Teithiodd dau ddeg chwech o ddisgyblion Gwyddoniaeth Driphlyg o Ysgol Bae Baglan i Fflorida, UDA, ym mis Hydref 2026 ar gyfer profiad symudedd trawsnewidiol sy’n canolbwyntio ar STEM a ariannwyd gan Taith. Trwy weithgareddau ymarferol, ymweliadau â sefydliadau byd-enwog a chyfleoedd i gysylltu â myfyrwyr Americanaidd, nod y prosiect oedd ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr ac arloeswyr. Yn ogystal ag arddangos y posibiliadau gall gyrfaoedd STEM ac addysg uwch eu cynnig, helpodd y profiad ddisgyblion i ddatblygu hyder, sgiliau arweinyddiaeth a dyheadau wrth feithrin cyfeillgarwch rhyngwladol a dealltwriaeth ddiwylliannol.
Mae Chelsea Gee, athrawes yn Ysgol Bae Baglan, yn rhannu sut gwnaeth y symudedd ehangu gorwelion disgyblion a’u hannog i feddwl yn fwy am eu dyfodol.
Pam gwnaethoch chi ddewis partneru â sefydliad yn Fflorida?
Ein prif sefydliad partner oedd Prifysgol Canolbarth Fflorida (UCF) yn Orlando. Chwaraeodd y brifysgol rôl ganolog wrth drefnu a hwyluso’r cyfnewid, gan ein helpu i sefydlu cysylltiadau gwerthfawr â Chanolfan Academaidd Rhagoriaeth Ysgolion Cyhoeddus Orange County (OCPS ACE) a Chanolfan Ofod Kennedy NASA.
Adeiladwyd ein partneriaeth o amgylch yr ymrwymiad i ysbrydoli pobl ifanc, codi dyheadau a darparu cyfleoedd i brofi addysg STEM tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Trwy UCF, roedden ni’n gallu creu rhaglen oedd yn cyfuno addysg uwch, cyfnewid diwylliannol a dysgu STEM yn y byd go iawn. Roedd cefnogaeth a brwdfrydedd UCF a’i sefydliadau partner yn allweddol wrth wneud y cyfnewid yn bosibl.
Pa weithgareddau cymerodd y cyfranogwyr ran ynddyn nhw?
Cymerodd y disgyblion ran mewn ystod eang o weithgareddau addysgol, diwylliannol ac ymarferol. Yn UCF, gwnaethon nhw archwilio’r campws, profi bywyd prifysgol yn uniongyrchol a chymryd rhan mewn gweithgareddau peirianneg a chodio ymarferol a ddatblygodd sgiliau datrys problemau, creadigrwydd a gwaith tîm. Uchafbwynt penodol oedd mynychu dathliadau blynyddol Homecoming UCF, gan gynnwys Spirit Splash. Helpodd gweld maint ac awyrgylch y brifysgol i ddod ag addysg uwch yn fyw. Yn hytrach na chlywed am y brifysgol yn yr ystafell ddosbarth yn unig, roedd y disgyblion yn gallu dychmygu eu hunain fel myfyrwyr prifysgol ac ystyried y cyfleoedd gallai astudio pellach eu datgloi.
Yng Nghanolfan Ofod Kennedy NASA, cymerodd y disgyblion ran mewn gweithdy peirianneg ymarferol cerbyd crwydro’r lleuad, dylunion ac adeiladon nhw gerbydau prototeip ar gyfer archwilio’r Lleuad, a phrofon nhw efelychiad lansio gwennol ofod. Cwblhaodd y disgyblion hefyd weithdy STEM arbenigol yn Disney, gan archwilio’r ffiseg tu ôl i geir sglefrio a chysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â phrofiadau byd go iawn.
Treulion ni hefyd ddau ddiwrnod yng Nghanolfan Academaidd Rhagoriaeth Ysgolion Cyhoeddus Orange County (OCPS ACE), lle bu ein disgyblion yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr Americanaidd mewn gweithgareddau algebra a gwyddoniaeth cydweithredol.
Beth oedd uchafbwynt y profiad?
Uchafbwynt ein cyfnewid rhyngwladol yn ddiamau oedd y ddau ddiwrnod yn OCPS ACE. Er bod y profiadau ym Mhrifysgol Canol Fflorida, roedd NASA a Disney yn anhygoel, y cysylltiadau personol rhwng y disgyblion wnaeth y cyfnewid yn arbennig iawn. Roedd gwylio ein disgyblion yn goresgyn eu nerfau cychwynnol, yn cyfathrebu’n hyderus â’u cyfoedion Americanaidd ac yn gweithio gyda’i gilydd yn ystod gwersi algebra, gweithgareddau gwyddoniaeth a phêl-droed baner yn hynod werthfawr.
