Ardal derbynwyr grantiau
Cymru

Stori EmpowHER: Sut helpodd symudedd Taith i ysbrydoli model newydd o gefnogaeth i fenywod yng Nghymru

Rhannwch hyn!
Pum ymwelydd yn eistedd mewn ystafell lles gyfforddus yng nghanolfan EmpowHER. Mae'r lle'n cynnwys soffas, cadeiriau breichiau, dodrefn meddal, effeithiau goleuo tawelu a gwaith celf wal ar thema lles.
Ym mis Mawrth 2024, teithiodd Danielle i Norwy fel rhan o raglen cyfnewid dysgu a ariannwyd gan Taith gyda St Giles. Cafodd y profiad effaith ddofn arni, yn bersonol ac yn broffesiynol. Newidiodd y ffordd roedd hi’n gweld ei hun, meithrinodd ynddi hyder na theimlodd erioed o’r blaen, ac agorodd ddrysau i gyfleoedd newydd lle’r oedd wedi gweld rhwystrau. Cyfrannodd y profiad hwn hefyd at greu EmpowHER, gofod cymunedol yng Nghaerdydd i fenywod yn unig, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n niwrogadarnhaol.
Mae Danielle yn rhannu ei thaith gyda ni, beth ddysgodd yn Norwy a sut mae dysgu rhyngwladol wedi ei helpu i droi syniad yn realiti.
Mynedfa i ganolfan Prosiect EmpowHER, yn dangos drws gwydr agored, mat croeso yn darllen “Check your Vibe or stay Outside”, planhigion mewn potiau gyda blodau haul, ac arwydd yn hyrwyddo cyrsiau sy'n cael eu llywio gan drawma a lle diogel i fenywod
Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun a’ch taith?

Yn sicr, doedd fy nhaith ddim yn un hawdd.  Cefais fy ngwahardd o’r ysgol yn 14 oed, ac yna dechreuais ymwneud â throseddu, caethiwed a chamfanteisio. Treuliais tua 20 mlynedd yn mynd i mewn ac allan o’r system cyfiawnder troseddol, cyn treulio fy nghyfnod olaf yn y carchar yn 2018.

Nid rhywun yn dweud rhywbeth hudolus wrtha i, rhywbeth nad oedd neb erioed wedi’i ddweud o’r blaen, a newidiodd bethau i mi. Newidiodd fy amgylchedd. Dechreuais ddeall fy hun yn wahanol. Roeddwn i wedi bod yn byw gydag ADHD ac awtistiaeth ar hyd fy mywyd heb wybod hynny.  Cefais gymorth sy’n canolbwyntio ar fenywod ac ymunais â Rhaglen Ymgynghorwyr Cyfoedion St Giles. Am y tro cyntaf, daeth fy mhrofiad byw yn rhywbeth a allai helpu pobl eraill. Hyfforddais fel mentor cyfoedion ar gyfer St Giles a dechreuais weld fy nyfodol yn wahanol.

Ochr yn ochr â’m gwaith rheng flaen, roeddwn i’n astudio seicoleg fforensig ac yn datblygu diddordeb cryf mewn trawma, adsefydlu ac adferiad. Pan ddaeth y cyfle i ymweld â Norwy drwy Taith, neidiais ar y cyfle gan fy mod eisiau dysgu sut roedd gwledydd eraill yn cefnogi pobl sy’n wynebu heriau tebyg. Norwy oedd y tro cyntaf i mi fod dramor mewn swyddogaeth broffesiynol.  Pe bai rhywun wedi dweud wrtha i flynyddoedd ynghynt y byddwn i’n teithio’n rhyngwladol fel rhan o fy ngwaith, fyddwn i ddim wedi credu’r peth.

Beth wnaeth yr argraff fwyaf arnoch chi yn ystod yr ymweliad?

Beth wnaeth yr argraff fwyaf arna i yn Norwy oedd yr amgylchedd. Un o’r sefydliadau y gwnaethom ymweld â nhw oedd A-larm yn Trondheim, gwasanaeth cymorth ar gyfer pobl sy’n defnyddio sylweddau. Doedd e ddim yn teimlo fel sefydliad, roedd yn teimlo fel cartref hardd.  Doedd dim naws draddodiadol yno o fynd i mewn i swyddfa a chael desg rhyngot ti a’r person oedd yn dy gefnogi. Roedd yn teimlo fel cymuned.  Roedd popeth yn teimlo’n dawel, yn groesawgar ac yn ddynol.

Fel rhywun sydd bellach yn deall sut mae trawma a niwroamrywiaeth yn effeithio ar y system nerfol, sylwais ar rywbeth pwysig: roeddwn i’n teimlo bod fy emosiynau dan reolaeth.  Gwnaeth y profiad hwnnw i mi feddwl yn wahanol am y mannau lle mae cefnogaeth yn digwydd. Os nad yw pobl yn teimlo’n ddiogel, mae’n llawer anoddach iddyn nhw ddysgu, myfyrio, ymddiried yn eraill neu ymgysylltu â gwasanaethau.

