Mae Ysgol Pendalar yn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion rhwng 3-19 mlwydd oed yng Ngwynedd. Drwy dair taith drawsnewidiol yn y DU, Ffrainc a Sbaen, datblygodd y disgyblion hyder bellach, sgiliau annibyniaeth a sgiliau gydol oes hanfodol eraill a fydd yn adeiladu ar eu sgiliau i gael bywyd hapus a llawn yn y dyfodol.
Mae athrawes, Lyndsey Pleming, yn sôn wrthym am y profiad a’r effaith y mae wedi’i chael ar y disgyblion.
Beth oedd amcanion y prosiect?
Prif amcanion y prosiect oedd i datblygu sgiliau annibyniaeth, bywyd a gwaith ymhlith y disgyblion. Roedd y sgiliau yma yn ran o’n Cynllun Gweithredu ac yn flaenoriaeth yn yr ysgol. Roeddwn hefyd am gynllunio cyfleoedd i staff ymchwilio i faes lles emosiynol a iechyd meddwl er mwyn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau a bywydau’r disgyblion a’r gymuned ddysgu ehangach.
Mae llawer o’n disgyblion yn wynebu rhwystrau dyddiol – ac mae’n bosib na fyddai nifer fel arfer yn cael y cyfle i deithio dramor na phrofi diwylliannau newydd.
Roedd y prosiect wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr a bythgofiadwy i’r disgyblion ddefnyddio’r sgiliau yr oeddent wedi bod yn eu datblygu yn yr ysgol mewn sefyllfaoedd go iawn ar draws Ewrop.
Sut oedd y disgyblion yn teimlo am gymryd rhan mewn cyfnewid rhyngwladol?
Gan mai dyma’r tro cyntaf I brosiect o’r fath ddigwydd yn Ysgol Pendalar – roedd llawer o gyffro wrth gyflwyno’r prosiect – Ond wrth gwrs roedd nerfusrwydd hefyd, gan fod yn brofiad newydd i’r disgyblion a’r teuluoedd.
Dyma’r tro cyntaf i nifer o’r disgyblion adael y cartref heb y rhieni – felly roedd yn gam enfawr.
Beth wnaethoch chi i baratoi’r disgyblion ar gyfer y daith, yn enwedig y rhai nad oeddent erioed wedi bod dramor o’r blaen?
Roedd paratoi a thrafod cyson yn holl bwysig. Cynhaliwyd cyfarfod gyda’r rhieni a’r disgyblion i gyflwyno’r prosiect fel man Cychwyn. Wrth gwrs, roedd llawer o gwestiynau gan bawb – ac os nad oedd ateb gennym, roedd staff Taith wastad yno i helpu ar hyd y daith.
Roedd y ddwy daith o fewn y DU yn hanfodol er mwyn Adeiladu hyder y disgyblion, staff a teuluoedd. Rhoddodd hyn gyfle fesul cam i ni weithio ac addasu pethau fel bod angen.
Roedd y disgyblion hefyd yn holl bwysig trwy gydol y prosiect. Cymerodd y disgyblion ran yn y cynllunio a’r paratoi, gan gynnwys ymarfer teithio gyda phasbortau, trafod hediadau ac ymchwilio i gyrchfannau.
Pa weithgareddau wnaethoch chi gymryd rhan ynddyn nhw yn Ffrainc a Sbaen?
Roedd ein taith i Ffrainc yn brofiad bythgofiadwy i bawb. Roedd teithio dramor gyda’n gilydd am y tro cyntaf erioed yn brofiad a fydd yn aros yng nghof y disgyblion a’r staff am byth.
Ar ôl misoedd o drefnu a pharatoi, ffwrdd â ni i’r awyr las am y daith fer i Faes Awyr Charles de Gaulle, Paris.
Yn ystod yr ymweliad â Paris, archwilodd y disgyblion y strydoedd ac wedyn aeth pawg ar daith gwch ar yr Afon Seine. Roedd golygfa fendigedig o’r Twr Eiffel, ac roedd pawb wedi syfrdanu gan ei faint a’i uchder un o dirnodau enwocaf y byd.
Yng ngeiriau un disgybl:
Wythnos orau fy mywyd oedd hi wir. Diolch yn fawr iawn.
Mis Mai 2026, cafodd grŵp o ddisgyblion ar ein Llwybr Galwedigaethol y cyfle i dreulio wythnos fythgofiadwy yn Barcelona.
