ifanc gan eu cyfoedion o’r Swistir?

Rhoddodd y cyfnewid gyfle i’n pobl ifanc ddysgu am fywyd yn y Swistir wrth ddarganfod, er gwaethaf byw mewn gwahanol wledydd, eu bod nhw’n rhannu llawer o’r un diddordebau, uchelgeisiau a heriau.

Uchafbwynt go iawn oedd profi dull y Swistir o addysg awyr agored. Dangosodd treulio amser yn yr Alpau sut gall natur chwarae rhan fawr mewn gwaith ieuenctid a datblygiad personol, gan helpu i feithrin hyder, annibyniaeth a gwaith tîm.

Cofleidiodd y bobl ifanc hefyd gyfleoedd i ddysgu geiriau ac ymadroddion newydd, llywio gwahaniaethau iaith a chyfathrebu mewn gwahanol ffyrdd. Roedd yn wych gweld cyfeillgarwch yn datblygu er gwaethaf rhwystrau iaith, gan brofi bod rhannu profiadau’n dod â phobl at ei gilydd er bod nhw’n dod o lefydd gwahanol.

Grŵp o bobl ifanc o wasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent yn sefyll ar blatfform gwylio yn y mynyddoedd, yn dal baner Cymru, gyda chopaon alpaidd dramatig a chymylau storm yn y cefndir.

Rhoddodd y cyfnewid gyfle i bobl ifanc y Swistir ddysgu mwy am Gymru, Blaenau Gwent a phrofiadau pobl ifanc sy’n tyfu i fyny yn ein cymunedau. Roedd ein pobl ifanc yn falch o rannu eu diwylliant, eu hunaniaeth a’u hardal leol, gan siarad am fywyd yng Nghymoedd De Cymru a’r hyn sy’n gwneud Cymru’n unigryw.

Oedd unrhyw fomentau nodedig yn ystod y cyfnewid?

Un moment sy’n wirioneddol nodedig oedd ein noson gyda’r bobl ifanc o Cevi. Treulion ni oriau gyda’n gilydd, wedi’n hamgylchynu gan Alpau’r Swistir, yn rhannu barbeciw, yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn sgwrsio am bopeth o’r ysgol a gyrfaoedd i hobïau, teithio a bywyd bob dydd. Creodd rhannu bwyd awyrgylch hamddenol lle datblygodd cyfeillgarwch yn gyflym. Wrth i’r noson fynd yn ei blaen, roedd canu, cerddoriaeth a phobl ifanc yn codi offerynnau ac yn ymuno â’i gilydd.

Roedden ni wedi bwriadu gadael yn llawer cynharach, ond arhosodd y grŵp gyda’i gilydd yn llawer hirach na’r disgwyl oherwydd nad oedd neb eisiau i’r noson ddod i ben. I lawer o’n pobl ifanc, daeth hwn yn un o fomentau nodedig y cyfnewid. Dangosodd pa mor gyflym gellir adeiladu cysylltiadau ystyrlon pan fydd cyfle i bobl ifanc dreulio amser gyda’i gilydd, rhannu profiadau a dysgu am fywydau ei gilydd. Mae’r ffaith bod y grŵp wedi dewis aros ymhell ar ôl yr amser gorffen a gynlluniwyd yn ôl pob tebyg yn dweud mwy nag unrhyw beth arall am y cyfeillgarwch a’r atgofion a grëwyd y noson honno.

Pa effaith gafodd y cyfnewid?

Roedd y profiad yn rhagori ar ddisgwyliadau ac yn cael effaith barhaol ar y bobl ifanc a gymerodd ran.

Siaradodd llawer am ennill hyder trwy gamu tu allan i’w parthau cysur, boed hynny’n teithio dramor am y tro cyntaf, cwrdd â phobl newydd neu gwblhau’r daith gerdded heriol yn y mynydd. O’r 18 o bobl ifanc, dywedodd pob un o’r 18 bydden nhw’n cymryd rhan mewn cyfnewid ieuenctid arall, tra bod 13 wedi nodi eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn ymgymryd â heriau newydd. Soniodd naw o bobl ifanc yn benodol am gynlluniau i deithio mwy, gan gynnwys dychwelyd i’r Swistir, archwilio Ewrop a phrofi gwahanol ddiwylliannau.

Mae cyfranogwyr gyda bagiau llaw a chês dillad yn sefyll wrth ymyl awyren easyJet ar darmac y maes awyr wrth fynd ar fwrdd trwy risiau'r awyren, gan nodi dechrau eu taith ryngwladol.

Er bod y cyfnewid wedi cael effaith gadarnhaol ar y grŵp cyfan, mae profiadau sawl person ifanc yn dangos ei werth yn arbennig. Teithiodd un person ifanc dramor a defnyddio pasbort am y tro cyntaf, gan feithrin hyder ac annibyniaeth. Llwyddodd person ifanc arall sy’n ofalwr ifanc, i ganolbwyntio ar ei ddatblygiad personol ei hun, gan gymryd rhan mewn cyfleoedd na fydden nhw byth yn gallu eu cyrchu gartref. Cymerodd dau berson ifanc â chyflyrau iechyd a all greu rhwystrau ran lawn yn y cyfnewid hefyd a chyflawni pethau nad oedden nhw’n meddwl eu bod yn bosibl o’r blaen.

Helpodd y cyfnewid hefyd sawl person ifanc i ddarganfod cyfleoedd a dyheadau newydd. Datblygodd un person ifanc, a oedd yn gyfrifol am dynnu lluniau, fideos a chyfweliadau drwy gydol y daith, ddiddordeb cryf mewn creu cynnwys digidol a chyfryngau ac mae’n awyddus i gefnogi prosiectau’r Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol.

Mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda’r bobl ifanc yn disgrifio’r profiad fel:

Profiad gwych bydda i’n ei gofio am byth.

Profiad unwaith mewn oes gydag atgofion bythgofiadwy.

Y profiad mwyaf prydferth i mi erioed ei gael.

Crynhodd un person ifanc yr effaith hirdymor orau:

Mae wedi fy annog i wthio fy hun, mynd allan i’r awyr agored a gwneud mwy o bethau.

I ni, dangosodd y cyfnewid bŵer trawsnewidiol profiadau dysgu rhyngwladol a’r effaith barhaol y gallan nhw ei chael ar hyder, dyheadau ac ymdeimlad o bosibilrwydd pobl ifanc.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.