Ardal derbynwyr grantiau
Portiwgal

Sut helpodd symudedd Taith i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr benywaidd o gefn gwlad Sir Benfro

Rhannwch hyn!
Mae grŵp o chwaraewyr pêl-droed ifanc a hyfforddwyr o Glwb Pêl-droed Camrose yn sefyll tu allan i adeilad, yn dal baneri Cymru, Portiwgal a chlwb yn ystod ymweliad cyfnewid chwaraeon rhyngwladol.

Ym mis Mawrth 2026, teithiodd grŵp o bêl-droedwyr benywaidd iau i Bortiwgal am symudedd pum niwrnod yn cyfuno chwaraeon, dysgu diwylliannol ac ymgysylltu cymunedol. Wedi’i drefnu gan Gymdeithas Chwaraeon Camrose, agorodd y profiad ddrysau i ddiwylliannau newydd, cryfhaodd gyfeillgarwch, meithrinodd hyder a dangosodd i bobl ifanc o gefn gwlad Gorllewin Cymru beth allai fod yn bosibl trwy ddysgu rhyngwladol. Trwy bêl-droed, creodd y prosiect gysylltiadau ystyrlon wrth helpu cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau sy’n ymestyn ymhell tu hwnt i’r cae. Mae Joanne Battelley, cydlynydd a hyfforddwr y prosiect, yn dweud mwy wrthym ni am y profiad.

Mae grŵp o chwaraewyr pêl-droed ifanc o Camrose AFC yn sefyll o amgylch cerflun tu allan i stadiwm pêl-droed, yn gwisgo citiau hyfforddi tîm yn ystod ymweliad cyfnewid rhyngwladol.

Pam oeddech chi eisiau mynd ar symudedd a ariennir gan Taith?

Ro’n ni eisiau ysbrydoli pêl-droedwyr benywaidd iau i ddangos sut gall chwaraeon greu cysylltiadau, perthnasoedd a dysgu. Gall byw yng nghefn gwlad Sir Benfro olygu bod cyfleoedd i deithio, cwrdd â phobl newydd a phrofi gwahanol ddiwylliannau yn gyfyngedig. Trwy gyllid Taith, roedd y clwb yn gallu rhoi cyfle i’w chwaraewyr herio eu hunain, meithrin annibyniaeth ac ehangu eu gorwelion.

Ro’n ni eisiau dangos sut gall chwaraeon ddod â phobl at ei gilydd wrth annog y merched i gamu tu allan i’w parthau cysur a thyfu fel unigolion.

Pa weithgareddau wnaethoch chi gymryd rhan ynddyn nhw pan oeddech chi ym Mhortiwgal?

Roedd gennym ni amserlen gymysg iawn oedd yn cynnwys profiad hyfforddi proffesiynol ym maes hyfforddi enwog Benfica a chystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr lefel academi. Rhoddodd y profiad gipolwg i’r chwaraewyr ar amgylcheddau pêl-droed elitaidd a dangosodd ble gall ymroddiad a gwaith caled arwain.

Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar yr ymweliad oedd pêl-droed.

Cwblhaodd y grŵp brosiectau cymunedol hefyd, mwynheuon nhw daith gerdded o amgylch Lisbon, ac archwilion nhw ddiwylliant Portiwgal. Drwy gydol yr wythnos, gweithiodd y merched ochr yn ochr â phobl o wahanol gefndiroedd ac yn rhyngweithio â nhw, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a rhyngddiwylliannol.

Er gwaethaf gwahaniaethau iaith, fe wnaethon nhw ffurfio cyfeillgarwch yn gyflym â gwrthwynebwyr, cefnogwyr ac aelodau o’r gymuned leol.

Mae dau gyfranogwr yn chwarae pêl-droed ym mhreswylfa Llysgennad Prydain yn Lisbon, gyda choed ac adeiladau yn y cefndir.

A oedd unrhyw uchafbwyntiau o’r symudedd?

Un o’r eiliadau mwyaf cofiadwy o’r symudedd oedd ymweliad â phreswylfa Llysgennad Prydain yn Lisbon.