Ystafell lles dawel gyda soffas, cadeiriau breichiau, rygiau a goleuadau amgylchynol meddal. Mae tafluniadau golau glas, gwyrdd ac oren lliwgar yn goleuo'r waliau a'r nenfwd, gan greu awyrgylch ymlaciol.
Sut effeithiodd y profiad Taith arnoch chi’n bersonol?

Newidiodd sut roeddwn i’n gweld fy hun.  Am flynyddoedd, roedd fy hunaniaeth wedi cael ei llunio gan gaethiwed, troseddu a’r carchar. Yn sydyn, roeddwn i’n teithio’n rhyngwladol fel gweithiwr proffesiynol, yn cynrychioli sefydliad ac yn rhannu syniadau gyda phobl o wlad arall.

Atgyfnerthodd y profiad y ffaith nad oedd fy mhrofiad byw yn rhywbeth a oedd yn fy nghyfyngu. Roedd yn rhan o fy arbenigedd. Rhoddodd hyder i mi nad oedd gen i o’r blaen. Dechreuais wneud cais am gyfleoedd nad oeddwn i erioed wedi meddwl eu bod ar gael i bobl fel fi. Ers yr ymweliad hwnnw, rydw i wedi cyhoeddi tri llyfr, wedi siarad yn Nhŷ’r Arglwyddi a’r Senedd, ac wedi cyfrannu at drafodaethau ar lefel genedlaethol.  Ehangodd y daith fy rhwydwaith hefyd a rhoddodd hyder i mi estyn allan at bobl, gofyn cwestiynau a cheisio cefnogaeth.  Norwy oedd fy nghyfle mawr cyntaf, a thyfodd popeth o’r fan honno.

Pa ddysgu wnaethoch chi ei ddwyn yn ôl i Gymru?

Y wers fwyaf oedd nad yw’r amgylchedd yn rhywbeth ychwanegol. Mae’n rhan o’r ymyrraeth.  Des i nôl gan feddwl yn llawer dyfnach am sut beth yw diogelwch i rywun sy’n cael mynediad at gymorth. Weithiau rydym yn canolbwyntio ar raglenni a pholisïau, ond gall yr amgylchedd ei hun benderfynu a yw rhywun yn teimlo ei fod yn gallu ymgysylltu.

Cryfhaodd yr ymweliad fy nghred nad oes angen i wasanaethau cymorth edrych fel gwasanaethau traddodiadol bob amser. Mae cymuned, cysur a pherthyn yn bwysig.  Rhywbeth arall wnaeth argraff arna i oedd y cysylltiad â natur a chynnwys symud yn rhan o’r profiad. Nid oedd cefnogi lles bob amser yn ymwneud ag eistedd mewn ystafell a siarad. Roedd symud, mannau awyr agored a chysylltiad â’r corff yn cael eu hystyried yn rhannau pwysig o adferiad a lles. Arhosodd y dysgu hwnnw gyda fi.

Cegin groesawgar a gofod cymunedol yn cynnwys bwrdd bwyta, lluniaeth, byrbrydau a chyfleusterau cegin. Mae negeseuon ysbrydoledig ar y waliau a hambwrdd o fisgedi yn creu amgylchedd cyfforddus i ymwelwyr ymgynnull a chysylltu.
Sut wnaeth y dysgu hwnnw ddylanwadu ar greu EmpowHER?

Daeth EmpowHER o lawer o wahanol rannau o fy mywyd: fy mhrofiad bywyd, blynyddoedd o waith rheng flaen, astudio seicoleg fforensig, deall fy niwroamrywiaeth fy hun a’r menywod roeddwn i wedi’u cefnogi dros y blynyddoedd.  Rhoddodd y profiad yn Norwy hyder i mi yn fy syniadau fy hun a chryfhaodd fy nghred y gallai cefnogaeth edrych yn wahanol.

Heddiw, mae EmpowHER yn ofod synhwyraidd i fenywod yn unig yng Nghaerdydd, sy’n ystyriol o drawma ac yn niwrogadarnhaol. Gall menywod wneud diod iddyn nhw eu hunain, cwtsio mewn cadair, eistedd ar y llawr, symud o gwmpas, neu ddefnyddio’r gofod mewn unrhyw ffordd sy’n eu helpu i deimlo’n gyfforddus.  Mae popeth, o’r goleuadau a chynllun yr ystafelloedd i’r amgylchedd synhwyraidd, yn adlewyrchu’r gred bod pobl yn ymgysylltu orau pan fyddant yn teimlo’n ddiogel.  Roeddwn i eisiau creu rhywle a oedd yn teimlo fel cymuned yn hytrach na sefydliad.

Oes enghreifftiau o syniadau a deithiodd adref o Norwy?