Un moment arbennig o gofiadwy oedd gweld ein disgyblion yn falch o ddysgu anthem genedlaethol Cymru i’w ffrindiau Americanaidd newydd, gan rannu darn bach o Gymru gydag ysgol filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Wnaethoch chi gyflawni nodau’r prosiect?
Do, rydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi cyflawni’n llwyddiannus yr holl nodau oedd gennym ni ar gyfer ein cyfnewid rhyngwladol ac, mewn sawl ffordd, roedd y profiad yn rhagori ar ein disgwyliadau. Trwy ein partneriaeth ag UCF, ochr yn ochr ag ymweliadau â NASA a Disney, profodd y disgyblion yn uniongyrchol sut mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn cael eu cymhwyso tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Helpodd y profiadau hyn i ddod â’u dysgu yn fyw a’u hannog i feddwl yn fwy uchelgeisiol am eu dyfodol.
O ffiseg atyniadau Disney i heriau peirianneg teithio i’r Lleuad, dangosodd y profiadau hyn nad casgliad o bynciau ysgol yn unig yw STEM ond porth i bosibiliadau rhyfeddol. Roedden ni hefyd eisiau datblygu hyder, annibyniaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol y disgyblion. Roedd gwylio disgyblion yn goresgyn eu nerfau cychwynnol, yn cyfathrebu’n hyderus â myfyrwyr Americanaidd ac yn meithrin cyfeillgarwch gwirioneddol yn hynod werthfawr.
Pa effaith mae’r prosiect wedi’i chael ar gyfranogwyr a’r ysgol?
Un o’r effeithiau mwyaf amlwg oedd y twf yn hyder, annibyniaeth a dyheadau’r disgyblion. Drwy gydol yr ymweliad, camodd y disgyblion tu allan i’w parthau cysur, cyfathrebon nhw â phobl anghyfarwydd a chroesawu heriau newydd. I rai disgyblion, roedd cyfleoedd fel ymweld â phrifysgol Americanaidd neu ymgysylltu â NASA wedi ymddangos allan o gyrraedd o’r blaen. Roedd gallu profi’r amgylcheddau hyn yn eu helpu i gydnabod eu potensial eu hunain.
Fel grŵp, cryfhaodd y profiad gyfeillgarwch a chreuodd ymdeimlad o undod gwirioneddol. Cefnogodd y disgyblion ei gilydd, dathlon nhw gyflawniadau ar y cyd a dychwelon nhw gydag atgofion a phrofiadau fydd yn aros gyda nhw am flynyddoedd i ddod.
Helpodd yr ymweliad hefyd y disgyblion i gydnabod bod pobl ifanc ledled y byd yn rhannu diddordebau, uchelgeisiau a dyheadau tebyg. Drwy weithio a chymdeithasu â’u cyfoedion Americanaidd, profon nhw werth cydweithio rhyngwladol, ehangu eu gorwelion a datblygu hyder wrth gyfathrebu â phobl o gefndiroedd gwahanol.
I Ysgol Bae Baglan, mae’r prosiect wedi cryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol ac wedi dangos gwerth darparu cyfleoedd addysgol tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Rhannodd ein disgyblion eu hiaith, eu diwylliant a’u hanthem genedlaethol gyda’u cyfoedion Americanaidd yn falch hefyd, gan helpu i ddatblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad rhwng y ddwy gymuned.
Yn y pen draw, dychwelodd y disgyblion gyda chyfeillgarwch newydd, mwy o hyder, dealltwriaeth ehangach o’r byd ac ymdeimlad newydd o uchelgais.
Sut brofiad oedd gwneud cais am gyllid Taith?
Mae ein profiad o wneud cais am gyllid Taith a’i dderbyn wedi bod yn hynod gadarnhaol. Roedd y broses ymgeisio yn syml, ac roedd y gefnogaeth oedd ar gael drwyddi draw yn gwneud i bopeth deimlo’n hylaw ac yn hygyrch. Heb gyllid Taith, fyddai’r daith hon ddim wedi bod yn bosibl. Mae wedi rhoi cyfleoedd a phrofiadau i’n disgyblion na fyddai llawer wedi’u cael fel arall, ac allwn ni ddim mynegi pa mor ddiolchgar dyn ni am hynny. Bydden ni’n gwneud y cyfan eto ar unwaith.
Dewch o hyd i fwy o straeon ysbrydoledig Taith isod