Yno fe aeth y disgyblion ar ymweliad arbennig i ysgol leol, Ysgol La Ginesta, lle cawsant y cyfle i gymharu agweddau ar ‘Les’ gyda disgyblion o Gymru. Roedd hwn yn brofiad gwerthfawr iawn, gan alluogi pawb i ddysgu am wahanol ddulliau o gefnogi lles disgyblion. Er bod iaith yn rwystr – roedd y cyfathrebu gweledol a’r cymdeithasu’n wych i’w brofi.
Cafodd y disgyblion amser hefyd i archwilio rhai o atyniadau enwocaf Barcelona, gan gynnwys La Sagrada Familia, taith lawr y Las Ramblas, a pharc Port Aventura. I rai o’r disgyblion lwcus, roedd cyfle hyd yn oed i wylio gêm bêl-droed Barcelona – profiad na fyddant byth yn ei anghofio.
Bu’r daith hefyd yn gyfle i drio diwylliant a bwyd lleol, gyda nifer yn mentro blasu tapas am y tro cyntaf – profiad newydd a phleserus i bawb!
Roedd yr wythnos yn llawn hwyl, dysgu a datblygiad personol, gan ddatblygu hyder, annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol.
Pa effaith mae’r ymweliadau wedi’i chael ar y disgyblion?
Trwy’r teithiau, datblygodd y disgyblion ystod eang o sgiliau bywyd. Roeddent yn ymarfer cyfathrebu â phobl newydd, yn dysgu rheoli amser drwy gadw at amserlenni teithio a gweithgareddau, yn defnyddio arian mewn gwahanol sefyllfaoedd ac arian tramor, ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hunan-ofal.
Roedd yr effaith yn amlwg. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn eu hunan-hyder, eu hannibyniaeth a’u parodrwydd i roi cynnig ar brofiadau newydd. Roedd llawer o’r disgyblion a oedd yn bryderus yn dangos llawer mwy o hyder erbyn diwedd y teithiau. Roeddent yn fwy hyderus wrth wneud penderfyniadau, datrys problemau bach yn annibynnol a gweithio’n effeithiol fel rhan o grŵp.
Yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol, cafodd y disgyblion gyfle i ehangu eu gorwelion drwy brofi diwylliannau newydd, defnyddio systemau trafnidiaeth gwahanol ac ymweld â lleoedd na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i’w gweld. Roedd hyn yn cyfrannu’n sylweddol at eu lles, gan gynyddu eu hymdeimlad o gyflawniad, cyffro a mwynhad.
Ydy’r profiad wedi cael effaith barhaol ar y staff a’r ysgol yn ehangach?
Mae’r prosiect wedi cryfhau gallu’r staff i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel.
Mynychodd aelodau o’r staff gwrs lles yn y Ffindir, gan ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach i gefnogi iechyd meddwl, lles ac annibyniaeth dysgwyr. Arweiniodd hyn at syniadau ac arferion newydd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar amgylchedd yr ysgol tuag at les a dysgu gan gyfrannu at amgylchedd dysgu mwy cefnogol i’r holl ddisgyblion.
Yn ogystal, sefydlwyd partneriaeth lwyddiannus gyda Choleg La Ginesta yn Barcelona, sydd wedi cryfhau cysylltiadau rhyngwladol ac wedi creu cyfleoedd i rannu arferion da, gan gyfoethogi profiadau dysgu’r staff a’r disgyblion fel ei gilydd.
Mae’r prosiect hefyd wedi codi proffil dysgu rhyngwladol o fewn yr ysgol ac wedi dangos gwerth rhaglenni fel Taith wrth ddarparu cyfleoedd na fyddai fel arfer ar gael i’n dysgwyr. Bydd yr effaith hon yn parhau wrth i’r ysgol adeiladu ar y partneriaethau a’r arferion newydd a ddatblygwyd yn ystod y prosiect, gan sicrhau buddion hirdymor i ddisgyblion, staff a’r gymuned ysgol ehangach.
Fyddech chi’n argymell cyfnewid dysgu rhyngwladol i ysgolion eraill?
Wrth gwrs! Mae’r prosiect yma wir wedi codi dyheadau’r disgyblion ar gyfer y dyfodol.
Ein prif gyngor i sefydliadau eraill fyddai dechrau sefydlu partneriaethau mor gynnar â phosibl, bod yn hyblyg os bydd angen newid cynlluniau, a manteisio’n llawn ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Taith.
Heb y grant gan Taith, ni fyddai’n bosib trefnu profiadau mor anhygoel. Rydym yn teimlo’n ffodus iawn. Diolch o galon am ein galluogi i agor drysau’r byd i’n disgyblion, ac am roi cyfleoedd arbennig i ni fel staff gael mwynhau profiadau unigryw gyda nhw.