Yn bendant, fe ddylanwadodd yn llwyr ar sut mae EmpowHER yn teimlo.  Yr enghraifft fwyaf amlwg, mae’n debyg, yw’r polisi dim esgidiau a’r fasged o sanau.  Mae hynny’n gallu swnio fel manylyn bach iawn, ond arhosodd yn fy nghof ac mae’n cynrychioli rhywbeth llawer mwy. Mae’n ymwneud â helpu pobl i deimlo’n gyfforddus, lleihau rhwystrau a chreu ymdeimlad o berthyn o’r eiliad maen nhw’n cerdded drwy’r drws.

Yn ddiweddarach, pan ymwelodd cydweithwyr o Norwy â Chaerdydd, llwyddais i ddangos iddyn nhw’r gofod roedden ni wedi’i greu.  Roeddwn i’n gallu pwyntio at bethau a dweud, “Daeth hynny oddi wrthych chi.”  Roedd hynny’n teimlo fel dod â’r daith yn ôl i’w man cychwyn.

Pa effaith sydd gan EmpowHER heddiw?

Beth rydyn ni’n ei weld yw menywod yn datblygu hyder, hunanymwybyddiaeth a gwell dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain drwy eu helpu i adeiladu eu pecyn cymorth rheoleiddio eu hunain.  Mae llawer yn dod yn fwy abl i adnabod sbardunau, gosod ffiniau, meithrin perthnasoedd iachach a symud ymlaen i wirfoddoli, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Un o’r arwyddion mwyaf i mi yw ymgysylltiad. Pan oeddwn i’n cynnal fy mhrosiectau peilot mewn lleoliadau mwy traddodiadol, gallai gymryd tair wythnos cyn i fenywod ddechrau siarad yn fwy agored. Yn yr amgylchedd rydyn ni wedi’i greu, mae hynny’n aml yn digwydd o fewn yr wythnos gyntaf.  Yn ein carfan ddiweddaraf o wyth menyw, mae un cyfranogwr wedi dechrau gweithio, mae dwy bellach yn hyfforddi i fod yn gynorthwywyr addysgu ac mae tair yn gwirfoddoli.  Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau fel Cyfle Cymru i helpu i greu llwybrau at gymorth, hyfforddiant a chyflogaeth bellach.  Yn y pen draw, nid ein nod yw dweud wrth fenywod ble dylen nhw fynd. Ein nod yw eu helpu i adnabod eu nodau eu hunain, a rhoi’r offer a’r hyder iddyn nhw i’w cyflawni.

Cwrt awyr agored preifat gyda bwrdd patio, pedair cadair a pharasol gwyn mawr. Mae waliau cerrig yn ffinio â'r lle caeëdig ac mae coed o'i gwmpas yn ei gysgodi, gan greu ardal dawel ar gyfer ymlacio a sgwrsio.
Wrth edrych yn ôl, pa wahaniaeth wnaeth y profiad a ariannwyd gan Taith?

Cryfhaodd yr ymweliad â Norwy fy nghred y gallai gwasanaethau deimlo’n wahanol. Rhoddodd syniadau ymarferol, safbwyntiau newydd a hyder yn fy meddwl fy hun i mi.  Gellir olrhain rhai o’r pethau y mae menywod yn eu profi wrth iddynt gerdded trwy ddrysau EmpowHER heddiw yn uniongyrchol yn ôl i beth ddysgais yn Trondheim. Fe newidiodd hefyd beth roeddwn i’n credu oedd yn bosibl i mi fy hun.  Rhoddodd y profiad hwnnw hyder i mi fentro i gyfleoedd na fyddwn i erioed wedi dychmygu eu bod o fewn fy nghyrraedd.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n credu nad yw cyfleoedd rhyngwladol ar eu cyfer nhw?

Ni ddylai cyfleoedd rhyngwladol fod ar gyfer pobl sydd wedi dilyn llwybr traddodiadol yn unig.  Gadewais yr ysgol yn 14 oed a threuliais flynyddoedd yn credu bod cyfleoedd fel hyn yn perthyn i bobl eraill.  Norwy oedd y tro cyntaf i mi fod dramor mewn swyddogaeth broffesiynol, ac fe newidiodd yn llwyr beth roeddwn i’n meddwl oedd yn bosibl.  Pe bai cyfleoedd fel Taith ar gael i bobl mewn addysg ffurfiol yn unig, ni fyddai EmpowHER yn bodoli fel y mae heddiw.

Nid yn yr ystafelloedd dosbarth yn unig y mae dysgu’n digwydd. Mae’n digwydd trwy bobl, lleoedd, profiadau a sgyrsiau.  Teithiodd syniad adref gyda mi o Trondheim a daeth yn rhan o rywbeth newydd yng Nghaerdydd. Dyna bŵer dysgu rhyngwladol.  Rydw i eisoes yn meddwl am raglennu cyfnewid eraill yn y dyfodol oherwydd mae gan bob profiad newydd y potensial i ddod â syniadau yn ôl a allai fod o fudd i’r menywod rydyn ni’n eu cefnogi.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.