I sawl cyfranogwr, dyma oedd eu profiad cyntaf o deithio tu allan i Gymru. Roedd canfod eu hunain yn cwrdd â diplomyddion, yn trafod eu profiadau a hyd yn oed yn chwarae pêl-droed yng ngardd y Llysgennad yn rhywbeth nad oedden nhw erioed wedi’i ddychmygu.

Rhannodd Ei Hardderchogrwydd Lisa Bandari, Llysgennad Prydain i Bortiwgal, yr effaith a gafodd yr ymweliad arni hi:

Roedd eu croesawu yn fraint, ac yn atgof pan fyddwn ni’n buddsoddi mewn merched, rydym ni’n buddsoddi mewn arweinwyr y dyfodol, ar ac oddi ar y cae.
I lawer, dyma’u tro cyntaf yn teithio dramor, ac roedd gwylio eu hyder yn tyfu, hyd yn oed yn yr amser byr a dreuliasom ni gyda’n gilydd, yn wirioneddol ysbrydoledig.

A oes effaith wedi bod ar y grŵp o ganlyniad i’ch profiad?

Daeth y prosiect ar adeg bwysig ym mywydau’r merched.

Wrth iddyn nhw symud i’w harddegau, mae cyfranogiad mewn chwaraeon yn aml yn lleihau. Yn dilyn y symudedd, mae’r holl ferched wedi parhau i gymryd rhan mewn pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon eraill. Helpodd y daith iddyn nhw ddatblygu gwydnwch, annibyniaeth ac optimistiaeth am eu dyfodol, gan gryfhau’r cysylltiadau o fewn y tîm.

Cyfranogwyr ifanc o Glwb Pêl-droed Camrose ar ymweliad cyfnewid rhyngwladol a gefnogir gan Taith yn sefyll yn Praça do Comércio, Lisbon, gyda bwa Arco da Rua Augusta a'r adeiladau hanesyddol cyfagos tu ôl iddyn nhw.

Mae llawer o’r merched hefyd wedi nodi mwy o hyder, sgiliau cyfathrebu gwell a mwy o barodrwydd i gofleidio cyfleoedd newydd. Fel dywedodd un o’r merched wrthyf:

Ro’n i mor falch fy mod i’n rhoi cynnig ar bethau newydd. Ces i gymaint o hwyl, dw i mor ddiolchgar o gael y profiad yna, ac ro’n i wrth fy modd yn treulio amser gyda’r merched.

Cafodd y prosiect effaith sylweddol ar ein hyfforddwyr hefyd. Cryfhaodd ein harfer hyfforddi, rhoddodd safbwyntiau a mewnwelediadau ffres i ni, a’n helpu i ddatblygu dealltwriaeth hyd yn oed yn ddyfnach o’r merched rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Yn fwy cyffredinol, mae’r prosiect hefyd wedi dangos gwerth cydweithio rhyngwladol mewn chwaraeon ar lawr gwlad a’r effaith gadarnhaol gall ei chael ar gymunedau nid yn unig yma yn Sir Benfro, ond ledled Cymru.

Beth oedd eich profiad personol o redeg y prosiect?

Roedd y gefnogaeth gan Taith yn eithriadol drwy gydol y cais a chyflawniad y prosiect. Roedd y tîm bob amser wrth law i roi arweiniad a chefnogaeth, a oedd yn amhrisiadwy.

Allaf i ddim ond canmol y rhaglen yn uchel iawn; mae’r cyfleoedd sy’n codi o brofiadau fel y rhain yn anhygoel a gallen nhw gael effaith barhaol ar bawb oedd yn rhan o’r daith. Rhagorodd y daith ar ein holl ddisgwyliadau ac mae wedi newid bywydau’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r clwb ehangach yn wirioneddol.

Roedd lefel y llawenydd a’r brwdfrydedd drwy gydol y daith yn anghofiadwy; dydw i ddim yn credu fy mod i erioed wedi gweld cymaint o hapusrwydd mewn un lle. Dyma atgofion a fydd yn aros gyda ni i gyd am flynyddoedd i ddod, ac ni fyddai’r cyfle hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Taith.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.