Ym mis Ebrill 2025, gwnaeth Marlen Komorowski a Sara Pepper o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd ymweliad a ariannwyd gan Taith i Brifysgol Chapman, California. Nod yr ymweliad oedd cryfhau partneriaethau rhyngwladol, cefnogi datblygiad proffesiynol, a chael cipolwg ar arfer addysg uwch yn yr Unol Daleithiau.
Trwy weithgareddau addysgu, ymchwil a rhwydweithio, gwnaethon nhw gyfnewid syniadau ar ddatblygu cwricwlwm, ymgysylltu â diwydiant a blaenoriaethau sefydliadol, wrth archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
Pam gwnaethoch chi gais i gymryd rhan yn y symudedd hwn a arianwyd gan Taith?
Marlen:
Gwnes i gais oherwydd bod yr ymweliad yn cynnig cyfle i gryfhau partneriaeth sy’n dod i’r amlwg rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Chapman o amgylch diwydiannau creadigol a diwylliannol. Roedd Chapman yn bartner delfrydol, gan fod ei Chanolfan ar gyfer Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn rhannu llawer o ddiddordebau Caerdydd mewn datblygu’r economi greadigol, polisi diwylliannol ac ymgysylltu â diwydiant.
Roeddwn i’n gobeithio dyfnhau cydweithio, cyfnewid syniadau gyda staff a myfyrwyr, a nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwil, addysgu a symudedd myfyrwyr yn y dyfodol. Gwireddwyd y disgwyliadau hyn yn llawn, yn enwedig trwy drafodaethau ynghylch cyfnewidiadau myfyrwyr yn y dyfodol, gweithgareddau addysgu ar y cyd a phrosiectau ymchwil cydweithredol.
Beth ddysgoch chi o’r profiad a sut bydd yn dylanwadu ar eich gwaith?
Sara:
Rhoddodd yr ymweliad ddealltwriaeth ddyfnach i mi o sut mae polisi diwylliannol yn gweithredu yn yr Unol Daleithiau a sut mae blaenoriaethau newidiol y llywodraeth yn dylanwadu ar bolisi diwylliannol ac addysg uwch. Dysgais i hefyd fwy am ddull Chapman o ran lleoliadau myfyrwyr, ymgysylltu â diwydiant a llwybrau cyflogaeth, a sut mae’r rhain yn cefnogi canlyniadau graddedigion.
Mae’r profiad wedi cryfhau fy nealltwriaeth o sut mae gwahanol gyd-destunau gwleidyddol, addysgol a diwylliannol yn llunio datblygu a gweithredu polisïau, gan helpu i lywio trafodaethau yn y dyfodol ynghylch arfer gorau ac arloesedd.
Marlen:
Rhoddodd yr ymweliad safbwyntiau newydd ar sut gellir cysylltu addysg diwydiannau creadigol â rhwydweithiau diwydiant, datblygu gyrfaoedd myfyrwyr a pholisi economi greadigol rhanbarthol. Ces i fy ysbrydoli’n arbennig gan ddefnyddio astudiaethau achos byd go iawn a thrafodaethau ynghylch gyrfaoedd portffolio.
O ganlyniad, rwy’n bwriadu ymgorffori mwy o enghreifftiau rhyngwladol yn fy addysgu, cyflwyno safbwyntiau cymharol ychwanegol rhwng y DU a’r UD, a chryfhau cysylltiadau rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a chyfleoedd yn y diwydiant.
Sut mae’r symudedd wedi cryfhau cydweithio rhyngwladol?
Marlen:
Helpodd yr ymweliad i symud y berthynas rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Chapman o gydweithio anffurfiol tuag at bartneriaeth fwy strwythuredig. Mae trafodaethau bellach ar y gweill ynghylch cyfnewidiadau myfyrwyr yn y dyfodol, mentrau addysgu ar y cyd, prosiectau ymchwil cydweithredol a chyhoeddiadau a rennir.
Dangosodd y profiad werth ymgysylltu wyneb yn wyneb wrth droi diddordebau cyffredin yn gyfleoedd ymarferol a chynaliadwy.
Sara:
Mae’r cydweithio hwn eisoes wedi arwain at wahoddiad i gyfrannu llyfr at gasgliad mae Chapman yn ei olygu a churadu ar gyfer ei gyhoeddi. Mae hyn nid yn unig yn gyfle cyhoeddi gwerthfawr, ond hefyd yn gymeradwyaeth gref o ansawdd a hynodrwydd y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghaerdydd a Chymru. Mae’r gwahoddiad yn adlewyrchu cydnabyddiaeth o’n harbenigedd yn y maes ac yn darparu llwyfan pwysig i arddangos ymchwil a safbwyntiau Cymru i gynulleidfa ryngwladol, gan gryfhau’r bartneriaeth ymhellach a chreu cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
Sut mae’r profiad wedi gwella eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’ch rhagolygon byd-eang?
Sara:
Rhoddodd yr ymweliad gyfleoedd i ymgysylltu â chydweithwyr prifysgol, myfyrwyr a phartneriaid diwydiant sy’n rhan o’n prosiect ymchwil byd-eang, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau cyfryngau mawr fel Disney, Warner Bros. ac NBCUniversal.
Rhoddodd y sgyrsiau hyn fewnwelediadau gwerthfawr i arloesedd a datblygiadau diwydiant yn y dyfodol wrth gryfhau perthnasoedd fydd yn cefnogi cydweithio yn y dyfodol. Uchafbwynt penodol oedd y cyfle i godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac arddangos ei chryfderau mewn cyfryngau, ffilm a theledu a lleoli arbenigedd Cymru mewn trafodaethau gyda sefydliadau dylanwadol yn fyd-eang.
Beth oedd y peth pwysicaf ddysgoch chi o’r profiad?
Marlen:
Y wers bwysicaf oedd gwerth ymgysylltu rhyngwladol wyneb yn wyneb wrth droi diddordebau cyffredin yn gynlluniau pendant ar gyfer ymchwil, addysgu a symudedd myfyrwyr. Ces i fy nharo hefyd gan y diddordeb cryf yn economi greadigol Cymru a Chaerdydd fel enghraifft o sut gall gwledydd a rhanbarthau llai ddatblygu ecosystemau diwydiant creadigol nodedig.
Pa effaith barhaol fydd gan y cyfle hwn a arianwyd gan Taith?
Marlen:
Mae’r lleoliad wedi creu sylfaen gref ar gyfer cydweithio hirdymor rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Chapman. Mae wedi cryfhau fy mhroffil ymchwil ac addysgu rhyngwladol, wedi agor cyfleoedd newydd i fyfyrwyr, ac wedi sefydlu llwybrau ar gyfer gweithgareddau symudedd a phartneriaeth yn y dyfodol.
Sara:
Yn dilyn yr ymweliad, gwnaethon ni rannu ein dysgu trwy gyflwyniadau a thrafodaethau gyda chydweithwyr ar draws y Ganolfan ar gyfer yr Economi Greadigol, rhanddeiliaid allweddol a Bwrdd Rhaglen Media Cymru. Helpodd y sgyrsiau hyn i nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio a chyfnewid gwybodaeth yn y dyfodol.
Un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr o’r profiad oedd pwysigrwydd treulio amser ymroddedig gyda chydweithwyr ar bob lefel o sefydliad partner. Darparodd rhyngweithiadau ffurfiol ac anffurfiol ddealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant sefydliadol, blaenoriaethau a ffyrdd o weithio, gan atgyfnerthu pwysigrwydd buddsoddi mewn perthnasoedd i adeiladu partneriaethau rhyngwladol ystyrlon a chynaliadwy.